Hanes yr Henfyd (Rhan amser) (MA)
Mae’r cwrs Hanes yr Henfyd (MA) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â’u bryd ar astudio hanes yr henfyd i ymgymryd â gradd uwch arbenigol sydd wedi’i theilwra i’r diddordebau hynny.
Os ydych chi’n dymuno ehangu eich gwybodaeth am hanes cymdeithasau Groeg a Rhufain yr Henfyd ar lefel ôl-raddedig, yna mae’r cwrs MA Hanes yr Henfyd yn addas i chi.
Mae rhaglen Hanes yr Henfyd yn caniatáu i chi astudio ystod eang o fodiwlau sydd nid yn unig yn cwmpasu ffigurau hynod ddiddorol fel Alecsander Fawr a Iŵl Cesar, ond hefyd agweddau sylfaenol ar fywyd bob dydd, megis rhyfela a’r economi.
Prif nod rhaglen feistr Hanes yr Henfyd yw rhoi ystod o gyfleoedd dysgu ac addysgu rhagorol i’n myfyrwyr. Rydym yn defnyddio dulliau ac agweddau arloesol sy’n gwella profiad dysgu ein myfyrwyr, gan eu paratoi ar gyfer y byd gwaith neu ymchwil academaidd bellach ar lefel doethuriaeth.
Manylion y cwrs
- Ar-lein
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs Hanes yr Henfyd (MA) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â’u bryd ar astudio hanes yr henfyd i ymgymryd â gradd uwch arbenigol sydd wedi’i theilwra i’r diddordebau hynny.
Mae myfyrwyr yn cael cynnig cydbwysedd o fodiwlau ar hanes Gwlad Groeg a Rhufain a gallant ganolbwyntio ar y naill neu’r llall o’r ddwy gymdeithas yn eu modiwl traethawd hir.
Mae’r modiwlau Groeg yn ymdrin â’r cyfnodau hynafol, clasurol a Helenistaidd tra bod y modiwlau sy’n ymwneud â Rhufain yn canolbwyntio ar y cyfnod imperialaidd, a’r berthynas rhwng Rhufain a’r Dwyrain.
Yn Rhan Un, mae pob modiwl yn werth 30 credyd ac, yn ychwanegol at y modiwl gorfodol HPAH7011 Theori a Methodoleg, caiff myfyrwyr ddewis o’r rhestr o fodiwlau dewisol a nodir isod (mae disgrifiad byr o bob modiwl ar gael yn yr adran ‘Modiwlau’).
Yn Rhan Dau, caiff myfyrwyr gyfle i ymchwilio’n fanwl i destun sydd wedi apelio atyn nhw’n arbennig ac ysgrifennu traethawd hir estynedig (am 60 credyd). Bydd goruchwyliwr yn cael ei bennu i helpu i’w harwain drwy eu traethodau hir.
System Blwyddyn A/B
Rydym yn gweithredu system Blwyddyn A/Blwyddyn B sy’n golygu mai dim ond bob yn ail flwyddyn y mae rhai modiwlau’n cael eu cynnig, tra bod eraill yn cael eu cynnig bob blwyddyn.
Mae’r system hon yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’n llawn amser gynllunio fel bod eu hastudiaethau’n dechrau yn y flwyddyn academaidd briodol, tra gall myfyrwyr rhan-amser gynllunio eu hastudiaethau yn unol â’r modiwlau sydd ar gael yn ystod eu gradd.
Gorfodol
(60 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
- Rhywedd yn yr Henfyd (30 credydau)
- Economi Gwlad Groeg yng Nghyfnod yr Henfyd a’r Cyfnod Clasurol (30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af ar gyfer mynediad i raglen Lefel 7.
Rydym yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. Mae angen gradd BA ar gyfer astudio’r cwrs Diploma Ôl-raddedig neu’r Dystysgrif Ôl-raddedig.
-
Mae ein gradd MA Hanes yr Henfyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu.
Yn ogystal â thraethodau traddodiadol, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau — llafar a PowerPoint — creu crynodebau, papurau cynhadledd mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir.
Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Mae’r myfyriwr yn cael ei asesu ar bwnc o’i ddewis ei hun mewn perthynas â phob modiwl, ac mewn ymgynghoriad â’r tiwtor perthnasol bob tro. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu trwy draethodau hir, ond asesir rhai modiwlau trwy ddulliau amgen, megis cyflwyniadau ar ffurf cynhadledd.
-
Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.