ϳԹ

Skip page header and navigation

Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) (BA Anrh)

Llambed
3 Years Full-time

Mae’r BA (Anrh) mewn Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn cynnig cyfle unigryw i archwilio treftadaeth gyfoethog Tsieina’r henfyd. Trwy’r cwrs hwn, mae myfyrwyr yn ymgysylltu’n ddwfn â’r traddodiadau deallusol, cymdeithasol a moesol sy’n parhau i siapio meddwl a diwylliant Tsieineaidd. Yn ganolog i’r rhaglen hon mae archwiliad o sut roedd meddylwyr clasurol Tsieineaidd yn rhagweld datblygiad rhagoriaeth ddynol a sut mae’r syniadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol yn y byd sydd ohoni.

Addysgir y rhaglen Sinoleg hon yn Saesneg ac mae’n cymryd ymagwedd eang, gan ganolbwyntio ar ystod o bynciau sy’n hanfodol i ddeall gwareiddiad Tsieineaidd a’i sylfeini athronyddol. Mae’r cwrs yn ymdrin ag agweddau hanfodol ar astudiaethau Tsieineaidd, o ieitheg Tsieineaidd a’r system addysg cyn-fodern i ddehongli clasuron Conffiwsaidd. Trwy astudio’r meysydd hyn, mae myfyrwyr yn cael mewnwelediad i’r fframweithiau athronyddol craidd a’r cysyniadau llywodraethu sydd wedi dylanwadu ar gymdeithas Tsieineaidd ers canrifoedd. Mae’r astudiaethau hyn yn helpu myfyrwyr i werthfawrogi doethineb oesol meddwl Tsieineaidd a’i botensial i lywio syniadau modern am dwf personol a chymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn dilyn dull rhyngddisgyblaethol, gan wneud cysylltiadau ar draws meysydd fel hanes, ieithyddiaeth, llenyddiaeth ac athroniaeth. Mae’r sylfaen eang hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r strwythurau cymdeithasol a’r egwyddorion economaidd hynafol a luniodd gymdeithas Tsieineaidd, gan gynnig mewnwelediadau sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn yr oesoedd a fu. Drwy ddod â meysydd astudio amrywiol ynghyd, mae myfyrwyr yn cael persbectif cyflawn ar addysg ddyneiddiol a sut y gall meddwl clasurol Tsieineaidd ysbrydoli gwytnwch a’r gallu i addasu. 

Fel nodwedd unigryw, mae’r cwrs yn cynnwys gwersi Tsieinëeg Mandarin, gan alluogi myfyrwyr i ddyfnhau eu hymgysylltiad â diwylliant a hanes Tsieina. Mae’r sgil iaith hon yn fantais ychwanegol i’r rhai sy’n ystyried rolau’n y dyfodol mewn byd cynyddol ryng-gysylltiedig. 

Mae ffocws y rhaglen ar hygyrchedd, cymhwysiad a pherthnasedd yn y byd go iawn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Gall graddedigion fynd ymlaen i rolau mewn addysg a hyfforddiant, llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus, adnoddau dynol a gweinyddu busnes. Mae’r sgiliau a geir o’r radd hon hefyd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â Dwyrain Asia ac astudiaethau diwylliannol byd-eang.

Wrth ddewis y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thaith ddeallusol gyfoethog sy’n pontio’r gorffennol a’r presennol, gan eu harfogi â gwybodaeth a sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr heddiw. Trwy astudio Sinoleg, mae myfyrwyr yn dod yn rhan o etifeddiaeth o ddysgu dyneiddiol sy’n rhoi gwerth ar ddealltwriaeth ddiwylliannol, mewnwelediad moesegol, a thwf personol.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
3 Years Full-time

2025/26:&Բ;£8,000

Pam ddewis y cwrs hwn

01
Datblygu gwybodaeth a sgiliau ar draws disgyblaeth Sinoleg
02
Ennill dealltwriaeth o destunau sylfaen gwareiddiad Tsieina, gan gynnwys Analectau Conffiwsiws a'r Mencius
03
Cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, gan roi’r cyfle i archwilio Sinoleg o safbwynt rhyngddiwylliannol
04
Datblygu gwybodaeth ryngddisgyblaethol a sgiliau ar draws addysg, hanes, ieithyddiaeth ac economeg
05
Ennill y sgiliau i ddehongli doethineb traddodiadol Tsieineaidd drwy lens fodern
06
Archwilio sut y gellir trosoli doethineb Tsieineaidd i helpu i fynd i’r afael â materion cyfoes

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen BA (Anrh) Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn pwysleisio hygyrchedd, cymhwysiad, gallu i addasu a dull rhyngddisgyblaethol. Wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol heb sgiliau Tsieinëeg blaenorol, mae’n cynnig hyfforddiant cynhwysfawr mewn testunau Tsieineaidd clasurol a chysyniadau diwylliannol. Trwy ddadansoddi beirniadol, rhyngddiwylliannol a chyd-destunol hanesyddol, mae myfyrwyr yn cael offer i ddehongli a chymhwyso athroniaeth Gonffiwsaidd a gwerthoedd dyneiddiol Tsieineaidd i heriau hanesyddol a chyfoes byd-eang.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i destunau clasurol a fframweithiau diwylliannol Tsieineaidd hanfodol, gyda ffocws cryf ar Gonffiwsiaeth a meddwl economaidd traddodiadol. Mae’r modylau hefyd wedi’u cynllunio i ddarparu mewnwelediadau sylfaenol i gof hanesyddol a delfrydau dyneiddiol, tra bod hyfforddiant ieithegol yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dehongli Tsieinëeg glasurol.

Cof diwylliannol am Tang Tsieina

(30 credydau)

Addysg Elfennol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol I

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd I

(30 credyday)

Egwyddorion Economaidd mewn Athroniaeth Tsieineaidd Draddodiadol I

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ieitheg y Tsieineeg I

(20 credydau)

Mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar groestoriad athroniaeth, llywodraethu ac addysg ym meddwl Tsieineaidd. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn ehangu ar ieitheg Tsieineaidd, gan baratoi myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol â chlasuron Conffiwsaidd. Mae’r flwyddyn hon yn atgyfnerthu dealltwriaeth o rôl addysg ddyneiddiol wrth lunio cymeriad personol a chymdeithas yn Tsieina hanesyddol.

Syniadau Gwleidyddol yn Hanfodion Creu Trefn o Destunau Amrywiol (Qunshu Zhiyao)

(30 credydau)

Addysg Elfennol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol II

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd II

(30 credydau)

Egwyddorion Economaidd mewn Athroniaeth Tsieineaidd Draddodiadol II

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ieitheg y Tsieineeg II

(20 credydau)

Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil annibynnol a thraethawd hir ar addysg ddyneiddiol mewn Sinoleg. Mae modylau uwch yn helpu i fireinio sgiliau deongliadol, gan ganiatáu i fyfyrwyr wneud cysylltiadau rhwng mewnwelediadau clasurol a materion cyfoes, wedi’u cefnogi gan safbwyntiau rhyngddisgyblaethol a rhyngddiwylliannol.

Traethawd hir: Addysg Ddyneiddiol mewn Sinoleg

(40 credydau)

Llenyddiaeth ar gyfer Cyfarwyddyd Moesol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol

(20 credydau)

Adlewyrchu Hanes yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd III

(20 credydau)

Egwyddorion Economaidd mewn Athroniaeth Tsieineaidd Draddodiadol III

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

Further information

    • Cyfateb i (96 – 112 Pwynt UCAS) yn y DU. 
    • Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ddangos lefel ddigonol o Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS academaidd o 6.5 o leiaf yn gyffredinol, gydag isafswm sgôr o 6.1 ym mhob un o’r pedair cydran (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad), neu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan UK NARIC gan wlad Saesneg ei hiaith.  Sylwch y bydd y Brifysgol ond yn derbyn tystysgrifau IELTS o ganolfan brawf a gymeradwyir gan UKVI a rhaid i ymgeiswyr ddewis y categori “IELTS ar gyfer UKVI ac Academaidd Mewnfudo”. Am restr o ganolfannau cymeradwy, cliciwch .

    D.S. Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.  Mae diddordeb gennym mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’w maes pwnc dewisol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. 

  • Mae dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond gallwch ddisgwyl asesiadau gan gynnwys traethodau a chyflwyniadau.  Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â myfyrio ar gymhwysiad ymarferol yr egwyddorion sy’n dangos gallu myfyriwr i integreiddio eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ystyrlon.

  • Am fwy o wybodaeth am y rhaglen hon, e-bostiwch sinology@uwtsd.ac.uk

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau