Mesur Meintiau (Rhan amser) (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen Mesur Meintiau yn cynnig llwybr hyblyg, rhan-amser i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa foddhaus ym maes adeiladu, wrth gydbwyso ymrwymiadau eraill ar yr un pryd.
Yn Syrfëwr Meintiau, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio prosiectau adeiladu, gan sicrhau ansawdd, bod costau’n cael eu rheoli, a bod y prosiect yn cael ei ddarparu’n amserol. Mae ein cwrs rhan-amser wedi’i gynllunio i feithrin eich sgiliau’n raddol, gan gyfuno gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant â phrofiad ymarferol, fel y gallwch chi gamu i’r byd proffesiynol yn hyderus ar ôl ei gwblhau.
Mewn diwydiant adeiladu sy’n esblygu’n barhaus, lle mae technoleg a darpariaeth integredig yn allweddol, datblygir y rhaglen hon ar y cyd â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau’r diwydiant, megis Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC). Mae hyn yn sicrhau bod y cwrs yn adlewyrchu’r tueddiadau a’r heriau diweddaraf yn y diwydiant.
Wedi’i achredu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), mae’r cymhwyster hwn yn darparu cydnabyddiaeth broffesiynol ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Mae’r cwrs yn ymgorffori cyfuniad o ddysgu damcaniaethol, modylau dan arweiniad diwydiant, a lleoliadau gwaith ymarferol i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich gyrfa.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sgiliau hanfodol fel rheoli costau, caffael, mesur, rheoli risg, ac economeg dylunio. Byddwch hefyd yn ennill arbenigedd ym meysydd contractau, cynllunio costau, amcangyfrif a rheoli prosiectau, a hynny oll wrth hogi sgiliau ariannol, cyfreithiol, rheolaethol a chyfathrebu sy’n hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau adeiladu o’r dechrau i’r diwedd.
Drwy gydol eich pum mlynedd, byddwch yn elwa o brofiadau ymarferol a chyfleoedd i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn lleoliadau byd go iawn, gan helpu i feithrin eich sgiliau a’ch rhwydwaith proffesiynol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r diwydiant adeiladu yn hanfodol i’n bywydau bob dydd, gan greu’r adeiladau, yr isadeiledd a’r gwasanaethau cyhoeddus rydym yn dibynnu arnynt. Drwy astudio Mesur Meintiau, byddwch yn dysgu sut i gyfrannu at y sector pwysig hwn ac yn helpu i siapio dyfodol adeiladu.
Mae ein hathroniaeth dysgu wedi’i gwreiddio mewn darparu addysg ymarferol, sy’n berthnasol i’r diwydiant ac yn cefnogi eich nodau gyrfaol.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i hanfodion adeiladu, gan gynnwys technoleg, prosesau caffael, arolygu digidol, iechyd, diogelwch, lles, defnyddiau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, ac agweddau cyfreithiol yr amgylchedd adeiledig. Byddwch hefyd yn dysgu am dechnegau mesur ac amcangyfrif.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd )
(10 credyd )
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth gyda modylau megis Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM), prosesau amcangyfrif a thendro uwch, a datblygu cynaliadwy. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar ddylunio prosiectau ymchwil, gweinyddu contractau, ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o dechnoleg adeiladu, yn ogystal â rheoli busnes ar gyfer rheoli adeiladu a phrosiectau.
(20 credydau)
(10 credyd)
(10 credyd)
(20 Credyd )
(10 credyd )
(10 credyd)
Ym mlwyddyn 3 byddwch yn datblygu sgiliau uwch mewn technoleg adeiladu a mesur meintiau, gan ganolbwyntio ar reolaeth fasnachol. Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol a phrosiect grŵp integredig, sy’n eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Bydd y modylau hyn yn eich paratoi ymhellach ar gyfer rolau arweinyddiaeth yn y diwydiant.
(20 credyd)
(10 credyd)
(20 Credyd )
(20 Credyd )
(10 credyd )
Yn y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â phrosiectau mwy cymhleth, gan astudio pynciau megis technegau mesur meintiau uwch, rheoli costau, a chyllid prosiectau. Byddwch hefyd yn dysgu am reolaeth strategol prosiectau adeiladu, gan ganolbwyntio ar gaffael a chyfraith contractau yn fanylach.
