Archwiliwch Eich Creadigrwydd gyda Rhaglen Celf Liw Nos PCYDDS
Unwaith eto mae Coleg Celf Abertawe yn PCYDDS yn rhedeg ei raglen boblogaidd iawn Celf Liw Nos , cyfres o gyrsiau gyda’r nos a luniwyd ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau creadigol mewn amryw o ddisgyblaethau. Gan redeg gydol y flwyddyn, mae Celf Liw Nos yn cynnig cyrsiau Lefel 4 achrededig (10 credyd), sy’n berffaith i ddechreuwyr neu’r rheini sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth mewn meysydd creadigol megis dylunio a’r celfyddydau cymhwysol, ffotograffiaeth, ffilm, y cyfryngau digidol, a chelf gain.
Cynhelir y cyrsiau yng nghyfleusterau’r coleg sydd o’r radd flaenaf yng Nghyfnewidfa Ddylunio Alex a Chanolfan Celf, Dylunio a’r Cyfryngau Dinefwr. Gyda mynediad at offer o safon diwydiant a chyfarwyddyd arbenigol, gall cyfranogwyr ddatblygu eu portffolios, archwilio pynciau newydd, neu hyd yn oed baratoi i astudio ymhellach.
Eleni bydd y cwrs Patrymau Arwyneb ar gyfer Tecstilau, sy’n dechrau ym mis Hydref, yn cael ei addysgu gan y dylunydd ffasiwn eco-ganolog Lucy Ralph a raddiodd o PCYDDS yn ddiweddar ac sydd â’r enw proffesiynol ‘Lucytrousers.’
Mae Lucy yn ddylunydd a hwylusydd gweithdai llawrydd â brwdfrydedd am ffasiwn cynaliadwy. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Hacer ar Brosiect Bioffilig Abertawe ac mae’n adnabyddus am ei dulliau arloesol o ran dylunio ffabrigau ac uwchgylchu.
Bydd yn arwain gweithdai ar ddylunio byrddau hwyliau a sgrin-brintio gyda ffocws ar uwchgylchu a ffasiwn cynaliadwy, gan wneud y cwrs hwn yn angenrheidiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arferion dylunio ecogyfeillgar.
Mae dull addysgu deinamig Lucy yn tynnu ar ei phrofiad ei hun fel myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn PCYDDS, lle mireiniodd ei sgiliau wrth greu ffasiwn arloesol a chynaliadwy.
“Gwnaeth fy nghyfnod fel myfyriwr fy siapio fel dylunydd,” meddai Lucy. “Roedd yn brofiad dysgu deinamig a anogai arbrofi ar draws nifer o ddisgyblaethau. Roeddwn i’n dwlu ar gael mynediad i amryw o weithdai a’r cyfle i gymryd rhan mewn briffiau byw a phrosiectau hunangyfeiriedig, a wnaeth fy mharatoi at fy ngyrfa.”
Cynhelir y cyrsiau unwaith yr wythnos gyda’r nos (5.30pm i 8.30pm, gan ddarparu cyfle hyblyg ar gyfer dysgwyr dros 16 oed i ddilyn eu huchelgais creadigol.
Gall myfyrwyr PCYDDS o feysydd pwnc eraill wneud cais am fwrsarïau datblygu gyrfa i dalu am £200 o ffi’r cwrs, gan ei gwneud yn ffordd fforddiadwy o ddatblygu neu ehangu portffolio celf.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071