Crefyddau Hynafol (Rhan amser) (MA)
Mae’r rhaglen Crefyddau Hynafol (MA) amlddisgyblaethol unigryw hon yn cyflwyno dadansoddiad cymharol o wahanol draddodiadau crefyddol ar draws yr hen fyd, y tu hwnt i Wlad Groeg a Rhufain ac mor bell i ffwrdd â’r hen Aifft, Prydain Geltaidd a Tsieina hynafol.
Cewch gyfle i drafod gwreiddiau arferion crefyddol trefniadol ac archwilio’r temlau cynharaf yn ne-orllewin Asia, ymgysylltu â chrefyddau Oes Efydd Môr y Canoldir, cwrdd â duwiau a duwiesau’r hen Aifft, ac archwilio tirweddau cysegredig gogledd orllewin Ewrop . Bydd modiwlau eraill yn eich cyflwyno i fythau’r hen Wlad Groeg a Rhufain, cosmoleg, hud a dewiniaeth yn y byd clasurol a thestunau’r Hen Destament.
Mae’r rhaglen yn hyblyg iawn i gyd-fynd gyda’ch diddordebau ymchwil.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs Crefyddau Hynafol (MA) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y maes hwn i astudio ar gyfer gradd uwch arbenigol sydd wedi’i theilwra i ymchwilio i dystiolaeth o arferion a chredoau crefyddol mewn cyd-destunau diwylliannol amrywiol: Oes Neolithig de-orllewin Asia, Oes Efydd Môr y Canoldir, y Celtiaid, yr Eifftiaid, yr Iddewon, Gwlad Groeg a Rhufain, a Tsieina hynafol.
Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng crefydd a chymdeithas o safbwynt trawsddiwylliannol ac felly’n eu galluogi i ddeall gwareiddiadau aml-grefyddol yn well. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ehangach o’r grymoedd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol sy’n sail i’r byd hynafol a’r syniadau a’r arferion hynafol hyn yn benodol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o fethodolegau a safbwyntiau damcaniaethol a gymerwyd o faes Archaeoleg ac Anthropoleg yn ogystal ag o draddodiadau testunol Tsieina hynafol, y byd Clasurol ac astudiaethau’r Hen Destament.
Mae’r cynllun yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o grefyddau hynafol, gan roi dewis i chi lunio’r rhaglen yn unol â’ch diddordebau.
Mae ein holl fodiwlau ar y cwrs Crefyddau Hynafol (MA) yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac ymchwilwyr gweithredol o wahanol ddisgyblaethau, yn enwedig ym maes Archeoleg, y Clasuron, Eifftoleg, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Seryddiaeth Ddiwylliannol, Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Tsieineaidd. Mae dylanwad ein hymchwil ar ein haddysgu yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr ddysgu gan y goreuon yn y maes a dilyn y tueddiadau a’r darganfyddiadau ysgolheigaidd diweddaraf.
Mae’r cwrs MA Crefyddau Hynafol ar gael i fyfyrwyr ar y campws a dysgwyr o bell. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn fforwm byw lle gall myfyrwyr a staff ryngweithio, a thrwy hynny mae myfyrwyr yn gallu adolygu ac archwilio pynciau anodd yn well a chael mynediad at yr adnoddau electronig sydd ar gael yn rhithiol.
Gorfodol
(30 credydau)
(60 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
* Mae’r modiwlau hyn yn newid am yn ail bob blwyddyn.
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Mae ein gradd MA Crefyddau Hynafol yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu.
Yn ogystal â thraethodau traddodiadol, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar a PowerPoint - creu crynodebau ac erthyglau ar gyfer gwyddoniadur, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir terfynol 15,000 o eiriau.
Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio oherwydd diddordeb personol.