ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Crefftau Dylunio: Gwydr, Cerameg a Gemwaith (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae ein cwrs Crefftau Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, yn caniatáu i chi archwilio eich creadigrwydd a datblygu sgiliau gwneud 3D dylunio a chreadigol. Byddwch yn dysgu i weithio’n broffesiynol gyda gwydr, cerameg a gemwaith, gan ddarganfod eich llais creadigol, drwy gyfuniad o sgiliau traddodiadol a thechnolegau cyfoes fel torri laser, torri jet dŵr ac argraffu 3D. 

Byddwch yn gweithio gydag ystod amrywiol o arferion deunydd a phroses, megis cerameg, gwydr oer a gwydr wedi’i ffurfio mewn odyn, pren, plastigau, ffibr gwydrog, resinau a thecstilau. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnwys gemwaith, gwneud mowldiau, CAD/CAM a sganio 3D.  

Mae ein cwrs yn darparu rhaglen o ymarfer addysgiadol seiliedig ar weithdai, drwy weithdai arbenigol, wedi’u hategu gan astudiaethau cyd-destunol a hanesyddol, lleoliadau, interniaethau a gwaith preswyl.     

Byddwch yn ennill gwybodaeth gynhwysfawr a sgiliau ymarferol gan ddatblygu ymagweddau arloesol i arferion crefft cynaliadwy drwy gydol y cwrs.  Byddwch yn adeiladu ymwybyddiaeth feirniadol a dyfeisgarwch, gan eich paratoi i gyfrannu at faes esblygol crefftau dylunio. 

Byddwch yn cael eich dysgu gan dîm o ymarferwyr crefft sefydlog sydd ag enwau da yn rhyngwladol.  Yn ogystal, byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm technegol profiadol. Bydd eich dysgu yn cael ei gyfoethogi ymhellach drwy ddarlithwyr ac ymarferwyr gwadd. Mae sgiliau entrepreneuraidd yn rhan allweddol o’r cwrs, gan sicrhau eich bod yn dod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant. 

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer crefftwyr, gemyddion, artistiaid cerameg, artistiaid tecstilau, gwneuthurwyr dylunio ac artistiaid gwydr.  Bydd gennych fynediad i gyfleusterau arbenigol sy’n cefnogi eich arfer creadigol a thaith ddylunio a gwneud.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
GCJ1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Archwilio eich angerdd am ddeunyddiau a gwneud.
02
Datblygu sgiliau a phrofiad gweithdy proffesiynol.
03
Darganfod ffyrdd o ddatblygu a chynnal gyrfa rydych chi'n ei charu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein Hathroniaeth  

Mae ein cwrs Dylunio Crefftau yn pwysleisio dysgu ymarferol ac archwilio creadigol. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau technegol, meddwl beirniadol ac ymagweddau arloesol drwy weithdai ymarferol ac astudiaethau cyd-destunol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol. 

Mae entrepreneuriaeth wedi’i gwreiddio yn y cwrs, gyda thrafodaethau eang am yr ymagweddau amrywiol o ddatblygu a chynnal arfer creadigol yn ogystal â dod o hyd i lwybrau i gyflogaeth o fewn y sector uniongyrchol a thu hwnt.  Bydd hyn yn cael ei ehangu drwy ddarlithoedd rheolaidd gan wneuthurwyr a gweithwyr proffesiynol gwadd. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau, gan gynnwys cerameg, gwydr a gemwaith. Byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn technegau gwneud â llaw traddodiadol a thechnolegau newydd megis CAD/CAM, torri laser ac argraffu 3D. Bydd modylau yn ymdrin â thechnegau rhagarweiniol ac egwyddorion dylunio sylfaenol, ochr yn ochr â dealltwriaeth o arfer proffesiynol yn yr oes ddigidol ac amrywiaeth o ffyrdd o feddwl a deall crefftau dylunio. 

Mae modylau’r flwyddyn gyntaf wedi’i gynllunio i sefydlu platfform craidd o sgiliau hanfodol ar gyfer pob myfyriwr ac annog datblygiad dylunio a gwneud mewn gwydr, cerameg a gemwaith:  

  • Arferion Cyd-destunol i ddatblygu a chyfoethogi gwybodaeth y myfyriwr o ddylunio a chrefft.  

  • Modylau Dylunio a Gwneud sy’n datblygu lluniadau 2D a 3D a llythrennedd gweledol drwy ddeunyddiau. 

  • Ymarfer Proffesiynol i ddatblygu sgiliau craidd mewn portffolios digidol a phresenoldeb ar-lein. 

  • Gweithdai deunyddiau i adeiladu sgiliau’r myfyrwyr wrth weithio gyda gwydr, cerameg a deunyddiau eraill. 

  • Gwybodaeth ddylunio a deunyddiau i ddarparu dealltwriaeth o ddylunio a chrefft. 

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Dylunio a Gwneud 1: Cyflwyniad i Gerameg, Gwydr a Gemwaith

(30 credyd)

Dylunio a Gwneud 2: Meddwl am 3D

(30 credyd)

Arfer Proffesiynol 1: Oes Ddigidol

(20 credyd)

Arfer Proffesiynol 2: Gwneud Dyfodol

(20 credyd)

Mae eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddyfnhau eich arbenigedd technegol ac archwilio creadigol. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth, y galluoedd ymarferol a’r creadigrwydd i ymgymryd â sylweddiad arteffactau dylunio a chrefft. Byddwch yn gallu gweithio fel dylunydd gwneuthurwr unigol neu fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar gyfer gweithgynhyrchu crefftau dylunio, profi ‘brifiau byw’ a senarios gan gleientiaid.  

Bydd modylau’n cynnwys technegau dylunio a gwneud uwch, allbwn masnachol ac arferion ymchwil o fewn cyd-destun crefftau dylunio. 

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Dylunio a Gwneud 3: Her Crefftau Dylunio

(30 credyd)

Dylunio a Gwneud 4: Allbwn Masnachol

(30 credyd)

Arfer Proffesiynol 3: Her Fasnachol

(20 credyd)

Arfer Proffesiynol 4: Hunaniaethau Dylunio

(20 credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo ymhellach gan fireinio eich sgiliau mewn maes dewisol o’ch dewis. Mae modylau’r drydedd flwyddyn wedi’u cynllunio i’ch galluogi i lunio eich cyfeiriad gyrfa unigol a’ch dyheadau fel myfyriwr graddedig mewn dylunio a chrefft.  Gallwch ddewis a rheoli eich prosiectau personol a mawr gyda chymorth tîm y staff fel y gallwch arddangos eich sgiliau craidd a phrofiad a datblygu: 

  • Gwybodaeth uwch am grefftau dylunio, meddwl ac arfer. 

  • Athroniaeth ddylunio bersonol a fydd yn sail i’ch ymarfer presennol ac yn y dyfodol.  

  • Ymwybyddiaeth uwch o werth eich galluoedd deallusol a chreadigol a strategaeth ddiffiniedig ar gyfer datblygu brand personol a gyrfa.  

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities & Exhibitions

Cyfleusterau ac Arddangosfeydd

Mae’r adran Crefftau Dylunio yn falch o’i hystod eang o gyfleusterau gwneud a phrosesu arbenigol ar gyfer gwydr, cerameg a gemwaith, wedi’i gefnogi gan arae gynhwysfawr o weithdai cyffredinol.

Student working on a glass project

Mae dosbarth graddio ein BA mewn Crefftau Dylunio wedi defnyddio casgliad cyffrous o dechnegau a phrosesau i greu’r sioe haf, ‘Mater’. Yma, gallwch weld sampl o’u gwaith a dolenni at eu portffolios ar-lein.

Pieces of stained glass in primary colours divided by black cames; half the glass is covered by a thin piece of chequered cloth.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu cwrs dewisol, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle rhoddir ystyriaeth i’ch sgiliau, cyflawniadau a phrofiad bywyd yn ogystal â’ch portffolio gwaith.

    Ein cynnig arferol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu’n uwch mewn Cymraeg Iaith (neu Saesneg) ar lefel TGAU, ynghyd â llwyddo pedwar pwnc arall. Ac rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tri TAG Safon Uwch neu gyfatebol
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag isafswm graddau Teilyngdod
    • Sgôr o 32 yn y Fagloriaeth Ryngwladol
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill ar sail unigol

    Mae cymwysterau’n bwysig, fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol cysylltwch â’r tiwtor derbyniadau cyrsiau neu anfonwch e-bost i artanddesign@pcydds.ac.uk gan y gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr yn seiliedig ar deilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Y tri phrif ddull asesu a ddefnyddir ar y rhaglen hon yw:

    Prosiectau Stiwdio – gwaith a wnaed i gyflawni gofynion briff penodol neu a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr. Bydd prosiectau’n archwilio galluoedd y myfyriwr i feistroli integreiddio egwyddorion a sgiliau dylunio newydd i’w / ei hymarfer dylunio. Gall prosiectau stiwdio gael eu gosod a’u cynnal mewn amrywiaeth o ffurfiau a thros ystod o hyd, a chynnwys gweithgaredd yn y gweithdai gwydr, stiwdios CAD yn ogystal â stiwdios dylunio traddodiadol. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno amrywiaeth o fathau o waith i’w hasesu megis; portffolios, llyfrau braslunio a chylchgronau prosiect, byrddau cyflwyno, modelau tri dimensiwn, samplau o ddeunyddiau ac arteffactau.

    Aseiniadau Ysgrifenedig – gwneir gwaith gan y myfyriwr yn ei amser ei hun. Gall aseiniadau ysgrifenedig fod ar ffurf papur neu adroddiad wedi’u hegluro. Yn y naill achos a’r llall, disgwylir i’r myfyriwr ddangos canfyddiad beirniadol a hyfedredd wrth gyfleu canlyniadau ymarfer neu aseiniadau sy’n seiliedig ar ymchwil.

    Cyflwyniadau Seminar – mae’r math hwn o asesiad yn gofyn i’r myfyriwr ddangos dealltwriaeth gysyniadol a gwerthuso trylwyredd a dilysrwydd ymchwil gyhoeddedig. Gall seminarau fod ar ffurf cyflwyniadau unigol a/neu grŵp i gyfoedion a grwpiau proffesiynol eraill.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.

    Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.  

    Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi.  Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Erasmus

    Yn ystod eich amser gyda ni, cewch chi gyfle i astudio dramor gyda rhaglenni cyfnewid Erasmus sy’n rhedeg ar hyn o bryd gyda Phrifysgolion yn Norwy, Barcelona a Sweden.

    Astudio Dramor

    Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn UDA a Chanada.

  • Mae gan Goleg Celf Abertawe record hir a llwyddiannus o gynhyrchu graddedigion o’r radd flaenaf ym meysydd celf a dylunio.

    Mae llwybrau gyrfa posib wedi cynnwys:

    • Sefydlu eich hun yn artist, dylunydd neu wneuthurwr.
    • Sefydlu stiwdio yn unig gyflenwr neu mewn partneriaeth ag eraill
    • Wedi’u cyflogi mewn stiwdios gwydr, cerameg neu emwaith arbenigol.
    • Ymgysylltu â gwaith llawrydd ar brosiectau pensaernïol a mewnol
    • Dylunio ar gyfer diwydiant neu weithio yn y diwydiannau gwydr, cerameg a gemwaith.
    • Gweithio ar gomisiynau preifat a chyhoeddus
    • Gweithio ar brosiectau celf a phrosiectau cymunedol
    • Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys gweinyddu’r celfyddydau, curadu, addysgu a mentora, gwaith cymunedol a golygyddol celfyddydol.
    • Parhad astudiaethau i lefel ôl-raddedig ar ein rhaglen MA.
    • Mae rhagor o ymchwil academaidd sy’n arwain at MPhil, neu PhD ar gael.

    Mae’n bosibl y bydd graddedigion yn cymryd rhan yn naturiol mewn amrywiaeth eang o’r cyfleoedd hyn ac yn fwy ac yn fwy, mae graddedigion yn mynd i weithio yn y sector diwydiannau creadigol ehangach lle mae’r sgiliau meddwl dylunio a rheoli prosiectau a ddatblygwyd ar y cwrs yn dod i’r amlwg. Bwriad y modwl Datblygiad Proffesiynol yw galluogi myfyrwyr blwyddyn olaf i ddatblygu eu proffil allanol a pharatoi ar gyfer ymarfer proffesiynol.

    Mae Coleg Celf Abertawe’n arddangos gwaith myfyrwyr yn flynyddol mewn arddangosfeydd dylunio a recriwtio graddedigion mawr, sy’n arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac yn arddangosfa New Designers yn Llundain yn lansiad ar gyfer gyrfa ddylunio gynnar.

    Mae myfyrwyr yn elwa o gyfleoedd i weithio ar gomisiynau byw amrywiol gyda phartneriaid yn y diwydiant. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad, dylunio ar gyfer comisiynau byw yn rhan o’u gwaith cwrs, neu yn ychwanegol at eu gwaith cwrs. Dewisir myfyrwyr ar sail teilyngdod, drwy gystadlaethau, i weithio ar gomisiynau byw sy’n dangos ymhellach y safonau uchel a gyflawnwyd.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau