ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o fod yn un o brif gyfranogwyr Ffoto Cymru: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru gyntaf erioed, sy’n cael ei lansio ledled Cymru ym mis Hydref 2024.

a poster promoting Chloe Davies's Work

Yn ŵyl ffotograffiaeth eilflwydd newydd dan arweiniad Ffotogallery, mae Ffoto Cymru yn adeiladu ar lwyddiant ei rhagflaenydd, Gŵyl Diffusion, ac mae’n addo cynnig llwyfan unigryw i egin ffotograffwyr a rhai sydd wedi ennill eu plwyf.

Mae’r ŵyl eleni yn tynnu sylw at artistiaid a thalent rhyngwladol yng Nghymru, gyda chyfranogiad PCYDDS yn tanlinellu ei hymrwymiad i feithrin creadigrwydd a hyrwyddo’r celfyddydau. Mae Ffoto Cymru yn gyfle i fyfyrio ar bŵer adrodd straeon gweledol a’i allu i herio canfyddiadau, meithrin deialog, a dathlu amrywiaeth.

Eleni, mae’r ŵyl yn rhoi pwyslais arbennig ar ddathlu cyfraniadau ffotograffwyr benywaidd o dan y thema “What You See is What You Get?”. Mae’r ŵyl yn herio sut rydym yn gweld ac yn dehongli delweddau a’u rôl wrth lunio diwylliant a hunaniaeth, o archifau hanesyddol i dechnolegau AI modern. 

Bydd Chloe Davies, un o raddedigion ffotograffiaeth Y Drindod Dewi Sant, ymhlith yr artistiaid dan sylw yn Ffoto Cymru, yn cyflwyno ei harddangosfa unigol fawr gyntaf, If You Kiss Him, You Won’t Dream About Him, yn Stiwdio Griffith, rhan o Gampws Dinefwr Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, o 1-24 Hydref. Mae’r arddangosfa’n archwiliad dwfn o drawma trawswladol trwy gyfrwng ffotograffiaeth, delwedd symudol, a pherfformiad.

Yn ddiweddarrhoddodd The Guardian  adran Cynhyrchu a Ffotograffiaeth Ffilm yn PCYDDS yn y 7fed safle yn y DU allan o 67, sef y 1af yng Nghymru.

Meddai Ryan Moule, Pennaeth Ffotograffiaeth PCYDDS:

“Mae’n bleser cael cynnal arddangosfa unigol Chloe Davies ‘If you kiss him, you won’t dream about him’, yn rhan o ŵyl ryngwladol gyntaf Ffoto Cymru 2024 o ffotograffiaeth gyda Ffotogallery. Fel cyn-fyfyriwr yn ein rhaglen ffotograffiaeth, mae’n bleser cael gweithio gyda Chloe ar ei harddangosfa unigol fawr gyntaf, sy’n archwilio trawma traws-genhedlaeth trwy ffotograffiaeth, delwedd symudol a pherfformiad.”

Yn ogystal ag arddangosfa Chloe Davies, mae’r Drindod Dewi Sant yn dathlu rhaglen ehangach Ffoto Cymru, sy’n cynnwys gwaith gan amrywiaeth o ffotograffwyr benywaidd newydd a sefydledig:

  • Cyn-fyfyrwyr BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithgaredd Gweledol Y Drindod Dewi Sant, Ada Marino ym Mhrifysgol Wrecsam a Stryd Womanby, Caerdydd. 1-31 Hydref.
  • Jessie Edwards-Thomas yng Nghapel y Fynwent, Penarth. 1-31 Hydref.
  • Adéọlá Dewis yng Nghastell Cyfartha, Merthyr. O 11 Hydref ymlaen.
  • Holly Davey yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Hydref 1-31.
  • Artistiaid Foto Féminas (sefydliad a ddatblygwyd gan gyn-fyfyriwr Ffotograffiaeth Ddogfennol PCYDDS Veronica Sanchez Bencomo) Julieta Anaut, Luiza Possamai Kons, a Lorena Marchetti yn Oriel Elysium, Abertawe. 5-31 Hydref.
  • Marian Delyth, un o ffotograffwyr uchaf ei barch Cymru, yn Yr Hen Lys, Rhuthun. 3-31 Hydref.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon