Hanes yr Hen Fyd (Llawn amser) (BA Anrh)
Ydych chi’n chwilfrydig am y byd clasurol? Mae ein gradd Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn eich gwahodd i archwilio gwareiddiadau diddorol Groeg a Rhufain. Y cwrs hwn yw eich porth i ddeall y diwylliannau hyn, lle byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau, o hanes a llenyddiaeth i gelf, mytholeg, a chrefydd.
Mae Groeg a Rhufain wrth wraidd y rhaglen hon. Byddwch yn dysgu am ffigurau dylanwadol fel Alecsander Fawr a Julius Caesar, gan archwilio eu heffaith ar y byd. Mae ein cwrs hefyd yn edrych ar fywyd bob dydd yn hynafiaeth Graeco-Rufeinig, gan ganolbwyntio ar faterion pwysig fel rhyw, caethwasiaeth, rhyfela, a’r economi. Mae’r pynciau hyn yn eich galluogi i ddeall sut roedd pobl yn byw, gweithio a meddwl yn yr hen amser.
Mae astudio gyda ni yn golygu y byddwch yn elwa o addysgu dan arweiniad ymchwil gan ein tiwtoriaid arbenigol. Mae’r dull hwn yn eich helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o hanes wrth ddatblygu eich syniadau a’ch dadleuon eich hun.
Yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddysgu am amrywiaeth o bynciau. Gallwch astudio’r wleidyddiaeth a’r strategaethau milwrol a luniodd ymerodraethau, yn ogystal â’r agweddau diwylliannol a wnaeth cymdeithasau hynafol yn unigryw. Mae pynciau fel iechyd, adloniant, marwolaeth, priodas, gwyddoniaeth ac addysg yn cynnig cipolwg ar fywydau pobl yn yr hen amser. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu sut y gwnaeth cymdeithasau hynafol helpu i lunio’r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Bydd ein gradd Hanes yr Henfyd yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol ac ymchwil sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn llawer o yrfaoedd. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn addysg, amgueddfeydd, y diwydiant treftadaeth, neu unrhyw faes sy’n gwerthfawrogi dealltwriaeth ddofn o’r gorffennol, mae ein cwrs yn darparu sylfaen gref.
Ymunwch â ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a darganfod sut y gall straeon Gwlad Groeg a Rhufain eich ysbrydoli a llunio eich dyfodol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Hanes yr Henfyd yn pwysleisio ymagwedd gyfannol at addysg, gan gyfuno astudiaeth academaidd drylwyr ag archwilio personol. Caiff myfyrwyr eu hannog i ymgysylltu â safbwyntiau hanesyddol amrywiol, datblygu sgiliau meddwl beirniadol, a dilyn eu diddordebau unigryw trwy brosiectau ymchwil a modiwlau rhyngddisgyblaethol. Ein nod yw meithrin dealltwriaeth ddofn o wareiddiadau hynafol wrth feithrin angerdd am ddysgu gydol oes.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys mythau a bywyd bob dydd diwylliannau hynafol. Mae modiwlau craidd yn canolbwyntio ar hanes, athroniaeth a mytholeg Groeg a Rhufain, gan gynnig gwybodaeth sylfaenol. Mae modiwlau dewisol, fel ieithoedd hynafol a thwf gwareiddiadau, yn caniatáu ichi deilwra eich astudiaethau. Mae’r flwyddyn hon yn annog chwilfrydedd ac yn ehangu eich dealltwriaeth o gymdeithasau hynafol.
Compulsory
(20 credydau)
(20 credydau)
Optional
(20 credydau)
(20 Credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20)
Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i hanes clasurol gyda modiwlau arbenigol ar fytholeg Rufeinig a chanoloesol, rhyfela hynafol, a phobl eiconig fel Cesar a Cicero. Gallwch addasu eich astudiaethau ymhellach trwy ddewis modiwlau dewisol neu gymryd rhan mewn cyfleoedd rhyngwladol.
Year A - Compulsory
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(Ancient History)
(20 Credydau)
Year A - Optional
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol sylweddol, a fydd yn eich galluogi i archwilio’n fanwl maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae modiwlau craidd ar ryfela hynafol, hanes Rhufain, a mytholeg yn dyfnhau eich arbenigedd. Mae modiwlau dewisol yn cynnig cyfleoedd i astudio diwylliannau amrywiol a rhyngweithiadau hanesyddol. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio dadansoddi beirniadol ac ymchwil, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau uwch neu weithgareddau proffesiynol.
Year A - Compulsory
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Year A - Optional
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Mae gradd yn Hanes yr Hen Fyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â gwaith traddodiadol megis rhoi sylwadau ar destunau, traethodau a phrofion yn y dosbarth, cewch eich asesu drwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar ac ar PowerPoint, fel unigolyn ac aelod o grŵp - creu crynodebau, adroddiadau adfyfyrio, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, arholiadau i’w gwneud gartref, wicis mewn grwpiau, creu cynlluniau prosiect, ac wrth gwrs, y traethawd hir.
Mae’r asesu amrywiol hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau i allu cyflwyno deunydd mewn modd clir a phroffesiynol, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Mae’r mathau eang hyn o asesu’n creu amrywiaeth ym mhrofiadau’r myfyrwyr, gan ganiatáu i chi archwilio’r pwnc mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n ymgorffori yn rhaglen Hanes yr Hen Fyd y sgiliau cyflogadwyedd penodol sy’n ddymunol, neu’n wir yn ofynnol gan gyflogwyr heddiw.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae meysydd gwaith posibl ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys:
- Busnes a Masnach
- Astudiaethau Pellach
- Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
- Y Cyfryngau a Chyhoeddi
- Addysgu
Nid oes un llwybr penodol i raddedigion Hanes yr Hen Fyd. Mae myfyrwyr sy’n graddio gyda ni’n parhau i ddilyn llwybrau traddodiadol addysgu, amgueddfeydd a threftadaeth, y gwasanaeth sifil ac ymchwil - academaidd, yn y llywodraeth a’r cyfryngau.
Fodd bynnag, mae’r sgiliau cyflogadwyedd a ymgorfforir yn y graddau a gynigiwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sicrhau bod gan ein graddedigion Hanes yr Hen Fyd y sgiliau a’r hyder i archwilio amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.
Yn wir, mae ein myfyrwyr sydd wedi graddio wedi archwilio dewisiadau o hyfforddwyr chwaraeon awyr agored i swyddogion carchar, o’r Lluoedd Arfog i yrfaoedd mewn amgylchedd meddygol, gyda detholiad da o rai ag anian entrepreneuraidd yn cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i greu eu cwmnïau eu hun.
Gan fanteisio ar bopeth maent wedi’i ennill drwy astudio Hanes yr Hen Fyd gyda ni, a’i gyfuno â Gwasanaeth Gyrfaoedd penodedig, mae gan raddedigion Hanes yr Hen Fyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr offer i ddilyn eu diddordebau lle bynnag y byddant yn eu harwain.