Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (Llawn amser) (MSc)
Mae’r cwrs Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ehangu eu gwybodaeth am sut mae busnesau a diwydiannau’n gweithio’n fwy effeithlon. Mae’n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio pynciau fel peirianneg, gweithgynhyrchu, logisteg neu reoli’r gadwyn gyflenwi. Mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i reolwyr profiadol sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach.
Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cryf ar reoli gweithrediadau gyda ffocws ar y sectorau diwydiannol a’r sectorau gwasanaethau. Byddwch yn dysgu sut i reoli a gwella systemau a phrosesau sy’n cadw diwydiannau i redeg yn ddiffwdan. Mae hyn yn bwysig i fusnesau sydd am fod yn fwy cynhyrchiol, lleihau gwastraff, ac addasu’n gyflym i newid.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn canolbwyntio ar ddefnyddio syniadau’n ymarferol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gweithio ar ddatrys problemau go iawn y mae busnesau yn eu hwynebu heddiw. Mae’r cwrs wedi’i seilio ar y cysyniad o welliant parhaus, gan eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella prosesau yn gyson. Fel rhan o’r cwrs, byddwch hefyd yn ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer tystysgrif ‘Six Sigma Black Belt’, sy’n uchel ei pharch mewn llawer o ddiwydiannau am wella ansawdd ac effeithlonrwydd.
Byddwch hefyd yn archwilio meysydd allweddol fel logisteg, rheoli’r gadwyn gyflenwi, a chaffael, sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer rheoli symud nwyddau a gwasanaethau. Mae deall y gadwyn gyflenwi fyd-eang hefyd yn ganolbwynt pwysig, gan fod busnesau heddiw yn gweithredu ar lefel ryngwladol, gan ddelio â systemau a heriau cymhleth.
Yn ogystal â hyn, byddwch yn astudio rheoli prosiectau i’ch helpu i arwain a chyflawni prosiectau llwyddiannus. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin â phynciau modern fel digideiddio, sy’n edrych ar sut mae technoleg yn newid y ffordd y mae diwydiannau’n gweithredu, ac arloesedd, sy’n annog meddwl creadigol mewn prosesau busnes.
Mae cynaliadwyedd a rheoli risg hefyd yn themâu allweddol yn y rhaglen, gan sicrhau eich bod yn deall sut y gall busnesau weithredu mewn ffordd gyfrifol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ddiwydiannau geisio lleihau eu heffaith amgylcheddol a rheoli risgiau posibl mewn marchnad fyd-eang.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i weithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, a byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer rolau arwain mewn gweithrediadau darbodus a gweithrediadau ystwyth.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein cwrs MSc Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth wedi’i gynllunio i gyfuno sgiliau ymarferol â dealltwriaeth academaidd. Rydym yn canolbwyntio ar roi dysgu ar waith yn y byd go iawn a gwelliant parhaus, gan eich paratoi i reoli gweithrediadau cymhleth yn effeithlon. Trwy ddysgu ymarferol a chanolbwyntio ar arloesedd, byddwch yn datblygu sgiliau sy’n bodloni gofynion y diwydiant ac yn llywio dyfodol busnes.
Byddwch yn dechrau trwy astudio Rheoli Caffael a’r Gadwyn Gyflenwi, gan ganolbwyntio ar reoli adnoddau, a Dulliau Ymchwil ar gyfer dadansoddi effeithiol. Mae Dadansoddeg Busnes yn dilyn hyn, gan addysgu gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata.
Yn ddiweddarach, byddwch yn mynd i’r afael â Six Sigma Darbodus, Logisteg a Masnach Ryngwladol a Roboteg ac Awtomatiaeth, gan gael arbenigedd mewn effeithlonrwydd, gweithrediadau byd-eang, a thechnoleg. Yn olaf, mae Rheoli Gweithrediadau Cynaliadwy a’r Prosiect Gradd Meistr yn eich galluogi i roi eich sgiliau ar waith ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn gweithrediadau darbodus ac ystwyth.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd dosbarth 2:2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.
Golyga natur y rhaglen y rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Cymwysterau cyfwerth
Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer derbyn ymgeiswyr ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai angen tystiolaeth i gefnogi’r cais.
Sgiliau eraill a ystyrir
Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd, byddwn hefyd yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd.
Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Mae’r asesu ar y rhaglen meistr yn cynnwys cymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gallai asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella gan ddefnyddio offer a thechnegau a ddysgwyd gennych mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs hwn heb fynd i gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau sy’n codi o gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion amrywiaeth eang o sgiliau a chymwyseddau proffesiynol sy’n drosglwyddadwy o fewn sectorau busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r rhaglen astudio.
Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio ac amserlennu, rheolwr / cyfarwyddwr gweithrediadau.
Mae pob un o’n graddedigion sydd wedi astudio’n rhan amser wedi cael dyrchafiad tra roeddent yn astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi priodoli hynny i’w cymhwyster.
Mae graddedigion iau wedi elwa o well rhagolygon cyflogaeth ac wedi canfod eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.
Mae nifer o gwmnïau mawr bellach wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn cael dyrchafiad neu ddal swydd benodol.