ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyfathrebu Gweledol - Deialogau Cyfoes (Llawn amser) (MA)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn Amser

Mae ein MA Cyfathrebu Gweledol - Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu meddwl creadigol a meddwl dadansoddol ym maes dylunio. Mae’n ddewis delfrydol os ydych yn gobeithio gwella eich sgiliau arfer Cyfathrebu Gweledol a gwella eich statws proffesiynol yn y diwydiannau creadigol.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio’r damcaniaethau a’r dulliau sy’n cefnogi ymchwil dylunio effeithiol. Fe’ch anogir i gymryd rhan mewn arfer adfyfyriol, gan gymryd amser i adolygu ac asesu eich gwaith wrth i chi ymateb i amgylcheddau proffesiynol cymhleth sy’n aml yn anrhagweladwy. Bydd yr ymagwedd hon yn eich helpu i feithrin rhinweddau hanfodol fel cyfrifoldeb personol, menter a menter greadigol. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i roi i chi’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn yn hyderus.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngddisgyblaethol, sy’n eich galluogi i weithio gyda chyfoedion o feysydd eraill er mwyn ehangu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau. Bydd y gwaith cydweithredol hwn  yn eich helpu i gael golwg fwy cynhwysfawr ar ddylunio, ac yn eich galluogi i ymgysylltu ag ystod eang o syniadau ac arferion. Byddwch hefyd yn gwella eich defnydd o iaith weledol, gan ddysgu sut i gyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn canolbwyntio ar gymhwysiad ymarferol yn ogystal â theori, gan eich galluogi i ddatblygu portffolio o waith sy’n adlewyrchu eich arbenigedd cynyddol. Mae’r datblygu’r portffoliohwn yn allweddol er mwyn arddangos eich galluoedd a’ch paratoi ar gyfer rolau yn y diwydiannau creadigol. Mae’r pwyslais ar brofiad yn y diwydiant yn golygu y byddwch mewn sefyllfa dda i ddechrau yn y byd proffesiynol, p’un a ydych chi’n dewis gweithio i asiantaeth ddylunio neu ar eich liwt eich hun.

Mae’r cwrs yn eich paratoi i gyfrannu at siapio dyfodol arfer Cyfathrebu Gweledol trwy addysgu dulliau ac offer arloesol. Gyda ffocws ar ymchwil ddylunio,  dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, a phrosesau myfyriol, byddwch yn ennill y wybodaeth sydd ei hangen i gael effaith wirioneddol ar heriau dylunio presennol ac yn y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
02
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.
03
Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig opsiynau llawnamser a rhan-amser ac, er mwyn helpu i gefnogi ein myfyrwyr meistr, rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r addysgu craidd ar ddyddiau Iau a Gwener.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs Cyfathrebu Gweledol yn rhoi pwyslais ar ddatrys problemau’n greadigol a meddwl yn feirniadol, gan eich cefnogi i ddod yn ymarferydd adfyfyriol. Trwy brosiectau ymarferol, cydweithio rhyngddisgyblaethol, ac ymgysylltu proffesiynol, byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol. Rydym yn canolbwyntio ar dwf unigol a dysgu cydweithredol, gan sicrhau profiad dysgu cytbwys a chynhwysfawr.

Mae portffolio Deialogau Cyfoes meistr Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. Mae graddedigion ac ymarferwyr proffesiynol o ystod eang o arbenigeddau yn elwa o ddysgu amlddisgyblaetholynghyd â darlithwyr arbenigol ac ystod eang o gyfleusterau. Fe gewch y cyfle i fanteisio ar brofiadau a gwybodaeth o bob rhan o’r gwahanol lwybrau ac adlewyrchu hyn yn eich astudiaeth bersonol eich hun.

Mae’r amgylchedd ymchwil yn elwa’n fawr o fewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn artistiaid, dylunwyr a damcaniaethwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodylau a addysgir. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfnewidiadau amlddisgyblaethol, trwy seminarau a darlithoedd sy’n cynnwys myfyrwyr o bob rhaglen o fewn y  portffolio Deialogau Cyfoes, i ysgogi safbwyntiau newydd a herio cyfeiriadau. Disgwylir i syniadau newydd a chyffrous sy’n codi drwy ddeialogau o’r fath hyrwyddo ffordd newydd o feddwl am y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n briodol i’ch disgyblaeth. Trwy gydol yr elfen a addysgir o’r rhaglen, bydd disgwyl i chi gynnal ymchwiliadau ac ymchwil materol i themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Drwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o arfer Cyfathrebu Gweledol, gan wella eich meddwl creadigol a’ch meddwl dadansoddol. Byddwch yn ymgysylltu ag ymchwil ddylunio, gan ddysgu cymhwyso iaith weledol mewn gwaith cydweithredol a phrosiectau annibynnol. Trwy brosiectau ymarferol, byddwch yn mireinio’ch ymagwedd at gymhwysiad ymarferol ac yn adeiladu portffolio proffesiynol sy’n adlewyrchu eich arddull a’ch syniadau unigol.

Gorfodol

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Arloesi Creadigol

(20 credydau)

Profiadau Dylunio

(40 credydau)

Prosiect Dylunio Mawr

(60 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, rydym yn gofyn i chi fod â gradd 2.1. Ond, byddwn ni hefyd yn ystyried ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol, a’n nod yw cyfweld â phob un ymgeisydd. Pan fo’n bosibl, rydym yn gwahodd darpar fyfyrwyr i ddod i gael blas ar ddiwrnod o addysgu er mwyn gweld a yw’n addas iddyn nhw.

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.

    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.

    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyniad o’r gwaith i’r tîm asesu.

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill: 

    Tiwtorialau 
    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

    Yn Semester 1, llawnamser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawnamser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.

    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 

    Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.

    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.

    Arddangos gwaith
    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu. 

    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety, ac fel arfer mae cyfraddau is ar gael i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion yn aelodau gweithgar o’n diwylliant creadigol, ac yn datblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o rolau proffesiynol, fel:

    • Entrepreneur diwylliannol
    • Curadur
    • Addysgwr – darlithydd prifysgol
    • Myfyriwr gradd ymchwil a ariennir
    • Artist/dylunydd

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau