ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Ein gradd Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS yw’r gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddod yn ffotograffydd dogfennol a gweithredwr gweledol medrus, gan eich annog i ail-werthuso a herio hanes ac arferion ffotograffiaeth. Byddwch yn dysgu deall y strwythurau pŵer mewn ffotograffiaeth a sut i’w defnyddio i adrodd straeon gweledol pwerus. 

Mae’r cwrs yn moderneiddio sgiliau traddodiadol ac ymarferol mewn gwaith dogfennol a ffotonewyddiadurol. Rydym yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth fel proses gymdeithasol yn hytrach nag un unigol. Byddwch yn dod yn eiriolwr dros yr achosion a’r materion cymdeithasol sy’n bwysig i chi, gan  gymryd rhan lawn yn y pynciau sydd o ddiddordeb i chi.  

Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich annog i gydweithio â’r gymuned leol a meddwl am eich rôl fel dinesydd gweithredol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Rydym yn rhoi sylw arbennig i ddatblygiad sgiliau gwrando sy’n galluogi myfyrwyr i fod yn ymwybodol o’u llais sonig arbennig ac unigryw. 

Mae ein cwrs yn cynnwys ffotograffiaeth yn ei ystyr ehangaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl a manteisio ar botensial cyfryngau digidol newydd. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith mewn arddangosfeydd, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau â diwydiant ac arddangos eich talent. Nod y rhaglen yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol, gan eich galluogi i gyfrannu at newid cymdeithasol trwy eich celf. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
DPV1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dull arloesol o ymdrin â ffotonewyddiaduraeth a ffotograffiaeth ddogfennol.
02
Cysylltiadau gwych ag arbenigwyr ac ymarferwyr y diwydiant.
03
Dosbarthiadau bach a chyfeillgar, a mynediad hawdd at offer cyfredol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol ac ymgysylltu cymdeithasol. Rydym yn pwysleisio cyfrifoldebau moesegol ffotograffwyr, gan ganolbwyntio ar arferion cydweithredol a chymunedol. Ein nod yw datblygu eich sgiliau llais a thechnegol unigryw, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a thechnegol i ddarparu sylfaen er mwyn ymchwilio i bynciau o ddiddordeb personol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys: 

  • Technegau ystafell dywyll traddodiadol 

  • Sut i ddefnyddio pecynnau meddalwedd Adobe 

  • Technegau goleuo stiwdio a lleoliadau proffesiynol 

  • Sut i ymateb i friffiau sydd wedi’u gosod 

  • Sut i gyfuno sgiliau analog a digidol i greu canlyniadau arloesol 

  • Hanes ffotograffiaeth a damcaniaeth diwylliant gweledol 

Byddwch yn ymchwilio i hanfodion ymarfer dogfennol ac astudiaethau gweledol gan archwilio ffyrdd gwahanol o feddwl a chanfod, a fydd yn eich helpu i ailfeddwl am ffotonewyddiaduraeth. Bydd prosiectau’n cynnwys creu cylchgronau artistiaid a chymryd rhan yn eich arddangosfa gyntaf, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol. 

Arfer Dogfennol Cyfoes

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ail-feddwl Ffotonewyddiaduraeth

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 2

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Arddangosfa 1.0

(20 credyd)

Cylchgrawn yr Artist

(20 credyd)

Gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich blwyddyn gyntaf, mae’r ail flwyddyn yn amser ar gyfer mwy o arbrofi a chydweithio: 

  • Gweithio mewn grwpiau bach i ddylunio a churadu eich arddangosfa gyhoeddus eich hun 

  • Cysyniadu a chreu llyfr lluniau 

  • Cael cyfleoedd i ddilyn interniaethau wedi’u hariannu 

  • Canolbwyntio’n fwy ar ddatblygu llwyfan broffesiynol ar gyfer eich gwaith (gan gynnwys: strategaethau gwefan/cyfryngau cymdeithasol/arddangosfa) 

  • Arbrofi â phrosesau ystafell dywyll amgen 

  • Cael y dewis i astudio semester dramor 

  • Defnyddio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol ar gyfer cynnig prosiect mawr 

Byddwch yn archwilio modiwlau fel Gweithredaeth Gweledol: Lleoliad a Churadaeth ac Arddangosfa 2.0 a fydd yn eich galluogi i archwilio gweithredaeth weledol a churadaeth. Byddwch hefyd yn ymchwilio i gyhoeddi a phrotestio, gan ddysgu sut i ddefnyddio ffotograffiaeth fel arf ar gyfer newid cymdeithasol. 

Adeiladu Bydoedd

(20 Credyd)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Actifiaeth Gweledol: Lleoliad a Churadaeth

(20 credydau)

Ymholiad Gweledol 1

(10 credydau)

Arddangosfa 2.0

(20 credydau)

Cyhoeddi a Phrotestio

(20 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 2

(10 credydau)

Mae eich trydedd flwyddyn yn ymwneud â datblygu eich portffolio proffesiynol a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiannau creadigol ar ôl graddio. Byddwch yn cynnal ymholiad creadigol uwch ac yn datblygu prosiect annibynnol sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol a’ch dyheadau proffesiynol. Y prosiect mawr fydd uchafbwynt eich astudiaethau, gan eich galluogi i arddangos eich sgiliau a’ch gweledigaeth. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer pontio llwyddiannus i’r byd proffesiynol, gan ddod i ben gyda chorff sylweddol o waith. 

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu technegau a llifoedd gwaith o safon y diwydiant, yn ennill profiad mewn gwahanol leoliadau creadigol, ac yn datblygu gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y sectorau cyfryngau digidol a diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio eich gwaith ar ystod eang o lwyfannau. 

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities & Exhibitions

Cyfleusterau ac Arddangosfeydd 

Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd digidol lliw-reoledig arbenigol a chanddynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys sganwyr ffilm Hasselblad cydraniad uchel, portffolio fformat canolig a mawr ac argraffu ar gyfer arddangosfa.

A photography studio with movable overhead lights, screens, and a long roll of black fabric spread across the floor..

O 17 Mai i 8 Mehefin, bydd ein myfyrwyr sy’n graddio o’n cyrsiau BA Anrh Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau a BA Anrh Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yn arddangos eu gwaith gorffenedig. Gallwch weld sampl o’u portffolios yma.

A woman leans against an old brick wall with an old-fashioned TV covering her head; a fuzzy grey image on the screen shows the face of a woman looking calmly out towards the viewer.

Oriel Ffotograffiaeth Ddogfennol

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yn agored i’r rhai sydd â diddordeb yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth a newid cymdeithasol; mae rhywfaint o wybodaeth flaenorol o ffotograffiaeth o fantais ond nid yw’n hanfodol.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
    • Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
    • Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol

    Mae cymwysterau’n bwysig, ond nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@pcydds.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Mae’r asesu’n amrywio yn ôl y modwl a gall gynnwys portffolios, arddangosfeydd, aseiniadau ysgrifenedig, blogiau neu gyflwyniadau.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs.  Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua chan punt, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod: cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio dewisol amrywio o ran cost o oddeutu deg punt i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i fwy na dau gant o bunnoedd am ymweliadau tramor – mae’r costau hyn am bethau fel cludiant, mynediad i leoliadau a llety, ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Astudio Dramor

    Gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau