ϳԹ

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Mesur Meintiau (Rhan Amser) (HNC)

Abertawe
2 Blynedd Rhan Amser

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd-brentisiaeth â’r nod o ddarparu profiad galwedigaethol llawn a digonol ym meysydd adeiladu, gan gynnwys Arolygu Adeiladau, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg Sifil a Mesur Meintiau. 

Fel y dywed Caroline Gumble (Prif Swyddog Gweithredol y CIOB yn 2020), “Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da,” ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn “ddiwydiant cymhleth iawn ond eithriadol o gyffrous ac arloesol”.

Mae’r rheini sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu yn unig yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os gwnewch chi hefyd gynnwys y gwasanaethau megis syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr yn ogystal â llogwyr peiriannau a chyflenwyr adeiladu, mae’r allbwn yn agosach at ddwbl hynny. Mae hyn yn ganran fawr o allbwn economaidd y DU. Hefyd, mae swyddi adeiladu’n talu’n dda, gan dalu cyfartaledd o 5% yn fwy na diwydiannau eraill, ac mae gan raddedigion yn y maes gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd boddhaus.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Rhan Amser

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant. 

Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith. 

Gall y Prentisiaethau hyn redeg dros gyfnod o 4 blynedd, yn dibynnu ar y lefel mynediad a phrofiad addysgol blaenorol, gyda diwrnodau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith yn cael eu cynnal yn Adeilad IQ y Brifysgol ar y campws newydd yn SA1, Abertawe.

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Deunyddiau Adeiladu

(10 Credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Mesur ac Amcangyfrif

(20 Credyd )

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Fel arfer, asesiadau ffurfiannol neu grynodol yw’r rhai a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn ac maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd yr asesiadau hyn ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para ddwy awr.

    Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae gofyn mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r strategaethau asesu hyn yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau