Athroniaeth ac Anthropoleg (BA Anrh)
Mae’r rhaglen BA (Anrh) Athroniaeth ac Anthropoleg yn cynnig cyfle unigryw i archwilio dwy ddisgyblaeth sy’n ymchwilio i’r cwestiynau mwyaf sylfaenol am ddynoliaeth a chymdeithas. Drwy gyfuno athroniaeth ac anthropoleg, mae’r radd gydanrhydedd hon yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth ddofn o hunaniaethau diwylliannol, dadansoddi cymdeithasol, a’r syniadau sy’n siapio taith dynoliaeth trwy hanes ac i’r byd modern.
Athroniaeth:
Yn wahanol i bynciau eraill, mae athroniaeth yn canolbwyntio nid ar beth i’w feddwl ond ar sut i feddwl. Mae’n annog archwilio cwestiynau mawr: Pwy ydyn ni? Beth yw ein lle ni yn y byd? Sut dylen ni fyw? Trwy astudio moeseg, meddwl beirniadol, a gwaith athronwyr hanesyddol, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â dadleuon o draddodiadau dadansoddol a chyfandirol. Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno athroniaeth y Dwyrain, gan gynnig safbwyntiau amrywiol ar rai o gwestiynau mwyaf parhaus bywyd.
Bydd myfyrwyr yn archwilio hanes athroniaeth y Gorllewin, gan gael cipolwg ar feddylwyr allweddol a’u syniadau. O ddadleuon athronyddol hynafol i fodern, mae’r rhaglen yn arfogi myfyrwyr â meddwl strwythuredig, dadleuon trefnus, a’r gallu i ymateb yn feddylgar i wrthddadleuon.
Anthropoleg:
Mae anthropoleg yn canolbwyntio ar gyfoeth amrywiaeth ddynol a’r ffyrdd y mae cymdeithasau’n esblygu ac yn rhyngweithio. Mae’n archwilio sut mae pobl yn byw, yn meddwl ac yn mynegi eu hunain ar draws diwylliannau, gan gynnig golwg gynhwysfawr o le dynoliaeth yn y byd. Bydd myfyrwyr yn archwilio themâu fel hunaniaethau diwylliannol, effaith globaleiddio, a heriau cyfoes dybryd trwy ddadansoddi cymdeithasol trylwyr.
Mae’r rhaglen ar y cyd hon yn cysylltu’r archwiliad athronyddol o syniadau mawr ag ymagwedd ymarferol anthropoleg tuag at astudio profiadau dynol yn y byd go iawn. Mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd am gyfuno dyfnder damcaniaethol â dealltwriaeth draws-ddiwylliannol.
Mae’r rhaglen gydanrhydedd hon wedi’i chynllunio gyda hyblygrwydd mewn cof, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddewis o ystod eang o fodylau sy’n adlewyrchu eu diddordebau. Mae’r dull rhyngddisgyblaethol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd beirniadol, megis rhesymu dadansoddol, cyfathrebu clir, a’r gallu i ymgysylltu â dadleuon cymhleth.
Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi’u paratoi’n dda i fynd i’r afael â materion cyfoes, gan gymhwyso eu sgiliau i yrfaoedd mewn addysg, ymchwil, llunio polisi, a thu hwnt.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 25/26
Cartref (Llawn-amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Athroniaeth ac Anthropoleg wedi’i chynllunio i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn amgylcheddau dysgu dynamig sy’n cyfuno archwilio academaidd trwyadl â sgiliau ymarferol. Trwy ddosbarthiadau bach a chysylltiadau rhyngddisgyblaethol, ein nod yw datblygu meddwl beirniadol, cyfathrebu effeithiol, a dealltwriaeth ddofn o safbwyntiau athronyddol ac anthropolegol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio hanfodion athroniaeth ac anthropoleg, gan ymgysylltu â phynciau fel moeseg, gwybodaeth a realiti, a hunaniaethau diwylliannol. Mae’r flwyddyn hon yn eich cyflwyno i athronwyr hanesyddol ac yn gosod sylfaen mewn meddwl yn feirniadol, gan eich paratoi ar gyfer ymholiad academaidd dyfnach. Mae’r astudiaeth o ddadansoddi cymdeithasol yn dechrau, gan archwilio ymddygiad dynol a systemau diwylliannol.
Ym mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 60 credyd bob blwyddyn o’r ddau bwnc cydanrhydedd.
Athroniaeth - Modiwlau Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd )
Anthropoleg - Modiwlau Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
Anthropoleg - Modiwlau Dewisol
(20 credydau)
(20 credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd )
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ehangu eich dealltwriaeth o bynciau cymhleth fel rhyddid, galluedd a chyfrifoldeb, wrth ymchwilio i faterion cyfoes mewn dadansoddi cymdeithasol a hunaniaethau diwylliannol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â chysylltiadau rhyngddisgyblaethol, gan gyfuno traddodiadau dadansoddol a chyfandirol gyda mewnwelediadau o athroniaeth y Dwyrain.
Ym mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 60 credyd bob blwyddyn o’r ddau bwnc cydanrhydedd.
*Mae’r radd hon yn dilyn system Blwyddyn A - Blwyddyn B, lle mae myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd. O ganlyniad, bydd y flwyddyn y byddwch chi’n ei chwblhau yn dibynnu ar gylch dwy flynedd.
Athroniaeth - Blwyddyn A Modiwlau Dewisol*
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Athroniaeth - Blwyddyn B Modiwlau Dewisol*
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
Anthropoleg - Modiwlau Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio’ch sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn mynd i’r afael â phynciau uwch fel metaffiseg, athroniaeth amgylcheddol, ac amrywiaeth ddiwylliannol mewn byd wedi ei lobaleiddio. Mae eich traethawd hir yn eich galluogi i arbenigo mewn maes o ddiddordeb, gan gyfuno theori athronyddol ac ymchwil anthropolegol i greu cyfraniad academaidd unigryw ac effeithiol. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer llwybrau proffesiynol neu academaidd, gan eich arfogi â sgiliau dadansoddol a chymhwysol ar gyfer heriau’r byd go iawn.
Mae’r strwythur yma’n sicrhau addysg gadarn, ryngddisgyblaethol, gan gyfuno dyfnder damcaniaethol â pherthnasedd ymarferol.
Ym mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd traethawd hir 40 credyd ac yna 40 credyd o bob un o’r pynciau cydanrhydedd.
*Mae’r radd hon yn dilyn system Blwyddyn A - Blwyddyn B, lle mae myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd. O ganlyniad, bydd y flwyddyn y byddwch chi’n ei chwblhau yn dibynnu ar gylch dwy flynedd.
(40 credydau)
Athroniaeth - Blwyddyn A Modiwlau Dewisol*
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Athroniaeth - Blwyddyn B Modiwlau Dewisol*
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credydau)
Anthropoleg - Modiwlau Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96 – 112 o bwyntiau UCAS
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a bydd yn cynnwys nifer o’r math canlynol o asesiad: traethodau o 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd, dadansoddi dogfennau, adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion, adroddiadau byr a chyfnodolion myfyriol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir o 10,000 o eiriau.
-
Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
- Y Byd Academaidd
- Busnes
- Swyddi eiriolaeth a chysylltiadau llywodraeth
- Swyddi dadansoddwyr
- Gwaith pwyllgor
- Addysg
- Gwaith amgylcheddol
- Ymgynghorwyr moeseg a gwaith ymgynghorol arall
- Codi arian
- Y Gyfraith
- Y cyfryngau a newyddiaduraeth
- Cyrff anllywodraethol ac elusennau
- Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil