Darlithydd Celf Gain Y Drindod Dewi Sant Yn Dangos ei Gwaith mewn Arddangosfa Bwysig yn Athen
Ar hyn o bryd, mae’r darlithydd Celfyddyd Gain a’r artist gweledol medrus Holly Slingsby yn arddangos ei gwaith yn yr arddangosfa ryngwladol Cycloptics yn Athen, Gwlad Groeg.
Wedi’i chynnal yn Space52, mae Cycloptics yn fenter gydweithredol sy’n uno artistiaid o bob cwr o’r byd y mae gwaith, arweiniad ac ysbrydoliaeth yr artist a’r athro aml-gyfrwng enwog, y diweddar Brian Catling RA, wedi dylanwadu arnyn nhw. Cymerodd Holly ran yn rhaglen berfformio’r noson agoriadol ac mae’n arddangos ei gwaith fideo, An Enclosed Garden, a fydd i’w weld tan 22 Tachwedd.
Wedi’i osod yn erbyn cefndir Gwlad Groeg, cartref hynafol creadur chwedlonol y Seiclops, mae Cycloptics yn archwilio themâu ansefydlogrwydd gweledol a natur athronyddol golwg a chanfyddiad. Wedi’i churadu gan Jack Catling a Christina Mamakos, mae’r arddangosfa’n archwilio’r ffiniau rhwng y gweledig a’r anweledig, gan gyflwyno gweithiau artistig sy’n rhychwantu gwrthrychau, fideos, lluniadu a phaentio, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau perfformio.
Mae Holly, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, yn artist gweledol sy’n gweithio ar draws y cyfryngau, gan gynnwys perfformio, fideo a phaentio. Mae ei hymarfer yn archwilio cynrychiolaethau o fenywod, systemau cred, a’r trosgynnol, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddelweddaeth Feiblaidd, chwedlau, a diwylliant cyfoes. Mae ei gwaith diweddar yn aml yn ymchwilio i brofiadau di-flewyn-ar-dafod anffrwythlondeb, gan gynnig lens ingol lle gall gwylwyr ymgysylltu â’i chelf.
Wrth feddwl am ei dull creadigol, meddai Holly:
“Mae fy ngwaith yn ceisio cydblethu’r hanesyddol a’r presennol, gan wahodd gwylwyr i archwilio eiconograffau haenog a chwestiynu sut mae naratifau traddodiadol yn adleisio mewn bywyd cyfoes.â€
Mae campau artistig Holly wedi eu cydnabod yn rhyngwladol. Wedi graddio o Ysgol Arlunio a Chelfyddyd Gain Ruskin, Prifysgol Rhydychen, ac Ysgol Gelf Slade, Llundain, mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn arddangosfeydd unigol a grŵp ledled y DU ac yn fyd-eang, gan gynnwys lleoliadau megis Chapter, Caerdydd; Tate St Ives; Turner Cyfoes, Margate; Amgueddfa Freud, Llundain.
Meddai’r Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, Caroline Thraves: “Mae gwaith anhygoel Holly mewn Cycloptics yn tanlinellu ymrwymiad Y Drindod Dewi Sant i feithrin talent o’r radd flaenaf a darparu llwyfannau i’w hacademyddion a’i myfyrwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau byd-eang trwy gelf.â€
I gael rhagor o wybodaeth am Cycloptics, ewch i .
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071