ϳԹ

Skip page header and navigation

Yn ddiweddar mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi arwain cyfres o weithdai hyfforddiant proffesiynol, ar gais Awdurdod Addysg Sir Benfro, i hyrwyddo dysgu seiliedig ar chwarae ar draws ysgolion Cymru.  Datblygwyd y gweithdai, â’r teitl “Addysgeg Chwareus”, a’u hwyluso gan ddarlithwyr PCYDDS Paul Darby a Natasha Jones o’r Tîm Blynyddoedd Cynnar, gan ddilyn cyflwyniad llwyddiannus a wnaethpwyd i Gynghorwyr Herio a Chynrychiolwyr Addysg Lleol ar draws Cymru. 

Playful Pedagogies training in Pembrokeshire

Canolbwyntiai’r gweithdy rhyngweithiol diwrnod o hyd ar bwysigrwydd profiadau dysgu dilys, ymarferol dan do ac yn yr awyr agored mewn lleoliadau addysg gynradd. 

 Bu pwysigrwydd profiadau dysgu chwareus ac amgylcheddau effeithiol yn ffrâm i’r gweithdy.  Datblygwyd yr amgylcheddau dysgu i ymgorffori gweithgareddau drwy brofiadau ymarferol y gellid mynd â nhw yn ôl i’w harfer mewn ysgolion.  Cefnogwyd y cynnwys gyda fframwaith damcaniaethol cadarn yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Leoliadau Nas Cynhelir yng Nghymru. 

Meddai Paul Darby, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS: 

“Mae’r gweithdai hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth, mae’r brwdfrydedd a’r awydd y mae’r ymarferwyr yn eu dangos wrth gefnogi plant yn wych.   Mae’r bartneriaeth â’r staff hyn a’r Awdurdod Addysg yn gadarnhaol iawn ac mae’n arbennig o bwysig i mi fod beth rydym ni’n ei ddysgu gyda’n gilydd yn dylanwadu ar arfer.   Rwy’n meddwl bod Tash a minnau’n dysgu hefyd a daw pob sesiwn â safbwyntiau newydd gan ddatblygu’r cynnwys.   Diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn brofiad mor werthfawr.”

A group of teachers on a training course outside finding out more about early years education

Ychwanegodd Natasha Jones, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar:  

“Mae chwarae wrth wraidd datblygiad plentyndod cynnar, ac mae’r gweithdai hyn yn ymwneud â grymuso ymarferwyr i ddeall ei botensial llawn.  Drwy brofiadau dysgu ymarferol, rydym yn archwilio ffyrdd arloesol o greu amgylcheddau chwareus a deniadol, lle gall plant ffynnu a thyfu.  Gobeithio y bydd yr holl ymarferwyr yn gadael y sesiynau hyn yn teimlo’n hyderus ac yn sicr ei bod yn iawn i chwarae, yn wir, mae’n sylfaenol o ran cefnogi cariad gydol oes plant at ddysgu.  Edrychaf ymlaen at barhau gyda’r gweithdai hyn, i ysbrydoli pobl eraill ac i gael f’ysbrydoli. ”

Cafwyd mwy na 100 o fynychwyr i’r gweithdai “Addysgeg Chwareus” ar draws wyth sesiwn, yn cynnwys penaethiaid gweithredol, penaethiaid a dirprwy benaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu, ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar.  Canmolodd mynychwyr y gweithdy am ei gydbwysedd o ran cynnwys damcaniaethol ac ymarferol, gydag adborth yn rhoi sylw i’r cyfle i adfyfyrio ar eu harfer a’i wella. 

Tanlinellai adborth gan Awdurdod Addysg Sir Benfro lwyddiant y gweithdy ymhellach, gan nodi’i effaith gadarnhaol ar ysgolion, yn cynnwys dwy a oedd cyn hynny dan fesurau arbennig ond sydd ers hynny wedi gwella eu harferion blynyddoedd cynnar yn sgil yr hyfforddiant.  Cymerodd Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, ddiddordeb arbennig yn y rhaglen, gan ganmol yr Awdurdod am ganolbwyntio ar ddatblygiad plant. 

Mae llwyddiant y gweithdai wedi arwain at gydweithio parhaus rhwng PCYDDS ac Awdurdod Addysg Sir Benfro, gyda sesiynau hyfforddi wedi’u cynllunio yn y dyfodol. 

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrsiau Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS ewch i: Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar| Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk) neu cysylltwch â Glenda Tinney g.tinney@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon