ϳԹ

Skip page header and navigation

Aeth pum myfyriwr BA Darlunio Y Drindod Dewi Sant i fynychu te parti Coroni yn Llundain ar ôl ennill Cystadleuaeth [Extra]Ordinary Portraits a drefnwyd gan yr Ysgol Arlunio Frenhinol i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni.

Un o fyfyrwyr BA Darlunio PCYDDS yn cyflwyno ei phortread o wraig a effeithiwyd gan yr Holocost, hil-laddiad neu erledigaeth ar sail hunaniaeth. Mae’r ddwy fenyw yn sefyll bob ochr i’r portread gan wenu, ac mae’r llun yn edrych yn union fel y wraig, gyda blodau yn gefndir i’r llun.

Casgliad o waith celf yw [Extra]Ordinary Portraits sy’n datgelu ‘elfennau anghyffredin pobl sy’n ymddangos yn gyffredin’. Gofynnwyd i bobl ifanc ledled y DU ddysgu am rywun yr effeithiwyd arno gan yr Holocost, hil-laddiad neu erledigaeth ar sail hunaniaeth, a chreu portread ohono.

Y beirniaid oedd y ffotograffydd Rankin; Cyfarwyddwr yr Ysgol Arlunio Frenhinol, Harry Parker; yr artist Gideon Summerfield; ac Antoinette Mutabazi, un o oroeswyr yr hil-laddiad yn Rwanda. Ymunodd Tulip Siddiq AS, Ymddiriedolwr HMDT, ac Olivia Marks-Woldman OBE, Prif Swyddog Gweithredol HMDT, â nhw.

Roedd Nahum Hughes, Ellie Ball, Ellis Jones, Nancy Akuffobea a Kate Paddock, pob un yn fyfyriwr BA Darlunio blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Celf Abertawe, ymhlith 30 ymgais lwyddiannus, a dangoswyd eu gwaith hefyd yn rhan o ffilm ar-lein Diwrnod Cofio’r Holocost, a gafodd ei ddangos ar 26 Ionawr, a’i weld gan filoedd o bobl ar draws y wlad.

Y darlithydd Rebecca Ellis a myfyrwyr BA Darlunio PCYDDS Nahum Hughes, Ellie Ball, Ellis Jones, Nancy Akuffobea a Kate Paddock yn sefyll fel grŵp yn dal y portreadau maent wedi’u creu ar gyfer y gystadleuaeth [Extra]Ordinary Portraits.

Meddai Rebecca Ellis, rheolwr rhaglen y BA Ffilm a Theledu a darlithydd mewn Darlunio a Ffilm: “Mynychodd y myfyrwyr y parti er mwyn iddynt allu cyflwyno eu portreadau buddugol i’r goroeswyr a oedd yn bresennol.

“Roedd Dug Caerloyw yn bresennol a siaradodd â’r myfyrwyr gan eu llongyfarch yn unigol. Roedd hi’n emosiynol iawn pan gyflwynodd y myfyrwyr eu portreadau. Yna, fe wnaethant eistedd ar fwrdd eu goroeswr er mwyn iddynt allu dysgu popeth am eu straeon a’u teulu, a chawsant de prynhawn gyda’i gilydd. Cafodd y digwyddiad effaith fawr ar y myfyrwyr i gyd - roedd hi’n ddiwrnod na fyddwn ni fyth yn ei anghofio.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd (y Celfyddydau a’r Cyfryngau): “Roedd hwn yn brofiad ardderchog i’n myfyrwyr ddysgu gan yr unigolion anhygoel ac, yn wir, anghyffredin hyn. Dangosodd ein myfyrwyr unwaith eto eu bod nhw nid yn unig yn hynod dalentog ond bod y cyfraniad a wnawn i gymdeithas yng Ngholeg Celf Abertawe yn rhan annatod o’n hethos.”

Un o fyfyrwyr BA Darlunio PCYDDS yn cyflwyno ei phortread o wraig a effeithiwyd gan yr Holocost, hil-laddiad neu erledigaeth ar sail hunaniaeth. Mae’r ddwy fenyw yn sefyll bob ochr i’r portread gan sgwrsio. Mae’r portread yn dangos dwy fenyw mewn du a gwyn.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon