ϳԹ

Skip page header and navigation

Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) (DipAU)

Llambed
2 Blynedd Llawn Amser

Mae’r DipAU Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol), yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr dwy flynedd i dreftadaeth ddeallusol a moesol dwys Tsieina’r henfyd. Trwy astudiaeth fanwl o destunau clasurol a thraddodiadau athronyddol, mae myfyrwyr yn archwilio sut y gwnaeth meddylwyr Tsieineaidd cynnar ymdrin â meithrinrhagoriaeth ddynol —etifeddiaeth sy’n parhau i ysbrydoli meddwl cyfoes.

Addysgir y rhaglen hon yn Saesneg, gan wneud mewnwelediadau gwareiddiad Tsieineaidd yn hygyrch i fyfyrwyr rhyngwladol. Gan gwmpasu pynciau hanfodol fel ieitheg Tsieineaidd, clasuron Conffiwsaidd, a systemau addysgol cyn-fodern, mae’r cwrs yn darparu sylfaen gadarn yn yr egwyddorion sydd wedi siapio cymdeithas Tsieineaidd yn hanesyddol. Mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r gwerthoedd a’r fframweithiau cymdeithasol a lywiodd ddiwylliant traddodiadol Tsieina, gan ganolbwyntio ar berthnasedd y syniadau hyn i faterion modern.

Yn dilyn dull rhyngddisgyblaethol, mae’r DipAU yn cysylltu meysydd fel hanes, llenyddiaeth ac athroniaeth i gynnig dealltwriaeth dda i fyfyrwyr o addysg ddyneiddiol Tsieineaidd. Trwy archwilio egwyddorion economaidd a chymdeithasol hynafol, mae myfyrwyr yn cael mewnwelediadau gwerthfawr i ddatblygiad a chynaliadwyedd cymdeithas Tsieina, mewnwelediadau sy’n parhau i fod yn arwyddocaol heddiw.

Mae’r rhaglen hon hefyd yn cynnwys gwersi Tsieinëeg Mandarin rhagarweiniol, gan alluogi myfyrwyr i ymdrochi ymhellach yn niwylliant a hanes Tsieina. Mae’r sgil iaith hon yn cefnogi astudiaethau myfyrwyr ac yn darparu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer ymgysylltu mewn cyd-destunau byd-eang yn y dyfodol.

Gan ganolbwyntio ar gymhwysiad ymarferol a hygyrchedd diwylliannol, mae’r DipAU mewn Sinoleg yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg, llywodraeth, gweinyddiaeth a rolau sydd angen mewnwelediad rhyngddiwylliannol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gyfoethog i ddysgu dyneiddiol, gan ddarparu sgiliau a gwybodaeth addasadwy i fyfyrwyr sy’n cyseinio ar draws diwylliannau ac amser.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn Amser

2025/26:&Բ;£8,000

Pam ddewis y cwrs hwn

01
Datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws disgyblaeth Sinoleg
02
Ennill dealltwriaeth o destunau sylfaen gwareiddiad Tsieina, gan gynnwys Analectau Conffiwsiws a'r Mencius
03
Cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, gan roi’r cyfle i archwilio Sinoleg o safbwynt rhyngddiwylliannol
04
Datblygu gwybodaeth ryngddisgyblaethol a sgiliau ar draws addysg, hanes, ieithyddiaeth ac economeg
05
Ennill y sgiliau i ddehongli doethineb traddodiadol Tsieineaidd drwy lens fodern
06
Archwilio sut y gellir trosoli doethineb Tsieineaidd i helpu i fynd i’r afael â materion cyfoes

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r DipAU hwn mewn Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn darparu archwiliad hygyrch, rhyngddisgyblaethol o destunau clasurol a syniadau diwylliannol Tsieineaidd heb fod angen sgiliau iaith Tsieinëeg blaenorol. Trwy ddadansoddi beirniadol, rhyngddiwylliannol, mae myfyrwyr yn astudio ar draws athroniaeth Gonffiwsaidd a gwerthoedd dyneiddiol Tsieineaidd, gan eu paratoi i gysylltu’r mewnwelediadau hyn â chyd-destunau byd-eang hanesyddol a chyfoes.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn ymgysylltu â thestunau a fframweithiau diwylliannol Tsieineaidd sylfaenol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar Gonffiwsiaeth a syniadau economaidd clasurol. Mae’r modylau’n darparu safbwyntiau hanesyddol a dyneiddiol, ac mae myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ieithegol i ddatblygu sgiliau craidd ar gyfer dehongli Tsieinëeg glasurol, gan osod y sylfaen ar gyfer ymgysylltu testunol dyfnach.

Cof diwylliannol am Tang Tsieina

(30 credydau)

Addysg Elfennol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol I

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd I

(30 credyday)

Egwyddorion Economaidd mewn Athroniaeth Tsieineaidd Draddodiadol I

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ieitheg y Tsieineeg I

(20 credydau)

Mae Blwyddyn 2 yn ymchwilio i’r berthynas rhwng athroniaeth, llywodraethu ac addysg Tsieina, gan ehangu ar wybodaeth myfyrwyr o Tsieinëeg glasurol ac ymgysylltiad beirniadol â chlasuron Conffiwsaidd. Trwy astudio rhyngddisgyblaethol, mae myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o ddylanwad addysg ddyneiddiol ar gymeriad unigol a strwythurau cymdeithasol yn Tsieina hanesyddol.

Syniadau Gwleidyddol yn Hanfodion Creu Trefn o Destunau Amrywiol (Qunshu Zhiyao)

(30 credydau)

Addysg Elfennol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol II

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd II

(30 credydau)

Egwyddorion Economaidd mewn Athroniaeth Tsieineaidd Draddodiadol II

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ieitheg y Tsieineeg II

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Further information

    • Cyfateb i (96 – 112 Pwynt UCAS) yn y DU. 
    • Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos lefel ddigonol o Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS academaidd o 6.5 o leiaf yn gyffredinol, gydag isafswm sgôr o 6.1 ym mhob un o’r pedair cydran (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad), neu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan UK NARIC gan wlad Saesneg ei hiaith.  Sylwch y bydd y Brifysgol ond yn derbyn tystysgrifau IELTS o ganolfan brawf a gymeradwyir gan UKVI a rhaid i ymgeiswyr ddewis y categori “IELTS ar gyfer UKVI ac Academaidd Mewnfudo”. Am restr o ganolfannau cymeradwy, cliciwch .

    D.S. Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.  Mae diddordeb gennym mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w maes pwnc dewisol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. 

  • Mae dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond gallwch ddisgwyl asesiadau gan gynnwys traethodau a chyflwyniadau.  Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â myfyrio ar gymhwysiad ymarferol yr egwyddorion sy’n dangos gallu myfyriwr i integreiddio eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ystyrlon.

  • Am fwy o wybodaeth am y rhaglen hon, e-bostiwch sinology@uwtsd.ac.uk

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau