Arddangosfa celf gain a ffotograffiaeth gydweithredol yn agor yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant
Mae’r gyntaf o ddwy arddangosfa gydweithredol celf gain a ffotograffiaeth wedi agor ei drysau yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant.
Am y tro cyntaf erioed, bydd gweithiau gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn o gyrsiau BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau, BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol ac Actifedd Gweledol a BA (Anrh) Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun y Brifysgol i’w gweld. gyda’i gilydd yn oriel bwrpasol y brifysgol, Stiwdio Griffith.
Yr artistiaid dan sylw yw Amber Marsh, Cheye William McFarland, Chloe Lloyd, Chloe Rees, Daniel Lewis, Dominic Brewster, Eber Anwar, Ellie Thomas, Ewan Coombs, Heidi Lucca-Redcliffe, Holly Morris Pirce, Isabella Williams, Jacob Levis Winter, Jessica Phillips a Lola Preston.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Ryan L Moule, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Astudiaethau Ffotograffaidd Israddedig y brifysgol:
“Bydd yr arddangosfa gydweithredol hon yn gymysgedd bywiog o waith celf amrywiol ac mae’n gyfle gwych i ddathlu’r cyfoeth o greadigrwydd sydd gennym yng Ngholeg Celf Abertawe.
“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i groesawu cymaint o bobl â phosibl i ddod i weld y gweithiau rhagorol a gynhyrchir gan ein myfyrwyr. Rydym yn hynod falch o bopeth y maent wedi’i gyflawni yn ystod eu cyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth arall y gall y grŵp hwn ei gyflawni wrth iddynt gychwyn ar eu blwyddyn olaf.
“Mae croeso i bawb, felly dewch draw i gefnogi ein myfyrwyr dawnus.”
Mae’r arddangosfa rhad ac am ddim ar agor i’r cyhoedd ei gweld yn ystod diwrnodau gwaith rhwng 10am a 5pm yn Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe tan 23 Tachwedd pan fydd digwyddiad cloi arbennig yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 7pm.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076