ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Athroniaeth a Hanes (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed/ Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 Bwyntiau UCAS

Mae’r radd BA mewn Athroniaeth a Hanes yn archwilio’n fanwl i syniadau athronyddol a digwyddiadau hanesyddol. 

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o’r cysyniadau sylfaenol, sgiliau meddwl beirniadol, a chyd-destunau hanesyddol sydd wedi siapio ffordd o feddwl a chymdeithas ddynol.

Mae athroniaeth yn archwilio’r cwestiynau mawr: Pwy ydym ni? Beth yw ein lle ni yn y byd? Sut y dylem ni fyw? Beth yw realiti? Mae athroniaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn trwy ddadleuon, ond hefyd trwy weledigaeth a dychymyg.

Mae Hanes yn ymchwilio i lawer o wahanol agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, milwrol a diwylliannol ar hanes. Mae’n cyfuno astudio newid dros gyfnod mewn modylau arolwg eang sy’n cyflwyno agweddau allweddol ar y byd canoloesol a modern, gyda modylau â mwy o ffocws ar bynciau fel cymdeithas y Normaniaid a Chrwsadau, y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain y 1980au.

Mae’r graddedigion wedi mynd i ystod eang o sectorau’n cynnwys:  Y Byd Academaidd, Eiriolaeth, Dadansoddwr, Busnes, Llywodraeth, Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfa, twristiaeth), Addysg, y Gyfraith, y Cyfryngau, Cyrff anllywodraethol ac Elusennau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
VV5C
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddull trochi o ddysgu sy’n cynnig ystod amrywiol o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau gweithdy.
02
Byddwch yn mynychu dosbarthiadau mewn grwpiau bach sy’n canolbwyntio ar weithgareddau trafod a dysgu i annog hunanddatblygiad ac adfyfyrio beirniadol, a ystyrir yn allweddol i ddatblygu galluoedd personol a phroffesiynol.
03
Mae’r BA mewn Athroniaeth a Hanes yn cynnig cyfle unigryw i edrych yn ddwfn ar gwestiynau dwys a naratifau hanesyddol sydd wedi siapio gwareiddiad dynol ryw.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd BA mewn Athroniaeth a Hanes yn archwilio’n fanwl i syniadau athronyddol a digwyddiadau hanesyddol. 

Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau asesu canlynol: traethodau rhwng, dadansoddi dogfennau, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaenol wrth astudio athroniaeth a hanes.

Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Y Byd Modern

(20 credydau)

Gwneud Hanes: Y Gorffennol ar Waith

(20 credydau)

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd
Cyflwyniad i Foeseg

(20 credydau)

Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Rhyddid, Cydraddoldeb a Chyfiawnder: Cyflwyniad i Athronyddiaeth Wleidyddol

(20 credydau)

Y Cwestiynau Mawr

(20 credyd )

Mae’r ail a’r drydedd flwyddyn yn rhoi golwg ddyfnach ar bynciau arbenigol. Gallwch ddewis o fodiwlau hyblyg i wella eich sgiliau dadansoddi a meddwl beirniadol.

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Athroniaeth y Meddwl: Dynion, Anifeiliaid a Pheiriannau

(20 credyd)

Athroniaeth yr 20fed Ganrif

(20 credyd)

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Actifiaeth, Protest ac Ymgyrchu dros Gyfiawnder Byd-eang

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Cyrff Cymhleth: Cwestiynu Rhywedd, Crefydd a Rhywioldeb

(20 credyd)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Lleoliad Proffesiynol
Global Genocides

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i Â£50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Mae’r radd Hanes yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. Yn Llambed, mae gennym hanes cadarn o helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd – ar lefel MA a PhD.

    • Academia
    • Busnes
    • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol; gwasanaeth sifil.
    • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
    • Newyddiaduraeth
    • Y gyfraith ac eiriolaeth
    • Llywodraeth leol, cymuned, gwleidyddiaeth leol
    • ³Û³¾³¦³ó·É¾±±ô&²Ô²ú²õ±è;ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ
    • Addysgu

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau