Arfer Archeolegol (Llawn amser) (MA)
Mae’r cwrs MA mewn Arfer Archeolegol wedi’i chynllunio i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer dadansoddi ôl-gloddio sy’n amrywio o ddadansoddi amgylcheddol i drin a dadansoddi arteffactau.
Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli prosiect a/neu weithio yn y diwydiant treftadaeth.
Mae Llwybr Arbenigwr Archeolegol ar gael hefyd sy’n cynnig prentisiaethau i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs MA hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer graddedigion Archeoleg a myfyrwyr eraill sy’n dymuno dod yn ymarferwyr archeolegol yn y maes. Fe’i cynlluniwyd yn benodol i ganiatáu i’r myfyrwyr hyn feithrin sgiliau ymarferol wrth drin a dehongli deunyddiau ôl-gloddio. Agwedd allweddol o’r rhaglen yw ei dull ymarferol, gydag ymarferion trin a thrafod a dysgu yn y labordy. Mae hyn wedi’i ymgorffori’n drylwyr o fewn fframwaith damcaniaethol sy’n briodol i ddehongliad archeolegol cyfredol, ac yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr gyflwyno’r deunydd archeolegol mewn amrywiaeth o gyfryngau i gynulleidfaoedd amrywiol.
Yn Rhan Un, mae pob modiwl yn werth 30 credyd ac, yn ychwanegol at yr un modiwl gorfodol, caiff myfyrwyr ddewis o’r rhestr o fodiwlau dewisol a nodir isod.
Yn Rhan Dau, caiff myfyrwyr gyfle i ymchwilio’n fanwl i destun sydd wedi apelio atyn nhw’n arbennig ac ysgrifennu traethawd hir estynedig (am 60 credyd). Bydd goruchwyliwr yn cael ei glustnodi i bob myfyriwr er mwyn helpu i’w harwain drwy eu traethawd hir.
(Mae MA Arbenigwr Archeolegol ar gyfer graddedigion sydd eisoes yn gweithio ym maes archaeoleg ar gael hefyd, fel rhan o gynllun prentisiaeth - dysgu cyfunol)
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
-
Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: adroddiadau, traethodau, dadansoddi gwrthrychau, dadansoddiadau cymharol, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.
-
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â gradd mewn archaeoleg ond a hoffai ddewis modiwlau mwy ymarferol i’w helpu i wella eu rhagolygon gyrfa ym maes archaeoleg.