ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Athroniaeth (Rhan amser) (MRes)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan amser

Cwrs dysgu o bell yw ein rhaglen Athroniaeth (MRes). Mae’n cynnwys gwerth 60 credyd o fodiwlau a addysgir a thraethawd hir 120 credyd, sy’n cyfateb i 30,000 o eiriau.

Mae’r rhaglen yn diwallu anghenion graddedigion athroniaeth sy’n dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o athroniaeth a datblygu prosiect ymchwil manwl.

Gall myfyrwyr ddewis o blith ystod o fodiwlau sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol themâu a meysydd arbenigol, yn ogystal â gweithio un-i-un gyda goruchwyliwr i ddatblygu eu prosiect traethawd hir eu hunain.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Ar-lein
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
1. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar gronfa o arbenigedd sydd wedi’i sefydlu mewn materion cysylltiedig ac mae'n cwmpasu ystod o brosiectau yr ymgymerwyd â hwy dros nifer o flynyddoedd
02
2. Mae'r staff yn weithgar ym maes ymchwil ac yn mynychu cynadleddau academaidd yn rheolaidd
03
3. Cyfle i astudio meysydd blaengar o ddiddordeb academaidd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn o Athroniaeth, mae’r cwrs Athroniaeth (MRes) yn diwallu anghenion graddedigion sy’n dymuno parhau gyda’u hastudiaethau yn dilyn eu gradd gyntaf mewn Athroniaeth neu ddisgyblaeth berthynol, e.e. paratoi ar gyfer gradd ymchwil.

Mae’r rhaglen hefyd yn diwallu anghenion athrawon Athroniaeth Safon Uwch, gan fod ei modiwlau’n gorgyffwrdd â rhannau craidd cwricwlwm Athroniaeth Safon Uwch, megis Athroniaeth Crefydd, Moeseg, a Hanes Athroniaeth (mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y modiwl Athroniaeth Athroniaeth).

Fodd bynnag, mae’r cwrs Athroniaeth (MRes) yn ddigon eang i fod yn addas hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ehangu eu hadnabyddiaeth a’u dealltwriaeth o athroniaeth fel y caiff ei hymarfer yn y byd Saesneg ei iaith heddiw.

Yn Rhan I o’r cwrs, mae myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl a addysgir gwerth 30 credyd (cyfanswm o 60 credyd).

  • Y modiwl gorfodol ‘Gwybodaeth, Rheswm, a Realiti’ yw un ohonynt. 
  • Gellir dewis yr ail fodiwl a addysgir o blith ystod o fodiwlau athronyddol neu fodiwlau o ddisgyblaethau perthynol.

Mae’r modiwlau wedi’u llunio o gwmpas arbenigeddau ymchwil ein staff academaidd, y mae pob un ohonynt yn weithgar ym maes ymchwil ac wedi cyhoeddi gwaith yn eu maes arbenigedd. 

Yn Rhan II, mae myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd hir ymchwil sydd rhwng 25,000-30,000 o eiriau ac yn werth 120 credyd.

Gorfodol

Gwybodaeth, Rheswm, a Realiti
Traethawd Hir Mhres (Athroniaeth)

Dewisol

Athroniaeth Foesol
Yr Hunan: Dwyrain a Gorllewin
Islam Heddiw
Moeseg Gymhwysol

(30 credydau)

Athroniaeth Amgylcheddol
Y Corff a'r Meddwl: Descartes a Wittgenstein
Cyfarfyddiadau Rhyng-ffydd: Rhyngweithio Crefyddol mewn Byd Cymhleth
Profiad Crefyddol Heddiw

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthynol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. 

  • Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy ddysgu o bell. Nid oes angen ymweld â’n campws, er bod croeso i chi wneud hynny. Mae’r rhaglen yn cynnwys darlithoedd, fforymau trafod a thiwtorialau un-i-un ar-lein.

  • Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar y dybiaeth bod myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gall myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu drafftiau o waith.

    Gall myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i: ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol; cyflwyno dadleuon clir a chydlynol; cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.

    Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion athronyddol o fudd.

    Gall hyn gynnwys gweithwyr gwirfoddol, athrawon a hyfforddwyr, academyddion, asiantaethau a phrosiectau cymunedol a’r llywodraeth, rhwydweithiau rhyngddiwylliannol, aml-ffydd penodedig i feithrin cysylltiadau cymunedol, cynlluniau cymodi ac ailadeiladu gydag asiantaethau byd-eang amrywiol a chyrff sy’n lleddfu effeithiau trychineb.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau