Rheoli Prosiectau Peirianneg (Rhan amser) (MSc)
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth am reoli prosiectau ym maes peirianneg.
Gall myfyrwyr feddu ar amrywiaeth o gymwysterau gradd israddedig sydd â chefndir mewn peirianneg fecanyddol, dylunio, sifil neu weithgynhyrchu. Mae hefyd yn helpu rheolwyr profiadol i ychwanegu at eu gwybodaeth gyda chymwysterau addysgol.
Mae’r rhaglen yn rhoi ffocws cryf ar sgiliau rheoli prosiectau, yn ogystal â datblygu amrywiaeth ehangach o sgiliau a ddylai fod gan reolwr prosiect cymwys a medrus iawn. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys arweinyddiaeth, rheoli ansawdd, rheoli’r gadwyn gyflenwi a chaffael. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau sydd â galw mawr amdanynt ymysg cyflogwyr.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am beirianwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant ac sydd â phrofiad o reoli prosiect. Mae’r rhaglen yn archwilio meysydd allweddol o ran rheoli prosiectau ym myd peirianneg.
Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau rheolaeth ariannol a rheoli pobl y myfyrwyr wrth ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau peirianneg cynhwysfawr. Mae’r ddisgyblaeth yn cynnwys meysydd allweddol megis rheoli ansawdd a rheoli’r gadwyn gyflenwi sy’n hanfodol i lwyddiant pob prosiect.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol - Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.
Mae natur y rhaglen yn golygu y bydd ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu hystyried.
Cymwysterau cyfatebol
Bydd cymwysterau cyfatebol yn cael eu hystyried wrth gynnig lle ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael ei ystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais.
Sgiliau eraill sy’n cael eu hystyried
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig; byddwn hefyd yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd.
Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Mae’r rhaglen meistr yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau ar gyfer asesu. Gall asesiad arferol ofyn i chi ymchwilio i broblem a chynnig awgrymiadau ar gyfer gwella gan ddefnyddio’r offer a’r technegau y gwnaethoch ddysgu amdanyn nhw mewn modiwl penodol neu ar draws y rhaglen.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau a chymwyseddau proffesiynol i raddedigion y gellir eu trosglwyddo o fewn sectorau busnes ac o sector i sector. Mae sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn cael eu datblygu gan alluogi unigolion i fagu hyder drwy’r rhaglen astudio.
Ymysg y cyfleoedd gyrfa arferol mae rheolwyr sifft, goruchwylwyr cynhyrchu, rheolwyr peirianneg, rheolwyr ansawdd, rheolwyr cynllunio ac amserlennu, rheolwyr/cyfarwyddwyr gweithrediadau. Mae pob un o’n graddedigion sydd wedi astudio’n rhan-amser wedi cael dyrchafiad yn eu swyddi wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac yn ystyried mai eu cymhwyster sy’n gyfrifol am hynny. Mae graddedigion iau wedi gweld bod eu rhagolygon cyflogaeth wedi gwella a’u bod yn gallu cael gwaith fel peirianyddion llinell, peirianyddion ansawdd ac arbenigwyr y gadwyn gyflenwi. Mae nifer o gwmnïau mawr bellach wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn angenrheidiol ar gyfer dyrchafiad neu ar gyfer rôl benodol.