Rheoli Eiddo a Chyfleusterau (Llawn amser) (MSc)
Rheoli Eiddo a Chyfleusterau yw un o’r proffesiynau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae’n cyflwyno dull cyfannol, integredig o ddarparu a rheoli eiddo a’r gwasanaethau cymorth cysylltiedig gan alluogi’r sefydliad a’r unigolyn i reoli asedau, cynnwys a chydrannau mewn ffordd ragweithiol ac effeithiol, er budd y defnyddwyr.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr rhan-amser cyffrous sydd â digon o hyblygrwydd i ganiatáu unigolion sydd â chyfrifoldebau ac ymrwymiadau eraill i ennill gradd Meistr ym maes Rheoli Cyfleusterau, Eiddo ac Asedau. Mae’r rhaglen yn fodiwlaidd, gan gynnwys modiwlau craidd a rhai dewisol yn ystod Rhan Un, a Thraethawd Hir, sydd fel arfer yn gysylltiedig â byd gwaith yn Rhan Dau. Yn aml, bydd y traethawd hir yn cael ei gwblhau o bell, gyda chefnogaeth lawn yn cael ei ddarparu gan dîm goruchwylio profiadol yn ogystal â chefnogaeth staff o arbenigwyr y Brifysgol.
Does dim un sefydliad addysgol arall yng Nghymru a de-orllewin Lloegr sy’n cynnig cymhwyster ôl-raddedig ym maes rheoli cyfleusterau. Dyma raglen sy’n gwbl addas i uwch-reolwyr, neu’r rhai sy’n awyddus i fod yn uwch-reolwr. Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â’r materion drwy fabwysiadu’r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf arloesol sy’n effeithio ar strategaeth mewn perthynas ag ystadau, eiddo, cyfleusterau a gwasanaethau busnes corfforaethol. Ar hyn o bryd, y drefn yw bod Rhan Un yn cael ei gyflwyno ar gampws SA1 yn Abertawe, gyda’r myfyrwyr yn bresennol, ac fel arfer bydd y cyfnodau addysgu yn cymryd lle ar brynhawn dydd Mercher, rhwng 2.00pm ac 8.00pm.
Daw’n myfyrwyr presennol a’n cyn-fyfyrwyr o amryw o wahanol ddisgyblaethau arbenigol, gan gynnwys peirianneg, y gwasanaethau adeiladu, tirfesur, gwasanaethau gwesty, gweinyddu busnes cyffredinol, rheoli cyfleusterau caled a meddal, eiddo, rheoli prosiectau, cynllunio trefol, gofal iechyd, a llawer mwy. Mae’r cwmnïau sydd wedi cyflogi ein myfyrwyr yn cynnwys Cwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus rhyngwladol, llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, practisau proffesiynol, prifysgolion, Colegau Addysg Bellach, Cymdeithasau Tai, sefydliadau rheoli cyfleusterau allanol, Asiantaethau Llywodraeth Cymru ac yn y blaen.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld. Rydyn ni’n gweld myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn ymuno â’r cwrs sy’n cynnwys y rhai sydd â gradd Anrhydedd neu uwch mewn maes sy’n gysylltiedig â chyfleusterau, eiddo, yr amgylchedd adeiledig neu reoli busnes yw’r llwybr mwyaf addas o bosibl. Rydym fodd bynnag yn annog ymgeiswyr sydd â chyfoeth o brofiad ymarferol ac/neu gymwysterau technegol neu broffesiynol eraill sy’n berthnasol i wneud cais hefyd, a byddan nhw’n cael eu cyfweld â’u mentora yn unigol. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw addysg neu brofiad blaenorol ar y lefel hon.
-
Byddwch yn cael eich asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys aseiniadau sy’n ymwneud ag astudiaethau achos o’r diwydiant, rhai arholiadau ffurfiol, paratoi cyflwyniadau i baneli, a thraethawd hir a allai ganolbwyntio ar faes cyflogaeth y myfyriwr neu faes y maen nhw’n awyddus i ymuno â’r maes hwnnw.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr mewn cyflogaeth lawn-amser, ac mae sawl un o’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr wedi llwyddo i wella eu gyrfa o ganlyniad i’w hastudiaethau ffurfiol â’r Brifysgol. Mae gennym ymgeiswyr sy’n gweithio i Gwmnïau Cyfyngedig Cyhoeddus rhyngwladol, cyrff ac asiantaethau a ariannir gan y llywodraeth ganolog, tai cymdeithasol, maes addysg a gofal iechyd.