Gwareiddiadau Hynafol (Llawn amser) (MA)
Mae’r MA mewn Gwareiddiadau Hynafol yn rhaglen unigryw, sydd ar gael ar y campws ac fel gradd dysgu o bell.
Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn yr henfyd astudio gwahanol agweddau ar hanes, archeoleg, a diwylliant gwareiddiadau hynafol amrywiol o’r hen Aifft i Mesopotamia, o Wlad Groeg Glasurol a Rhufain i Tsieina hynafol, o’r Oes Efydd Aegeaidd i Geltiaid gorllewin Ewrop.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r radd meistr amlddisgyblaethol unigryw hon yn caniatáu i fyfyrwyr astudio amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys y meysydd canlynol: Archaeoleg Aegeaidd a’r Dwyrain Agos, Hanes yr Henfyd, Eifftoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Tsieineaidd, yr Hen Destament, astudiaethau rhywedd, crefydd, ac eiconograffeg.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr henfyd ar gyfer y rhaglen hon, gan ei bod yn manteisio ar amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau a dulliau deallusol.
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.
Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud.
-
Bydd y modiwlau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau asesu. Nid oes arholiadau, ac mae pob fformat yn canolbwyntio ar elfen ysgrifenedig neu lafar. Bydd pob elfen ysgrifenedig yn arddangos gwahanol arddulliau o ysgrifennu academaidd ac maen nhw wedi’u cynllunio i annog meddwl yn feirniadol a hunan-fyfyrio. Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y gwahanol fformatau asesu yn uniongyrchol berthnasol i ystod eang o broffesiynau ymchwil cymhwysol a thu hwnt.
- Adolygiad Systematig
- Papur Briffio
- Cyflwyniad Proffesiynol
- Asesiad Sgiliau Ymarferol
- Traethawd Myfyriol
- Portffolio o gymwyseddau
- Cynnig ymchwil
- Papurau ymchwil
-
Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu mwy am yr henfyd, ond mae hefyd dewis o fodiwlau mwy ymarferol i helpu myfyrwyr i wella eu rhagolygon gwaith.
Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn rhan-amser eisoes mewn gwaith ac yn dymuno ennill cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o gael dyrchafiad yn eu swydd neu newid rôl eu swydd.
Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth neu dreftadaeth.