Darlunio (Llawn amser) (BA Anrh)
Bydd ein cwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn addysgu sgiliau darlunio ac ymwybyddiaeth ddylunio’r byd go iawn i chi. Hefyd, mae’n darparu gwybodaeth a phrofiad o’r diwydiannau creadigol, gan eich helpu i ddilyn llwybr gyrfa llwyddiannus a chynaliadwy. Rydym yn eich annog i ddefnyddio ffyrdd o feddwl dargyfeiriol a chydgyfeiriol yn eich gwaith, yn annibynnol ac yn gydweithredol, mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar arfer. Mae’r cwrs yn ffocysu ar y diwydiant ac yn darparu sgiliau trosglwyddadwy a rhagolygon cyflogaeth ardderchog.
Mae sgiliau entrepreneuraidd a menter yn rhan annatod o ddarlithoedd a gwaith cwrs er mwyn eich paratoi ar gyfer y diwydiant. Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o brosiectau sy’n cael eu seilio ar ddiwydiant sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol, gan ymdrin â phynciau y byddwch yn siŵr o ddod ar eu traws yn broffesiynol.
Mae cysylltiadau gyda busnesau a diwydiant yn rhan hanfodol o’n rhaglen a chaiff y rhain eu cynnal a’u datblygu trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, ymweliadau gan ymarferwyr proffesiynol ac ymweliadau addysgol. Mae’r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod ein graddedigion yn gyflogadwy iawn ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol. Mae llawer o’n graddedigion yn llwyddo mewn gyrfaoedd llawrydd, ac eraill yn dod o hyd i swyddi gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith ein cleientiaid nodedig mae Llyfrau Plant Usborne, Moonpig, Lego, Ymddiriedolaethau GIG, Marks & Spencer, Tigerprint, Yr Amgueddfa Brydeinig, a Lush Cosmetics.
Trwy gydol eich taith greadigol, byddwch yn archwilio arfer darlunio gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol a digidol. Mae’r cwrs yn cynnig gofod stiwdio pwrpasol lle cewch arbrofi a mireinio eich iaith weledol. Cewch gyfleoedd i arddangos eich gwaith mewn arddangosfa diwedd blwyddyn, a fydd yn rhoi i chi’r profiad sydd ei angen i ymuno â’r byd proffesiynol.
Mae ein cyfleusterau wedi’u cynllunio i gefnogi ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau ar gyfer gwaith traddodiadol a digidol. Mae gennym Stiwdios Darlunio bywiog, stiwdio gwneud printiau ar gyfer Lino, Printio Sgrin, Ysgythru a Cholagraff a stiwdio argraffwaith gyda pheiriannau argraffwaith Adana ac offer gwneud llyfrau. Gallwn hefyd gynnig Printio Risograff ac offer torri â laser. Mae ein hystafell darlunio digidol yn cynnwys cyfrifiaduron iMac, tabledi Wacom, a sgriniau Cintiq, sy’n cynnwys pecynnau meddalwedd allweddol fel Photoshop, Illustrator, InDesign, ac After Effects.
Nod ein cwrs yw datblygu eich arfer proffesiynol trwy arbrofi a defnyddio technegau darlunio traddodiadol a chyfoes. Byddwch yn gweithio ar ddarluniau ar gyfer llyfrau plant a phrosiectau eraill, gan ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes darlunio.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Mae ein hathroniaeth addysgu yn cynnig rhyddid i fyfyrwyr ddewis ym mha ffordd yr hoffent ddatblygu eu harfer darlunio - boed hynny drwy ddulliau traddodiadol, technegau digidol neu gyfuniad o’r ddau. Rydym yn cefnogi ac ysbrydoli grwpiau sy’n ddigon mawr i gynhyrchu egni torfol, ond yn ddigon bach i sicrhau hyfforddiant unigol a sylw personol gan feithrin creadigrwydd unigol o fewn amgylchedd dysgu cefnogol, wedi’i seilio ar arfer.
Ategir ein harddull a arweinir gan brosiectau gan weithdai seiliedig ar sgiliau sy’n cyfoethogi gallu technegol ac ymholi creadigol. Ein nod yw datblygu sgiliau entrepreneuraidd ac arfer proffesiynol sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen mewn arfer darlunio. Byddwch yn archwilio cyfryngau traddodiadol a digidol, gan ddatblygu sgiliau arlunio, gwneud printiau, a darlunio digidol. Byddwch yn astudio modylau sy’n cwmpasu pynciau fel gwneud delweddau, astudiaethau gweledol, a darlunio golygyddol. Rhoddir pwyslais ar ddeall a defnyddio iaith weledol i fynd i’r afael â gwahanol brosiectau wedi’u seilio ar ddiwydiant.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar fireinio eich arfer darlunio trwy arbrofi gyda gwahanol dechnegau a chyfryngau. Byddwch yn ymgysylltu â dysgu seiliedig ar arfer, gan weithio ar brosiectau sy’n ymdrin â materion cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol. Caiff sgiliau entrepreneuraidd eu datblygu trwy ddarlithoedd a gwaith cwrs a fydd yn eich helpu i adeiladu eich brand personol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn gweithio ar brosiectau uwch, sy’n arwain at arddangosfa blwyddyn olaf a sioe graddio. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio arfer proffesiynol annibynnol, gan eich galluogi i arbenigo yn eich dewis faes. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol ac yn datblygu portffolio graddedig er mwyn eich paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol.
(20 credydau)
(40 credydau)
(60 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Mae’r adran Ddarlunio yn llawn offer i archwilio ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau ar gyfer gwaith traddodiadol a digidol.
Mae arddangosfa ‘Dewis a Dethol’ ein myfyrwyr Darlunio, sy’n rhedeg rhwng mis Mai a Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn arddangos rhai o enghreifftiau gorau eu harfer mewn ystod amrywiol o gyfryngau. Dewch i gael blas ar yr arddangosfa yma, a dilynwch y dolenni i bortffolios ar-lein ein myfyrwyr.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Newyddion
Newyddion
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
- Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
- Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@pcydds.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
-
Ar ddechrau pob modwl, byddwn yn cyhoeddi’r ‘Manyleb Asesu’, sy’n disgrifio’n glir, ym mhob maen prawf asesu, yr hyn sy’n ofynnol.
Mae sesiynau adborth wythnosol yn galluogi i fyfyrwyr ffocysu ar y gofynion, heb amharu ar y rhyddid i allu ehangu ar syniadau.
Fel arfer, cyflwynir hyfforddiant technegol trwy ddarlith arddangos ac yna bydd staff yn helpu pob myfyriwr yn unigol wrth iddynt symud ymlaen trwy her.
Ceir adborth ffurfiannol a chrynodol ar gyfer pob modwl, mewn ysgrifen ac ar lafar. Pan gaiff yr adborth crynodol ei ryddhau, gall myfyrwyr drefnu tiwtorial ‘un i un’ i drafod eu hadborth ymhellach.
Nid oes arholiadau ysgrifenedig ar gyfer y cwrs hwn.
-
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
Gorfodol
- Cyfradd myfyrwyr Adobe Suite: £120 y flwyddyn, ond yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd mewn clwstwr gan Y Drindod Dewi Sant.
Costau Angenrheidiol
- Portffolio A3: £20
- Casgliad o offer – fflaim, pren metel, llewys plastig, gyriant caled, cof bach, beiros, pensiliau, marcwyr: £70
- Cyflenwadau celf darlunio: £100
- ²Ñ²¹³¦µþ´Ç´Ç°ì:&²Ô²ú²õ±è;£1500
- Costau argraffu: £200
- Llyfrau braslunio: £40.
Dewisol
- Teithiau Myfyrwyr: £200 i £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
-
Bydd llawer o raddedigion yn llunio gyrfaoedd llawrydd llwyddiannus gan weithio gydag ystod o gleientiaid yn rhyngwladol; mae rhai ohonynt yn cael eu cynrychioli gan brif asiantaethau Darlunio Llundain.
Mae graddedigion eraill yn dod o hyd i waith gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith y cleientiaid mae:
- Usborne Children’s Books
- Moonpig
- Lego
- Ymddiriedolaeth GIG
- Allihoper Greeting Cards
- Marks & Spencer
- The Great British Card Company
- Tigerprint, Bright Agency
- Cwmn Cyhoeddi Graffeg
- Tokyo DisneySea Park
- Cylchgrawn Welsh Country
- Bay Studios
- The British Museum
- Magic Leap Inc. Visible Art
- Lush Cosmetics
- The Print Haus
- Astra Games
- Locksmith Animation
Hefyd, mae’r rhaglen yn darparu sylfaen da ar gyfer y rheiny sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes addysgu, yn arbennig addysgu celf a dylunio mewn ysgolion ac, ar ôl profiad proffesiynol, addysgu darlunio a dylunio mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.