Tîm BA Darlunio yn cynnal ysgol haf
Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu 40 o fyfyrwyr o Brifysgol Technoleg Wuhan i gymryd rhan yn yr Ysgol Haf. Mae’r myfyrwyr wedi mwynhau dwy sesiwn gyda thîm BA Darlunio‘r Brifysgol dan arweiniad y darlithwyr Ian Simmons, Delyth Lloyd Evans a Chris Harrendence.
Ar ôl cyflwyniad cychwynnol yn amlinellu’r briff ac yn esbonio beth fyddai angen iddynt ei wneud yn ystod sesiwn y bore, rhannwyd y myfyrwyr yn ddau grŵp, pob grŵp yn creu darluniau ar ddarnau mawr o bapur. Hanner ffordd drwy’r sesiwn foreol fe wnaeth y grwpiau gyfnewid byrddau a pharhau i weithio i luniadau ei gilydd. Yn y prynhawn cafwyd cyflwyniad byr ar y cwrs BA Darlunio ac yna amlinellwyd briff newydd yn ymwneud â dylunio cymeriadau lle bu’r myfyrwyr yn gweithio’n unigol i ddylunio eu cymeriadau anthropomorffig eu hunain.
Dywedodd darlithydd Prifysgol Wuhan, Shi Dong: “Mae’r Ysgol Haf yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ehangu eu gorwelion. Mae’r ffordd maen nhw’n cael eu haddysgu yn Tsieina yn hollol wahanol i’r ffordd rydych chi’n addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe, ac roedd yn dda gweld sut roedden nhw’n ymdopi â briffiau oedd yn anghyfarwydd iddynt. Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r gwahanol gyrsiau y gwnaethon nhw gymryd rhan ynddyn nhw, ac mae wedi agor eu llygaid i ffordd wahanol o wneud pethau”.
Am fanylion pellach am y cwrs BA Darlunio ewch i’n tudalen Clirio.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07968&Բ;249335