Lladin (Rhan amser) (PGCert)
Yn bennaf mae’r cwrs Lladin (MA) o ddiddordeb i’r rhai sydd am ddysgu Lladin i lefel uwch a thu hwnt a mynd i’r afael â’u hymchwil eu hunain i awdur neu awduron penodol.
Gallwch ddechrau ar lefel dechreuwyr llwyr, canolradd neu lefel uwch, yn seiliedig ar eich gwybodaeth a’ch cymwysterau presennol.
Gall myfyrwyr astudio:
- Lladin (MA)
- Lladin (Diploma Ôl-raddedig)
- Lladin (Tystysgrif Ôl-raddedig)
I’r rhai sydd wedi bod yn astudio Lladin yn breifat, rydym yn cynnig prawf i’w gosod ar y lefel gywir o ran dysgu iaith.
Gall ymgeiswyr PhD, neu’r rhai sy’n bwriadu cychwyn ar PhD, ddefnyddio’r radd hon i wella eu cymhwysedd mewn Lladin. I’r rhai sydd â diddordeb i ddysgu Lladin ar unrhyw lefel, gall y radd Lladin (MA) ddarparu cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’r graddau mewn Lladin ar gael fel opsiynau rhan-amser yn unig.
Manylion y cwrs
- Ar-lein
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gaffael a/neu ddatblygu eu sgiliau mewn Lladin ac, yn dibynnu ar eu gallu ieithyddol, gellir cychwyn ar lefel dechreuwyr, canolradd neu uwch.
Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys 60 credyd, y Diploma Ôl-raddedig yn 120 credyd, a’r MA yn 180 credyd (gan gynnwys traethawd hir 60 credyd).
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
(60 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd israddedig dosbarth 2.2 ar gyfer astudio’r cwrs gradd hwn. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal.
-
Mae ein graddau iaith mewn Lladin yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau ac arholiadau traddodiadol, cewch eich asesu trwy sylwebaethau a phrofion yn y dosbarth. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Mae llawer o fodiwlau iaith yn cynnwys arholiad; bydd Cofrestrfa PCYDDS yn rhoi gwybod i’r dysgwyr o bell ynglŷn â threfniadau’r arholiadau, a gall dysgwyr o bell ofyn am gymorth y tiwtoriaid wrth wneud trefniadau ar gyfer arholiadau.
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r cwrs Lladin (MA) yn rhoi sylfaen gref ar gyfer swyddi ôl-raddedig, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd ieithyddiaeth neu gyda’r iaith Ladin. Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma mewn Lladin cyn ymgymryd â PhD yn y Clasuron.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.