Prentisiaeth Peirianneg Sifil (Rhan-amser) (BSc Anrh)
Mae’r radd Peirianneg Sifil hon wedi’i chynllunio o amgylch pum prif faes: defnyddiau, strwythurau, geotechneg, tirfesur, a rheolaeth adeiladu. Mae’r pynciau hyn yn greiddiol i’r cwricwlwm peirianneg sifil, fel y’i diffinnir gan Gyd-Fwrdd y Safonwyr ar gyfer rhaglenni gradd achrededig. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n anelu at ddod yn beiriannydd siartredig.
Mae ein staff addysgu yn dod â chyfoeth o brofiad o’r diwydiant adeiladu. Maen nhw wedi datblygu cysylltiadau cryf â’r diwydiant adeiladu fel ymarferwyr ac aelodau o gyrff proffesiynol, yn ogystal â drwy cydweithredu â’r diwydiant a phrosiectau ymchwil mewn meysydd peirianneg sifil amrywiol.
Mae gyda ni gysylltiadau agos â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) a’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB). Mae’r partneriaethau hyn yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth a phrofiad, gan wella’ch dysgu ac yn rhoi hwb i’ch rhagolygon cyflogadwyedd. Mae graddedigion ein rhaglen yn aml yn dod o hyd i gyfleoedd nid yn unig fel peirianwyr sifil ond hefyd mewn meysydd cysylltiedig fel syrfewyr adeiladau a safleoedd.
Mae’r cwrs yn ymdrin â phynciau arbenigol, gan gynnwys peirianneg isadeiledd trafnidiaeth a pheirianneg amgylcheddol, a gynigir fel modylau penodol. Mae ein dull addysgu yn cyfuno darlithoedd traddodiadol â dysgu ar sail prosiect. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gweithio ar astudiaethau achos a senarios go iawn, yn ymgymryd ag ymweliadau safle, ac yn cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol fel tirfesur a phrofion labordy.
Drwy astudio yn PCYDDS, byddwch yn ennill addysg gynhwysfawr mewn peirianneg sifil, gyda chefnogaeth staff profiadol a chysylltiadau cryf â’r diwydiant. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu caffael yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg sifil.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
“Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a lles, ac yn creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a’r isadeiledd sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da,” Caroline Gumble, CIOB.
Yn PCYDDS, rydym yn rhoi pwyslais ar ddysgu ymarferol a defnyddio’r byd go iawn yn ein cwrs Peirianneg Sifil. Mae ein dull yn cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol.
Mae’r diwydiant adeiladu yn cyfrif am ganran sylweddol o allbwn economaidd y DU a bydd graddedigion yn y maes hwn yn cael cyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio hanfodion technoleg adeiladu, mecaneg strwythurol, a mathemateg peirianneg. Bydd cyrsiau mewn technoleg ddigidol, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur, BIM, a thirfesur yn datblygu eich sgiliau technegol. Byddwch hefyd yn ymdrin â defnyddiau adeiladu, iechyd, diogelwch a lles, a sgiliau ar gyfer ymarfer proffesiynol i sicrhau sylfaen gyflawn.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 Credyd )
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 Credyd)
(10 credyd)
(10 Credyd)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar wybodaeth ddyfnach gyda modylau mewn technoleg geodechnegol a sylfaenol, dadansoddi strwythurol, a pheirianneg defnyddiau. Byddwch yn cymryd rhan mewn dylunio prosiect ymchwil, ochr yn ochr â modylau hyblyg gan gynnwys adnoddau dŵr a monitro amgylcheddol, gweinyddu contractau a chynllunio prosiectau ar gyfer adeiladu.
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd )
(20 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
Dewisol
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol manwl a modylau lefel uwch, a fydd i gyd yn sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer gofynion y proffesiwn peirianneg sifil ar ôl graddio.
(20 credyd)
(20 credyd)
(40 Credyd )
(20 credyd)
(20 credyd)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Peirianneg Sifil (BSc)
Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol)Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.
Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd.
Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’u cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.
Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru’n bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.
Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd technegol a hyfforddiant ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.
Mae’r llwybr Peirianneg Sifil a Rheoli’r Amgylchedd wedi’i drefnu er mwyn darparu graddedigion ag ystod o sgiliau a wnaiff eu galluogi i gael swyddi o fewn sefydliadau cleientiaid a sefydliadau contractio. Mae natur amrywiol y llwybr sy’n ffocysu ar faterion amgylcheddol a materion peirianneg sifil yn cynnig i fyfyrwyr amrywiaeth o yrfaoedd posib yn y meysydd hyn.
Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.