Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn cynnig ymagwedd eang at addysgu celf gain, lle mae arfer artistig unigol yn tynnu ar amrywiaeth o ddeunyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau. Mae ein cwrs yn gosod pwyslais cryf ar arfer stiwdio, safleoedd penodol, a chyd-destunoli arfer.
Byddwch yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys paentio, lluniadu, arfer cerfluniol, fideo, sain, gosodweithiau, a pherfformiadau celf gain, gan eich helpu i ddatblygu eich arfer eich hun. Rydym yn annog pob myfyriwr i ystyried ei sefyllfa o fewn cymdeithas, gan roi i chi gyfle i ddysgu gan artistiaid a darlithwyr o fri rhyngwladol, a rhoi cyfle i chi ddeall maes arfer celf gain cyfoes sy’n newid yn gyson.
Mae ein rhaglen yn cynnig i chi eich lle stiwdio eich hun, gallu i ddefnyddio ein hystod eang o gyfleusterau gan gynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherflunio/cerameg, stiwdios/ystafelloedd tywyll digidol, cyfleusterau bywluniadu a gwneud printiau.
Cewch eich annog i archwilio celf gyfoes o fewn cyd-destun ehangach, gan ystyried arferion hanesyddol a chyfoes, gan eich galluogi i ystyried eich gwaith mewn perthynas â materion diwylliannol a chymdeithasol ehangach. Cewch amgylchedd cefnogol sy’n meithrin creadigrwydd ac arloesi, gan ddarparu safbwynt proffesiynol ar eich cyfer yn y celfyddydau gweledol a’ch helpu i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
Mae ein cwrs yn ddelfrydol i’r rheini sy’n frwdfrydig am y celfyddydau gweledol ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn lleoliad cynhwysfawr a chefnogol. Mae’r holl staff yn artistiaid sy’n gweithio ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, sy’n tynnu’r byd proffesiynol yn nes at eich profiad addysgiadol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu’n canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd unigol gan ddarparu sylfaen cadarn mewn technegau celf gain ac arferion cyfoes. Rydym yn credu mewn cydbwysedd o ddysgu ymarferol a damcaniaethol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu llais artistig eu hunain a’u dealltwriaeth feirniadol o gelf gain o fewn amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen mewn arfer stiwdio. Byddwch yn gweithio mewn gweithdai arbenigol i ddatblygu sgiliau mewn gwahanol ddefnyddiau a chyfryngau. Rhoddir pwyslais ar ddeall cysyniadau ac athroniaethau sy’n sail i gelf gyfoes.
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn mireinio eich arfer artistig unigol trwy arbrofi ymhellach gyda chyfryngau a thechnegau. Gyda ffocws ar ymestyn eich arfer creadigol trwy brosiectau cydweithredol a gwaith rhyngddisgyblaethol, byddwch yn ymgysylltu â theori feirniadol ac yn archwilio eich sefyllfa o fewn cymdeithas, gan gyfoethogi eich sgiliau ymarferol yn ogystal â’ch gwybodaeth ddamcaniaethol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 Credyd)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ffocysu ar brosiectau uwch, gan arwain at arddangosfa fawr. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio arfer creadigol annibynnol, sy’n caniatáu i chi arbenigo yn eich dewis faes, gan weithio’n agos gyda darlithwyr, i baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn arfer celf gain.
(40 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol. Mae ein cyfleusterau rhagorol hefyd yn cynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherameg, yn ogystal â thorwyr laser a chwistrell ddŵr a mynediad i stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll, dosbarthiadau darlunio byw a chyfleusterau gwneud printiau.
Daw Unpeeled â chydweithfa o artistiaid at ei gilydd o garfannau graddio rhaglenni BA (Anrh) Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun, BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifiaeth Weledol, a BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCDDS.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Newyddion
Newyddion
Oriel Celf Gain
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer eu dewis gwrs. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â’ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg (neu Gymraeg), ynghyd â llwyddiant mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tri Lefel A neu gyfwerth
- UAL L3 Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio.
- UAL L3 Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig mewn Celf a Diploma
- UAL L3 Diploma mewn Arfer Creadigol a Diploma Estynedig: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf gradd Teilyngdod
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
-
Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn
Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk, am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
-
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Nid oes dim arholiadau ar y cwrs hwn.
Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol modylau, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:
Tiwtorialau
Rhoddir y tiwtorialau hyn ar draws pob lefel. Mae cyfnod dwysach o diwtorialau un i un yn digwydd ar gyfer myfyrwyr y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn sydd erbyn hynny’n gweithio’n fwy annibynnol. Gall myfyrwyr ofyn am diwtorial yn ôl yr angen. Fodd bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth gwerthfawr a rheolaidd gan bob aelod o staff. Rydym yn credu’n gryf y dylai myfyrwyr gael tiwtorialau unigol er mwyn cefnogi eu teithiau creadigol. Caiff y gwaith, gan gynnwys datblygiad ymarferol a chysyniadol, ei drafod, ynghyd â bwriadon y myfyriwr yn y dyfodol. Mae’n gyfle i unrhyw faterion/bryderon gael eu codi gan naill barti neu’r llall. Cynhyrchir dau gopi o’r cofnod ysgrifenedig o’r tiwtorial, bydd y myfyriwr yn cadw un copi a’r llall yn cael ei gadw ar ffeil.
Trafodaethau beirniadol grŵp
Cynhelir y rhain ar draws pob lefel. Mae’n yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cymheiriaid mewn ffordd strwythuredig yn ogystal â mewnbwn defnyddiol gan staff.
Cyflwyniadau anffurfiol a ffurfiol
Rhoddir cyfleoedd i bob myfyriwr siarad gyda’u cyd-fyfyrwyr am eu gwaith, gan alluogi iddynt ddeall pwysigrwydd cyflwyno o fewn arfer celf gain. Mae Cyflwyniad Ffurfiol yn y drydedd flwyddyn yn rhan o’u Prif Brosiect sy’n arwain at yr asesiad terfynol yn y Sioe Radd.
Arddangos gwaith
Mae natur hyn yn amrywio o un lefel i’r nesaf. Cyflwynir holl asesiadau myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail ym man stiwdio’r myfyriwr unigol, wedi’i ddilyn gan sioe diwedd flwyddyn ar y cyd yn y mannau a baratowyd, wedi i’r sioeau gradd ddod i ben. Caiff sut i baratoi’r mannau hyn; o wagio mannau stiwdio i droi man yn arddangosfa; ei addysgu, a’i ddeall, o fewn cyd-destun arfer proffesiynol, ar gyfer y drydedd flwyddyn.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.
Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae mwy o fanylion ar gael yma.
-
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.
-
Mae yna nifer o gyfleoedd o flaen ein myfyrwyr Celf Gain, lle mae eu hymagwedd aml-sgil yn eu caniatáu i deithio i lawr nifer o lwybrau artistig proffesiynol, gan gynnwys:
- Artist proffesiynol wrth ei waith
- Curadur/rheolaeth amgueddfeydd ac orielau
- Therapi Celf
- Arweinydd prosiect mewn celf gymunedol
- Addysgu/darlithio