ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Rheolaeth Adeiladu (Rhan amser) (HNC - Tystysgrif Genedlaethol Uwch)

Abertawe
2 Flynedd Rhan amser
45 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen HNC Rheolaeth Adeiladu ran-amser hon yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ac mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB).  Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gwrdd â’r ffocws ar sgiliau cyfredol yn y diwydiant adeiladu ac i hyfforddi myfyrwyr a fydd yn barod i arwain prosiectau arloesol a deinamig sy’n helpu a gwella cymunedau am flynyddoedd i ddod.

Mae’r Diwydiant Adeiladu’n parhau i gynnig cyflogaeth werth chweil a chynaliadwy yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, a gefnogir i gyd gan ddulliau cynaliadwy ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol. Fodd bynnag, mae diwydiant adeiladu heddiw yn wynebu llawer o heriau, megis globaleiddio, newid yn yr hinsawdd a fframwaith rheoleiddio cymhleth.  Bydd ein cwrs yn rhoi’r sgiliau i chi fynd i’r afael â’r heriau hyn.  Byddwch yn dysgu am agweddau cyfreithiol adeiladu, yn ogystal ag agweddau technegol, rheolaethol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i sicrhau bod eich prosiectau yn effeithlon, o ansawdd uchel ac yn ddiogel rhag risgiau. 

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â sgiliau theori ac ymarferol, a addysgir gan arbenigwyr yn y diwydiant. Mae modiwlau craidd mewn Rheolaeth Adeiladu yn eich dysgu trwy ddatrys problemau creadigol a chydweithio. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau a gwybodaeth mewn technoleg adeiladu, cynllunio prosiectau, rheoli prosiectau, adeiladu cynaliadwy, iechyd a diogelwch a chymwyseddau digidol, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r technegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r cychwyn cyntaf hyd at eu trosglwyddo i’r Cleiant gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant adeiladu. Mae’r cwrs yn defnyddio astudiaethau achos yn y DU a ledled y byd i adeiladu gwybodaeth mewn cymhwyso ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth.   

 Symudwch ymlaen i’n cwrs BSc Rheolaeth Adeiladu.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
45 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
03
Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth wrth addysgu Rheolaeth Adeiladu yn canolbwyntio ar gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol.  Rydym yn pwysleisio cymwysiadau byd go iawn, dulliau cynaliadwy a gofal cymunedol ac amgylcheddol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gwerth chweil yn y diwydiant adeiladu. 

Byddwch yn ymdrin â hanfodion technoleg adeiladu a deunydd adeiladu ac yn dysgu sgiliau digidol fel CAD a BIM.

Bydd modiwlau ychwanegol, gan gynnwys iechyd, diogelwch a lles, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, a gwasanaethau adeiladu, prosesau archwilio a chaffael yn darparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer Rheoli Adeiladu.

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Deunyddiau Adeiladu

(10 credydau)

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Technoleg Adeiladu 2

(20 credydau)

Technoleg Ddigidol - Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 Credyd )

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Tirfesur ar gyfer Peirianneg ac Adeiladu

(10 credyd)

Gwasanaethau Adeiladu 2 – Integreiddio

(20 Credyd )

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 45 pwynt Tariff UCAS neu gyfwerth arnoch.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

    Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau