ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu llwyddiant mewn tablau cynghrair prifysgolion dau bapur newydd cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw. Yn Nhabl Cynghrair Prifysgol y Guardian 2025, mae’r Brifysgol wedi cael ei gosod yn 7fed yn y DU ac yn ail yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ag addysgu ac yn y 5ed yn y DU ac yn ail yng Nghymru am foddhad myfyrwyr gyda’r adborth a roddwyd i fyfyrwyr.

A group of happy graduates throwing their caps into the air in celebration.

Ar lefel pwnc mae’r Brifysgol wedi’i gosod yn yr 20 uchaf mewn:

  • Ffasiwn a Thecstilau 2il yn y DU allan o 46, 1af yng Nghymru
  • Peirianneg Fecanyddol 3ydd yn y DU allan o 67, 1af yng Nghymru
  • Addysg 6ed yn y DU allan o 91, 1af yng Nghymru
  • Gwyddor Chwaraeon 6ed yn y DU allan o 86, 2il yng Nghymru
  • Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth 7fed yn y DU allan o 67, 1af yng Nghymru
  • Celf Gain 12fed yn y DU allan o 60, 1af yng Nghymru
  • Dylunio Graffig 13eg yn y DU allan o 62, 1af yng Nghymru
  • Seicoleg yn 19eg yn y DU allan o 116, 2il yng Nghymru
  • Systemau Cyfrifiadureg a Gwybodaeth 20fed yn y DU allan o 111, 1af yng Nghymru

Mae’r Guardian yn rhestru prifysgolion yn ôl naw mesur gwahanol: gan gynnwys pa mor fodlon yw myfyrwyr y flwyddyn olaf gyda’u cyrsiau, addysgu ac adborth, gwariant fesul myfyriwr; y gymhareb myfyrwyr/staff; rhagolygon gyrfa graddedig; pa raddau y mae angen i ymgeiswyr gael lle; sgôr gwerth ychwanegol sy’n cymharu cymwysterau mynediad myfyrwyr â chanlyniadau eu gradd derfynol.

Cyhoeddodd y Daily Mail hefyd ganlyniadau tabl cynghrair heddiw gan osod Y Drindod Dewi Sant:

  • 1af yng Nghymru a’r 4ydd yn y Deyrnas Unedig am Ragoriaeth Addysgu, 
  • 2il yng Nghymru a chyd-4ydd yn y DU ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr, 
  • 2il yng Nghymru ac 11eg yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Academaidd y Brifysgol yn y Brifysgol:

“Rydym yn croesawu canlyniadau’r tablau cynghrair a gyhoeddwyd heddiw. Rydym yn diolch i’n holl staff am eu cyfraniad i’r set ardderchog hon o ganlyniadau. Mae’r ffaith ein bod wedi sgorio’n uchel am ragoriaeth a chefnogaeth addysgu yn adlewyrchu’r ymrwymiad a roddwn ar brofiad myfyrwyr.  Mae’n braf iawn gweld hefyd bod cymaint o’n pynciau wedi cael eu gosod yn yr 20 uchaf yn y DU yn Nhabl Cynghrair Prifysgol y Guardian eleni.  Mae’n dangos cryfder ein pynciau ar draws ein campysau ac yn dangos ein henw da ers tro yn y meysydd hyn.â€


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon