Astudiaethau Canoloesol (Rhan amser) (MA)
Mae’r cwrs MA mewn Astudiaethau Canoloesol yn rhaglen ryngddisgyblaethol sy’n galluogi myfyrwyr i astudio’r cyfnod Canoloesol o amrywiaeth o ddisgyblaethau pwnc gwahanol sy’n cwmpasu Hanes, Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Celtaidd ac Archaeoleg.
Mae gan y Brifysgol hanes sydd wedi’i hen sefydlu o waith ymchwil ac addysgu ar y cyfnod canoloesol. Mae ei darpariaeth ar bob lefel wedi galluogi myfyrwyr i astudio’r cyfnod Canoloesol a’r cyfnod Modern Cynnar gan ddefnyddio arbenigedd ac adnoddau staff arbenigol, yn enwedig daliadau Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen: adnodd unigryw sy’n gartref i Gasgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys dros 35,000 o weithiau print, 8 llawysgrif ganoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol, a 69 incunabula.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar gampws y Brifysgol yn Llambed neu drwy’r amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) a thechnolegau dysgu ar-lein Fe’i haddysgir trwy seminarau, gweithdai bach a thiwtorialau a goruchwyliaeth unigol sy’n galluogi rhoi adborth manwl a phersonol.
Mae mynediad i’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn galluogi dysgu ychwanegol, yn enwedig gweithdai, i ddigwydd y tu allan i’r sesiynau ac mae’n cefnogi datblygiad carfan o ymchwilwyr ymroddedig sy’n cefnogi ei gilydd.
Gorfodol
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credyd)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
-
Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, ymarferion ieithyddol, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.
-
Tua £300 ar gyfer deunydd darllen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae meysydd cyflogaeth yn cynnwys:
- Amgueddfeydd
- Archifau
- Y sector dreftadaeth
- Llenorion Proffesiynol
- Marchnata