Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (MSc)
Mae gan PCYDDS hanes hir ym maes peirianneg fodurol, a hi yw un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i gynnig gradd yn y pwnc yn ôl yn y 1990au. Dros y blynyddoedd, mae’r brifysgol wedi adeiladu enw rhagorol yn y diwydiant modurol am gynhyrchu graddedigion medrus. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau blaenllaw fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, a MAHLE.
Mae astudio ar gyfer gradd meistr mewn peirianneg fodurol yn PCYDDS yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth a sgiliau manwl wrth ddylunio, datblygu, peiriannu, gweithgynhyrchu ac optimeiddio cerbydau. Byddwch yn archwilio meysydd fel dylunio cerbydau, diogelwch cerbydau, a meysydd datblygol trydaneiddio a cherbydau ymreolaethol, y mae’r ddau ohonynt yn siapio dyfodol y diwydiant. Mae’r radd hon yn eich galluogi i ymgysylltu â’r tueddiadau a’r dechnoleg ddiweddaraf, gan wneud eich gwybodaeth yn berthnasol iawn yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.
Mae’r cwrs yn cynnig cydbwysedd cryf o ddysgu damcaniaethol ac ymarferol. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ymarferol a chyfleoedd prosiect modurol-benodol sy’n adlewyrchu heriau’r byd go iawn yn uniongyrchol. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cwblhau gwaith aseiniadau sy’n benodol i’r maes modurol, gan eich galluogi i ddyfnhau eich dealltwriaeth mewn meysydd sy’n bwysig i’ch nodau gyrfa. Mae strwythur y cwrs hefyd yn cynnwys ystod eang o fodylau ar bynciau sy’n gysylltiedig â’r maes modurol, y gallwch eu teilwra i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch dyheadau eich hun.
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant modurol yn golygu bod cynnwys y cwrs yn cael ei ddiweddaru’n gyson i adlewyrchu anghenion diweddaraf y diwydiant. Nid yn unig bydd hyn yn sicrhau bod y sgiliau a’r wybodaeth a gewch yn berthnasol yn dechnegol ond hefyd yn werthfawr i gyflogwyr. Mae gan ein graddedigion y sgiliau technegol sydd eu hangen i ragori mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant, o ddylunio a datblygu cerbydau i weithgynhyrchu ac optimeiddio.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn PCYDDS, credwn mewn darparu addysg gytbwys sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Mae ein MSc mewn Peirianneg Fodurol wedi’i chynllunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau diweddaraf sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan ganolbwyntio ar ddysgu ymarferol a chymwysiadau yn y byd go iawn, gan feithrin meddwl annibynnol ac arbenigedd technegol ar yr un pryd.
Yn ddatblygiad naturiol o lwyddiant y rhaglenni Peirianneg Fodurol israddedig a gynigir gan PCYDDS, nod yr MSc Peirianneg Fodurol yw datblygu eich dealltwriaeth ymhellach, yn seiliedig ar y cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a’r Diwydiant.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn astudio ystod amrywiol o bynciau sy’n hanfodol i beirianneg modurol, megisaerodynameg a deinameg cerbydau, gan ddysgu sut maent yn effeithio ar berfformiad a NVH (sŵn, dirgryniad ac aflafarwch). Byddwch yn archwilio tanwydd amgen, modelu hylosgi, a systemau storio ynni i ddeall technolegau gyriant modern. Yn ogystal, bydd modylau fel deunyddiau a dadansoddi cylch bywyd, profion anninistriol a dadansoddi cydrannau strwythurol yn eich addysgu am wydnwch a chynaliadwyedd cerbydau. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rheolaeth ac ymchwil yn y sector modurol, sy’n arwain at brosiect Meistr manwl.
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2.1 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Mae natur y rhaglen yn golygu y bydd ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu hystyried.
Cymwysterau cyfwerth
Byddwn yn ystyried y rhain wrth gynnig lle ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael ei ystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Mae sawl fformat yn cael ei ddefnyddio er mwyn asesu, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs arferol yn ogystal â dulliau asesu eraill sy’n fwy ‘diwydiannol’, fel gwaith maes wrth ymyl y trac, tasgau yn y gweithdy, asesiadau sy’n defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, ac arholiadau llafar a seminarau grŵp.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion llwybrau Peirianneg Fodurol PCYDDS wedi cael gwaith mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau peirianneg o fewn y Diwydiant Peirianneg Fodurol a thu hwnt.
Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau modurol fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, MAHLE a llawer o rolau peirianneg eraill o safon uchel.