(20 Credyd )
(20 Credyd )
(20 Credyd )
Bydd y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer rôl broffesiynol yn y diwydiant, gyda chyfuniad o fodylau rheoli prosiectau a rheoli masnachol uwch. Byddwch yn cwblhau prosiect sy’n arddangos eich sgiliau a’ch dealltwriaeth, gan atgyfnerthu popeth rydych wedi’i ddysgu a’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes mesur meintiau.
Ymunwch â ni ar y daith ran-amser pum mlynedd hon a pharatowch eich hun ar gyfer gyrfa foddhaus ac effeithiol yn y diwydiant adeiladu, gan siapio’r amgylchedd adeiledig wrth gydbwyso gofynion gwaith ac astudio.
(40 credydau)
(20 credyd)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd angen 96 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (240 o bwyntiau tariff UCAS yn flaenorol).
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu’n grynodol ac wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd y math hwn o asesiadau wedi’i llunio ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para dwy awr.
Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r cyfryw strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae galw mawr am fesurwyr meintiau yn y DU ac mae diffyg ohonynt. Bydd y ffaith fod gweithlu’r DU yn heneiddio ac effaith Brexit yn golygu ei fod yn hanfodol i’r prinder sgiliau hyn cael ei ddatrys. Yng Nghymru’n unig, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio 1,300 o bobl bob blwyddyn i lenwi’r bylchau fydd yn cael eu gadael yn y diwydiant o ganlyniad i ymddeoliadau. Nod y cwrs gradd hwn yw cynhyrchu graddedigion â’r sgiliau mesur meintiau sydd eu hangen i lenwi’r bwlch yn niwydiant adeiladu’r DU.
Mae adeiladu’n cyfrannu tua £132 biliwn i’r asedau sefydlog sy’n sail i economi’r DU. Yn ôl disgrifiad y CIOB (2020) mae gennym dros 28 miliwn o gartrefi, ¼ miliwn milltir o ffyrdd, 46 maes awyr, 350,000 milltir o garthffosydd a 10,000 milltir o reilffyrdd cenedlaethol. Yn fwy a mwy aml, fel diwydiant, rydym yn gweld effeithiau technolegau digidol ar y ffordd rydym yn gweithio, megis dronau a realiti rithwir ac estynedig. Hefyd, mae gan y diwydiant adeiladu ran bwysig i chwarae wrth symud tuag at well effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Dylunnir y rhaglen hon gan ystyried y materion uchod. Er enghraifft, mae deilliannau’r modylau yn mynd i’r afael â phryderon megis cynaladwyedd, effeithlonrwydd ynni, rheoli cyfleusterau, yn ogystal â’r deilliannau mwy cyfarwydd megis theorïau rheoli, llythrennedd, datrys problemau ac anghenion y cleient. Mae amrywiaeth o sgiliau uwch sydd wedi’u dylunio i integreiddio gyda’r deilliannau’r modylau yn atodi’r rhain.
Gwnaiff y rhaglen hon fodloni gofynion y diwydiant ac wrth wneud hynny, darparu profiad dysgu galwedigaethol cadarn sy’n gofyn llawer yn ddeallusol, sy’n gysylltiedig â chyrff diwydiannol a phroffesiynol, gofyniad sy’n bodloni anghenion myfyrwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Yn ychwanegol i hyn, mae y tîm rhaglen wedi datblygu amcanion ar gyfer y rhaglen sy’n cyfoethogi datblygiad cymhwysedd a hyfforddiant technegol ar lefel sy’n gallu bodloni gofynion cyfredol y diwydiant ar gyfer rheolaeth ganol.
Bydd graddedigion y Rhaglen Mesur Meintiau’n dod o hyd i waith naill ai ar ochr ymgynghori’r diwydiant fel Mesurwyr Meintiau, yn rhoi cyngor i gleientiaid ar economeg eu prosiectau datblygu, neu mewn rolau fel Rheolwyr Masnachol ar ochr gontractio’r diwydiant. Ar ddiwedd y cwrs, rhagwelir y bydd graddedigion wedi ennill sgiliau digonol i allu ymgymryd â rôl syrfëwr meintiau graddedig yn y naill sector neu’r llall. Mae gennym hanes cyflogaeth ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr graddedig.