Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn Amser) (BA Anrh, Sylfaen)
Mae ein gradd Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen yn rhoi’r cyfle i chi archwilio’r gorffennol trwy amrywiaeth ddiddorol o fodiwlau sy’n cynnwys hanes Ewrop, yr Unol Daleithiau, a thu hwnt, o’r hen amser i’r oes fodern. Byddwch yn datblygu sgiliau deallusol a throsglwyddadwy gwerthfawr trwy amrywiol ddulliau asesu a ddefnyddir yn ein modiwlau.
Trwy astudio Hanes, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r gwahanol ffyrdd o lunio naratif hanesyddol. Mae’r rhaglen hon yn tynnu sylw at y cyfoeth a’r amrywiaeth mawr sydd gan hanes i’w gynnig.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch helpu i ofyn ac ateb cwestiynau penodol am y gorffennol. Byddwch yn dysgu dilyn y cwestiynau hyn trwy ymholi strwythuredig, gan ddewis a chael gwybodaeth o amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys ffynonellau gwreiddiol a thystiolaeth hanesyddol.
Mae ein modiwlau yn cynnwys hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol a hanes diwylliannol. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwilio a dadansoddi, gan ddysgu sut i ddehongli tystiolaeth a datblygu meddwl beirniadol.
Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu, gan eich helpu i gyflwyno’ch canfyddiadau yn glir ac yn argyhoeddiadol. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, gan wneud y radd hon yn ddiddorol ac ymarferol.
Bydd y radd Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen hon yn PCYDDS yn eich paratoi i ddeall a chyfrannu at ddadleuon hanesyddol. Byddwch yn datblygu’r gallu i ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth gymhleth, gan roi sgiliau i chi sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu gwneud dehongliadau yn seiliedig ar eich tystiolaeth eich hun o ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae’r radd hon nid yn unig yn cynnig dealltwriaeth ddofn o’r gorffennol ond hefyd yn rhoi sgiliau i chi sy’n berthnasol yn y byd sydd ohoni.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein gradd Hanes yn seiliedig ar addysgu trochol, a arweinir gan ymchwil. Byddwch yn cael profiad o ystod amrywiol o bynciau hanesyddol drwy ddysgu ymarferol a thrafodaethau grŵp bach, gan ddatblygu sgiliau hanfodol mewn dadansoddi hanesyddol a meddwl beirniadol.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Archwilio hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, a datblygu sgiliau ymchwil hanfodol.
(20 Credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae eleni yn rhoi golwg ddyfnach ar bynciau arbenigol. Gallwch ddewis o fodiwlau hyblyg i wella eich sgiliau dadansoddi a meddwl beirniadol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, a fydd yn eich galluogi i wneud ymchwil gwreiddiol ar bwnc o’ch dewis, yn ogystal â dewis modiwlau ychwanegol i gyd-fynd â’ch diddordebau. Erbyn diwedd y rhaglen hon, bydd gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o hanes, gyda’r sgiliau i ddehongli tystiolaeth a llunio naratifau hanesyddol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Mae’r radd Hanes yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. Yn Llambed, mae gennym hanes cadarn o helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd – ar lefel MA a PhD.
- Academia
- Busnes
- Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol; gwasanaeth sifil.
- Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
- Newyddiaduraeth
- Y gyfraith ac eiriolaeth
- Llywodraeth leol, cymuned, gwleidyddiaeth leol
- ³Û³¾³¦³ó·É¾±±ô&²Ô²ú²õ±è;ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ
- Addysgu