Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (Sylfaen, BA Anrh)
Mae’r rhaglen radd Archaeoleg yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ac yn y maes. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil maes a byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu ymarferol trwy gyfrwng ymchwiliadau archaeolegol ymarferol. Byddwch hefyd yn cael profiad mewn technegau labordy, sy’n rhan allweddol o ddeall a gweithio gyda gweddillion materol y gorffennol. Bydd y sgiliau rydych chi’n eu datblygu yma yn ddefnyddiol yn ystod y cwrs ac yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae Archaeoleg yn ymwneud ag archwilio’r gorffennol dynol drwy’r arteffactau mae pobl wedi’u gadael ar eu hôl. Mae rhai o’r gweddillion materol rydym yn eu hastudio yn cynnwys offer carreg, crochenwaith ac esgyrn. Trwy archwilio’r rhain, gallwn ddarganfod sut roedd pobl yn byw a sut y trefnwyd eu cymdeithasau. Rydym yn dysgu am y ffyrdd roedd dynoliaeth yn rhyngweithio â’r amgylcheddau o’u cwmpas a sut y gellir gweld eu syniadau am y byd yn y pethau a wnaethant.
Mae deall y gorffennol hefyd yn golygu ystyried y darlun ehangach, gan gynnwys adeiladau hanesyddol, henebion a thirweddau. Rydym yn archwilio sut mae bodau dynol wedi defnyddio’r tir a sut mae newid amgylcheddol wedi effeithio ar eu bywydau. Er mwyn deall sut roedd pobl yn byw, mae angen i ni hefyd ddysgu am eu credoau a sut roedden nhw’n gweld eu hunain ac eraill mewn bywyd a marwolaeth. Mae’r holl wybodaeth hon yn ein helpu i weld sut mae datblygiad dynol wedi llunio’r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Er mwyn astudio archaeoleg yn effeithiol, mae’n bwysig meddwl am gwestiynau damcaniaethol a moesegol. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel treftadaeth, cynrychiolaeth, ac effaith technoleg ar ein dealltwriaeth o’r gorffennol. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gall cymwysiadau digidol ein helpu i ddysgu mwy am gymdeithasau hynafol. Trwy archwilio’r meysydd hyn, gallwn ddeall yn well esblygiad y corff a’r meddwl dynol a syniadau dros amser.
Yn y rhaglen hon, cewch gyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau ar draws gwahanol feysydd astudio. Byddwch yn dysgu dulliau archaeolegol sy’n eich helpu i archwilio a dehongli’r gorffennol dynol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg a thechnegau modern i astudio DNA hynafol ac arteffactau. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil maes, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi roi ar waith yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn lleoliadau byd go iawn.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth ddyfnach o archaeoleg a’r gorffennol dynol. Byddwch yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i archwilio sut roedd pobl yn byw a sut mae eu bywydau wedi dylanwadu ar y byd rydym yn ei adnabod heddiw. Mae’r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig, gan agor drysau i astudiaethau pellach ac amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Archaeoleg yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr a diddorol, wedi’i gynllunio er mwyn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r gorffennol dynol trwy astudio gweddillion materol. Mae ein hathroniaeth yn pwysleisio cydbwysedd o wybodaeth ddamcaniaethol a gweithredu ymarferol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddi trwy ddysgu ymarferol a gwaith maes. Ein nod yw meithrin dealltwriaeth o sut mae dulliau archaeolegol yn cyfrannu at ein gwybodaeth o gymdeithasau’r gorffennol a’r presennol.
Mae Blwyddyn 1 yn cyflwyno hanfodion Archaeoleg a’r Dyniaethau, lle byddwch chi’n archwilio hanfodion y ddisgyblaeth. Byddwch yn dysgu am wahanol ddiwylliannau a datblygiad cymdeithasau o’r Aifft i’r Dwyrain Agos. Mae modiwlau dewisol yn darparu sylfaen gref o ran deall ffurfiant cymdeithasau dynol a’u rhyngweithio â’u hamgylcheddau.
Gorfodol
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae Blwyddyn 1 yn cyflwyno hanfodion Archaeoleg a’r Dyniaethau, lle byddwch chi’n archwilio hanfodion y ddisgyblaeth. Byddwch yn dysgu am wahanol ddiwylliannau a datblygiad cymdeithasau o’r Aifft i’r Dwyrain Agos. Mae modiwlau dewisol yn darparu sylfaen gref o ran deall ffurfiant cymdeithasau dynol a’u rhyngweithio â’u hamgylcheddau.
Gorfodol
(20)
Dewisol
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credits)
(20 Credydau)
Mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar ehangu eich gwybodaeth a’i rhoi ar waith ar gyfer pynciau mwy cymhleth. Trwy fodiwlau hyblyg byddwch yn cael cipolwg ar sut mae arteffactau a dulliau archeolegol yn llywio ein dealltwriaeth o ymddygiadau dynol a strwythurau cymdeithasol yn y gorffennol. Mae’r flwyddyn hon yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i archwilio sut roedd cymdeithasau yn y gorffennol yn wynebu ac addasu i heriau, gan ddyfnhau eich sgiliau dadansoddi.
Blwyddyn A
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
Mae Blwyddyn 3 yn cynnwys elfen ymchwil sylweddol trwy’r Prosiect Annibynnol, sy’n eich galluogi i ymchwilio’n fanwl i faes o ddiddordeb personol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i archwilio pynciau arbenigol. Mae modiwlau gwaith maes a chloddio yn cynnig profiad ymarferol, gan wella eich gallu i gynnal ymchwil a dadansoddi annibynnol. Mae’r flwyddyn olaf hon yn cyfuno eich dysgu, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfa mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig.
Blwyddyn A
(40 credydau)
Blwyddyn B
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn cynnwys:
- Rheoli ym meysydd llywodraeth a masnach
- Sector treftadaeth
- TGCh
- Gwaith y gymuned a llywodraeth leol
- Gwaith amgueddfeydd, arddangosfeydd ac archifau
- Archaeoleg maes proffesiynol
- Cyfleoedd ymchwil ac ôl-raddedig
- Addysgu, swyddog addysg
- Gwaith Gwirfoddol