ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Rheolaeth Adeiladu (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
90 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig cyflogaeth werthfawr a pharhaus yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, pob un yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol.

Mae’r rhaglen Rheolaeth Adeiladu HND hon yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), ac mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gwrdd â gofynion presennol y diwydiant adeiladu o ran sgiliau ac i hyfforddi myfyrwyr a fydd wedyn yn barod i arwain prosiectau arloesol a deinamig fydd yn helpu ac yn gwella cymunedau am flynyddoedd i ddod.

Mae’r diwydiant adeiladu heddiw yn wynebu llawer o heriau, fel globaleiddio, newid yn yr hinsawdd, a fframwaith rheoleiddio cymhleth. Bydd ein cwrs yn rhoi’r offer i chi ddelio â’r heriau hyn. Byddwch yn dysgu am agweddau cyfreithiol ar adeiladu, yn ogystal ag agweddau technegol, rheolaethol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i sicrhau bod eich prosiectau yn effeithlon, o ansawdd uchel ac yn ddiogel rhag risgiau.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys theori a sgiliau ymarferol, a addysgir gan arbenigwyr y diwydiant. Mae modiwlau craidd mewn Rheolaeth Adeiladu yn eich dysgu trwy ddatrys problemau creadigol a chydweithio. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau a gwybodaeth mewn technoleg adeiladu, cynllunio prosiectau, rheoli prosiectau, adeiladu cynaliadwy, iechyd a diogelwch a chymwyseddau digidol, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith. 

Gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant adeiladu, mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithredu prosiectau o’r cychwyn cyntaf tan iddynt gael eu trosglwyddo i gleientiaid, gan ddefnyddio astudiaethau achos yn y DU a ledled y byd i feithrin gwybodaeth am ddefnydd ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth. Ar ôl graddio, byddwch yn barod i ymgymryd â heriau cyffrous adeiladu modern gyda hyder a sgìl.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CSM8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
90 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym ddilyniant unigryw, o raglen cyn gradd, BSc i MSc a graddau ymchwil sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogadwyedd a datrysiadau ar gyfer materion diwydiannol.
02
Mae’r Ysgol wedi’i mewnosod yn niwydiant adeiladu Cymru gyda chysylltiadau agos â sefydliadau diwydiannol e.e. CIOB, RICS, CABE a CITB.
03
Mae’n Ganolfan ragoriaeth ac arloesi i Gymru a’r De-orllewin (CWIC).
04
Mae’r staff yn aelodau o grŵp Ymchwil ac Arloesedd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn ymwneud â’r Economi Gylchol.
05
Cysylltiadau uniongyrchol a phrosiectau â TRADA.
06
Prosiectau adeiladu cynaliadwy byw gyda Down to Earth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth wrth addysgu Rheolaeth Adeiladu yn canolbwyntio ar gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol. Rydym yn rhoi pwyslais ar weithredu byd go iawn, dulliau cynaliadwy, a gofal cymunedol ac amgylcheddol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil yn y diwydiant adeiladu.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ymdrin â hanfodion technoleg adeiladu a deunyddiau adeiladu. Byddwch yn dysgu sgiliau digidol fel Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM). Bydd modiwlau ychwanegol, gan gynnwys iechyd, diogelwch a llesiant, y gyfraith ar gyfer yr amgylchedd adeiledig, a gwasanaethau adeiladu, prosesau arolygu a chaffael yn darparu sylfaen gynhwysfawr. 

Hanfodion Technoleg Adeiladu

(20 credydau)

Deunyddiau Adeiladu

(10 credydau)

Technoleg Ddigidol - Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 Credyd )

Sgiliau ar gyfer Arfer Proffesiynol

(10 credyd)

Tirfesur Digidol a Dylunio Priffyrdd

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(10 credyd)

Tirfesur ar gyfer Peirianneg ac Adeiladu

(10 credyd)

Iechyd, Diogelwch a Llesiant

(10 credyd)

Technoleg Ddigidol – Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur

(10 credyd)

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig

(10 credyd )

Y Broses Gaffael

(10 credyd )

Byddwch yn ymchwilio i fodiwlau mwy datblygedig fel Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM, datblygu cynaliadwy a gweinyddu contractau). Mae’r flwyddyn hon hefyd yn cynnwys cynllun prosiect ymchwil a modiwlau dewisol, er enghraifft, cynllunio prosiectau a chydlynu a rheoli Ã´l-osod.

Technoleg Adeiladu 2

(20 credydau)

Dylunio Prosiect Ymchwil

(20 credyd)

Gweinyddu Contractau

(10 credyd)

Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

(20 Credyd )

Gwasanaethau Adeiladu 2 – Integreiddio

(20 Credyd )

Datblygu Cynaliadwy

(10 credyd )

Dewisol

Cynllunio Prosiect ar gyfer Adeiladu

(20 credydau)

Cydlynu a Rheoli Ôl-osod

(20 credyd)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 90 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.

    Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd. 

    Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir.  Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.

    Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.

    Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.

    Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn academaidd, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

    Yn ychwanegol i hyn, mae’r tîm rhaglen wedi datblygu amcanion y rhaglen er mwyn cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.

    Mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau