ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Astudiaethau Celtaidd (Llawn amser) (MA)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Llawn amser

Mae ein rhaglen Astudiaethau Celtaidd yn rhaglen dysgu o bell unigryw sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sy’n ymddiddori mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd astudio amryw agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd. 

Gwnawn eich tywys trwy rhai o’r testunau pwysicaf a ysgrifennwyd erioed yn yr ieithoedd Celtaidd a’ch helpu i’w darllen yn feirniadol. Byddwch yn dysgu ble mae dod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf ar y bobloedd Geltaidd, y Mabinogi a llenyddiaeth Arthuraidd, derwyddon a’r seintiau Celtaidd a sut i gwestiynu’r gwahanol fersiynau o’r gorffennol a gyflwynwyd gan haneswyr, ieithwyr, llên-gwerinwyr ac archeolegwyr. 

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudio ymhellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n rhwydd i’r gweithle.

Mae’rrhaglen ar gael yn llawn amser neu’n rhan amser, ac fel MA (180 credyd), Diploma (120 credyd) neu Dystysgrif (60 credyd). 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Os hoffech ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth, crefydd a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol i chi.
02
Gellwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd.
03
Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd meistr amlddisgyblaethol hon yn caniatáu myfyrwyr i astudio ystod eang o bynciau yn y meysydd canlynol: hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol cynnar a diweddar, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth Arthuraidd, llên gwerin, crefydd, ysbrydolrwydd ac eiconograffi.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon (ac eithrio’r Gymraeg), oherwydd bydd y myfyrwyr yn astudio ffynonellau Celtaidd mewn cyfieithiad. Addysgir y rhaglen trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoddir cyfle i fyfyrwyr fireinio’u Cymraeg ysgrifenedig.

Yn Rhan Un gwerth pob modwl yw 30 credyd ac yn ogystal ag astudio’r ddau fodwl gorfodol HPCS7003 Y Celtiaid o’r Cychwyn i’r Cyfnod Modern a HPCS7002 Yr Arthur Celtaidd a chwedlau’r Mabinogi, bydd myfyrwyr yn cael dewis dau fodwl dewisol o blith y rhestr o fodylau dewisol a geir isod.

Wedyn, yn Rhan Dau, rhoddir cyfle i’r myfyrwyr ymchwilio’n fanwl i bwnc sy’n apelio atynt ac ysgrifennu traethawd ymchwil estynedig. Bydd cyfarwyddwr yn eu cynorthwyo ac yn goruchwylio eu hymchwil. Cydweithredwn â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a goruchwylir rhai o’n myfyrwyr MA gan staff y Ganolfan sydd hefyd yn cynnig arbenigedd o’r radd flaenaf ym maes Astudiaethau Celtaidd.

Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr di-Gymraeg ddygu’r Gymraeg.

Gorfodol 

Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau'r Mabinogi

(30 credydau)

Y Celtiaid: o'r Cychwyn i'r Cyfnod Modern

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Astudiaethau Celtaidd)

(60 credydau)

Dewisol

Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o'r Rhanbarthau Celtaidd

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Cymraeg i Ddechreuwyr

(30 credydau)

Adfywio'r Celtiaid: O'r Ddeunawfed Ganrif Hyd Heddiw

(30 credydau)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto i gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ôl-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd ac y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.

  • Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), astudiaethau cymharol, gwerthfawrogiadau ac adolygiadau llenyddol, aseiniadau byrion, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheini sydd am ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r rhanbarthau Celtaidd er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith. Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen yn rhan amser eisoes mewn gwaith cyflog ac yn dymuno cael cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o hyrwyddo neu newid rôl eu swydd. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau twristaidd neu dreftadaeth. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen hefyd i wneud ymchwil bellach mewn Astudiaethau Celtaidd ar lefel PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau