Mesur Meintiau (Rhan amser) (HND)
Mae ein rhaglen HND Mesur Meintiau rhan-amser yn cynnig cymysgedd cytbwys o ddysgu academaidd a chymhwyso gwybodaeth yn ymarferol, gan ddarparu’r hyblygrwydd i astudio wrth ennill profiad diwydiant gwerthfawr.
P’un a ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa neu wella’ch rôl bresennol, bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i gael gyrfa lwyddiannus fel Syrfëwr Meintiau.
Yn Syrfëwr Meintiau, byddwch yn chwarae rhan annatod wrth reoli prosiectau adeiladu, gan oruchwylio costau, sicrhau y cedwir at gyllidebau, a chefnogi darpariaeth prosiectau llwyddiannus. Mae ein cwrs rhan-amser wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau proffesiynol a phersonol, gan eich galluogi i ddatblygu’n raddol i fod yn unigolyn graddedig cymwys a chyflogadwy.
Mae’r diwydiant adeiladu yn esblygu, gyda phwyslais cryf ar dechnoleg, offer digidol, a darpariaeth prosiectau integredig. Mae ein cwricwlwm, a ddatblygwyd ar y cyd ag arbenigwyr a chyrff proffesiynol y diwydiant fel Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), yn sicrhau eich bod yn dysgu’r sgiliau diweddaraf yn unol ag anghenion presennol y diwydiant.
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), gan gynnig cydnabyddiaeth broffesiynol i chi a fydd yn gwella eich rhagolygon gyrfaol.
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys dysgu hyblyg a phrofiadau ymarferol, gyda lleoliadau gwaith a chyfleoedd i gymhwyso’ch sgiliau mewn prosiectau adeiladu byd go iawn, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau proffesiynol gwerthfawr.
Byddwch hefyd yn gallu symud ymlaen i’n BSc Mesur Meintiau ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r sector adeiladu yn siapio’r seilwaith sy’n effeithio ar fywyd bob dydd pawb, o gartrefi ac ysbytai i weithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Drwy’r rhaglen hon, byddwch yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiant deinamig hwn.
Mae’r rhaglen hon yn integreiddio theori â lleoliadau gwaith ymarferol ar gyfer profiad byd go iawn, gan wella eich sgiliau technegol a phroffesiynol.
Byddwch yn meithrin sgiliau sylfaenol ym meysydd technoleg adeiladu, caffael ac arolygu digidol. Mae’r meysydd allweddol yn cynnwys iechyd, diogelwch a lles, defnyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, a thechnegau mesur.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd )
(10 credyd )
(10 credyd)
(10 credyd)
Byddwch yn dyfnhau eich arbenigedd ym meysydd amcangyfrif uwch, tendro, modelu gwybodaeth adeiladu (BIM), datblygu cynaliadwy, a gweinyddu contractau. Yn ogystal, byddwch yn archwilio rheolaeth busnes a rheoli prosiectau adeiladu.
(20 credydau)
(10 credyd )
(10 credyd)
(20 credydau)
(10 credyd)
(20 Credyd )
(20 Credyd )
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd angen 48 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau.
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.
Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.
Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.
Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.
Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.