ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Rheoli Prosiectau Peirianneg (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Ydych chi’n angerddol am beirianneg ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau ymhellach? Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am adeiladu ar eu gwybodaeth am reoli prosiectau o fewn y sector peirianneg, a chael mantais gystadleuol mewn maes sy’n tyfu. P’un ai eich bod o gefndir mewn peirianneg fecanyddol, dylunio peirianyddol, peirianneg sifil neu beirianneg gweithgynhyrchu, mae’r rhaglen hon yn darparu’r offer i ehangu eich arbenigedd.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau gradd israddedig ac sy’n dymuno archwilio cyfleoedd newydd mewn peirianneg dechnegol. Mae hefyd o fudd i reolwyr profiadol sydd am adnewyddu eu gwybodaeth a ffurfioli eu cymwysterau, gan eu helpu i aros ar y blaen mewn marchnad swyddi sy’n datblygu.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu sgiliau reoli prosiectau sy’n hanfodol ar gyfer arwain prosiectau peirianneg. Ochr yn ochr â dysgu craidd, bydd myfyrwyr yn mireinio eu galluoedd mewn arwain prosiectau, rheoli ansawdd a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rhain yn elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant yn y diwydiannau sy’n datblygu’n gyflym heddiw. Mae deall sut i reoli caffael hefyd yn rhan bwysig o’r cwrs, gan roi dealltwriaeth i fyfyrwyr ar agwedd hanfodol ar gynllunio a gweithredu prosiectau.

Bydd graddedigion yn gadael y rhaglen yn meddu ar sgiliau sy’n eu gwneud yn apelgar i gyflogwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. P’un ai eich bod yn anelu i fod yn rheolwr prosiect medrus iawn neu ymgymryd â rolau arweinyddiaeth mwy technegol, bydd yr hyfforddiant a ddarperir yn cefnogi eich cyflogadwyedd.

Mae’r rhaglen hefyd wedi’i chynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer heriau’r gweithle modern. Mae cyflogwyr heddiw yn gwerthfawrogi mwy na gwybodaeth dechnegol yn unig; maent yn chwilio am weithwyr proffesiynol sy’n gallu arwain timau, rheoli prosiectau cymhleth, a chyflawni canlyniadau o fewn amser ac o fewn cyllideb. Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â’r holl agweddau hyn, gan roi addysg gyflawn i fyfyrwyr mewn arweinyddiaeth, rheoli, a pheirianneg dechnegol.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth ddamcaniaethol i reoli prosiectau’n hyderus, gan sicrhau eich bod yn sefyll allan fel arweinydd prosiect cymwys a galluog iawn ym maes peirianneg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu mewn partneriaeth â chyrff y diwydiant a chyrff proffesiynol.
02
Cyfle i astudio ar Gampws Glannau Abertawe - ein campws modern sydd werth £350m.
03
Mae gan yr adran beirianneg dros 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno'r cyrsiau hyn yn llawnamser ac yn rhan-amser.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar ddarparu cydbwysedd o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol. Ein nod yw rhoi dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o reoli prosiectau mewn peirianneg, gan bwysleisio arweinyddiaeth, cynaliadwyedd ac arloesedd. Trwy ddysgu rhyngweithiol, astudiaethau achos sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, ac asesiadau sy’n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector peirianneg sy’n datblygu’n gyflym heddiw.

Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn rheoli prosiectau, gan gynnwys meysydd craidd fel caffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi, dadansoddeg busnes, a rheolaeth ariannol ar gyfer prosiectau. Byddwch yn dysgu sut i weithredu dulliau Lean Six Sigma i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd mewn gweithrediadau. Mae’r cwrs yn gorffen gyda’r Prosiect Meistr lle byddwch yn mynd i’r afael â her peirianneg yn y byd go iawn, gan integreiddio eich dysgu i ddangos arweinyddiaeth a’r gallu i reoli prosiectau peirianneg cymhleth o’r dechrau i’r diwedd.

Rheoli Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil

(20 credydau)

Rheoli Prosiect

(20 credydau)

Dadansoddeg Busnes

(10 credydau)

Six Sigma Darbodus

(20 credydau)

Ariannu a Rheolaeth Ariannol ar gyfer Prosiectau

(20 credydau)

Rheolaeth Gweithredoedd Cynaliadwy

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol - Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.

    Mae natur y rhaglen yn golygu y bydd ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu hystyried.

    Cymwysterau cyfatebol

    Bydd cymwysterau cyfatebol yn cael eu hystyried wrth gynnig lle ar y rhaglen.  Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael ei ystyried.  Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais.

    Sgiliau eraill sy’n cael eu hystyried

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig; byddwn hefyd yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd. 

    Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen. 

  • Mae’r rhaglen meistr yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau ar gyfer asesu.  Gall asesiad arferol ofyn i chi ymchwilio i broblem a chynnig awgrymiadau ar gyfer gwella gan ddefnyddio’r offer a’r technegau y gwnaethoch ddysgu amdanyn nhw mewn modiwl penodol neu ar draws y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau a chymwyseddau proffesiynol i raddedigion y gellir eu trosglwyddo o fewn sectorau busnes ac o sector i sector. Mae sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn cael eu datblygu gan alluogi unigolion i fagu hyder drwy’r rhaglen astudio.

    Ymysg y cyfleoedd gyrfa arferol mae rheolwyr sifft, goruchwylwyr cynhyrchu, rheolwyr peirianneg, rheolwyr ansawdd, rheolwyr cynllunio ac amserlennu, rheolwyr/cyfarwyddwyr gweithrediadau. Mae pob un o’n graddedigion sydd wedi astudio’n rhan-amser wedi cael dyrchafiad yn eu swyddi wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac yn ystyried mai eu cymhwyster sy’n gyfrifol am hynny.  Mae graddedigion iau wedi gweld bod eu rhagolygon cyflogaeth wedi gwella a’u bod yn gallu cael gwaith fel peirianyddion llinell, peirianyddion ansawdd ac arbenigwyr y gadwyn gyflenwi.   Mae nifer o gwmnïau mawr bellach wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn angenrheidiol ar gyfer dyrchafiad neu ar gyfer rôl benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau