ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Peirianneg Beiciau Modur (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi wedi’ch cyfareddu gan feiciau modur cyflym ac am weithio ym myd cyffrous peirianneg beiciau modur? Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Beiciau Modur yn cynnig dealltwriaeth ganolradd gadarn mewn peirianneg fecanyddol, gan ganolbwyntio ar ddatrys problemau peirianneg yn y byd go iawn a’ch helpu i ddod yn beiriannydd dylunio medrus.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar feiciau modur perfformiad uchel, gan eich dysgu am eu gofynion reidio a thrin yn ogystal â pherfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer. Byddwch yn dysgu defnyddio offer o safon y diwydiant fel Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur, Caffael Data, a meddalwedd efelychu uwch. Mae’r offer hyn yn cynnwys Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA), sy’n hanfodol ar gyfer ymchwilio a pherffeithio dylunio beiciau modur.

Byddwch yn archwilio meysydd arbenigol megis dylunio injan uwch, dylunio trên pŵer, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Bydd prosiectau annibynnol a grŵp yn eich helpu i ddyfnhau eich gwybodaeth yn y meysydd hyn. Mae’r prosiectau hyn yn cynnig profiad gwerthfawr i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y sectorau modurol a beiciau modur.

Mae ystyriaethau amgylcheddol yn rhan allweddol o’n modylau, gan sicrhau eich bod yn dysgu am ddylunio a thechnoleg gynaliadwy. Mae’r wybodaeth hon yn agor ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Yn ogystal, gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n eich galluogi i gymhwyso’ch gwybodaeth ddosbarth mewn sefyllfaoedd o fyd go iawn Beiciau Modur.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
MCE8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yr unig raglen benodedig BEng Peirianneg Beiciau Modur yn y byd.
02
Yr unig dîm rasio beiciau modur dan arweiniad myfyrwyr.
03
Cysylltiadau unigryw, arbenigol â’r diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ein prifysgol, rydym yn credu mewn dulliau dysgu ymarferol. Mae ein HND mewn peirianneg beiciau modur yn cymysgu theori â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant peirianneg beiciau modur. Byddwch yn gweithio ar brosiectau yn y byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a Chaffael Data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.

Gorfodol

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Technoleg Beiciau Modur

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar feiciau modur perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dyluniadau beiciau modur.

Gorfodol

Dynameg Beiciau Modur

(20 credydau)

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 80 pwynt o gymhwyster lefel 3 technegol fel Diploma Estynedig BTEC. Gellir ystyried profiad perthnasol.

  • Caiff y modylau eu hasesu mewn amryw ffyrdd yn cynnwys arholiadau traddodiadol, gwaith cwrs, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, y mae pob un o’r rhain wedi’u llunio i roi’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i’r myfyrwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion y cwrs hwn wedi dod o hyd i swyddi ar draws y diwydiant beiciau modur, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i weithgynhyrchwyr beiciau modur prif ffrwd.

    Mae graddedigion nawr yn gweithio mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau, cymorth peirianneg rasys a dadansoddi perfformiad.

    Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach hefyd.

    Mae ein graddedigion beiciau modur wedi’u cyflogi gan:

    • ECStar Suzuki
    • MarcVDS Honda
    • Tech3 Yamaha
    • Honda World Endurance
    • FTR
    • Kalex
    • Suter
    • Buell
    • Triumph
    • Norton
    • Royal Enfield

    ac maent wedi gweithio i dimoedd rasys ym mhencampwriaethau MotoGP, Moto2, SuperSport y Byd, Uwch-feic Prydain ac Uwch-feic yr Eidal i enwi ond ychydig.

    Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion hefyd wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau