Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (BEng Anrh)
Mae’r degawd nesaf yn addo newidiadau cyffrous i’r diwydiant modurol. Wrth i ni symud o’r injan hylosgi mewnol i drenau pŵer hybrid a threnau pŵer trydanol, mae yna alw cynyddol am sgiliau peirianneg newydd. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau peirianneg. Fel myfyriwr ar y rhaglen BEng Peirianneg Fodurol, byddwch yn defnyddio gweithdai modurol arbenigol, labordai diagnosteg peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau trenau pŵer hybrid/trydan, a chyfleusterau gweithgynhyrchu a pheiriannu helaeth.
Mae ein prifysgol yn cydweithio’n agos â’r diwydiant modurol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y wybodaeth a’r angerdd sydd eu hangen ar gyfer cerbydau perfformiad a phrif ffrwd ymarferol.
Nod y cwrs yw datblygu eich dealltwriaeth o sgiliau ffiseg a pheirianneg sylfaenol trwy gymwysiadau ymarferol mewn datblygu ceir, gan gynnwys grogiant, reid, dull trin, ac NVH (Sŵn, Dirgryniad, ac Aflafarwch). Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu trenau pŵer wrth i ni symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.
Mae ein rhaglen hefyd yn pwysleisio agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, sy’n hanfodol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol o’ch modiwlau i sefyllfaoedd modurol go iawn trwy amryw o gyfleoedd allgyrsiol.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am ddylunio a gweithgynhyrchu systemau mecanyddol a thrydanol mewn cerbydau. Er nad yw’r ffocws ar gerbydau awtonomaidd yn unig, byddwch yn gweld y tueddiadau a’r technolegau diweddaraf, gan gynnwys datblygu cerbydau glanach a mwy effeithlon.
Bydd y BEng (Anrh) yn cwrdd, yn rhannol, â’r gofynion meincnodi academaidd enghreifftiol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig a bydd angen i fyfyrwyr gwblhau fformat cymeradwy o ddysgu pellach yn unol â gofynion UK-SPEC.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu deinamig a deniadol. Mae ein cwrs BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â defnydd ymarferol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant modurol sy’n esblygu.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg hanfodol. Byddwch yn astudio dulliau dadansoddol, gwyddor peirianneg, a chyflwyniad i dechnoleg cerbydau. Bydd profiad ymarferol yn ein gweithdai modurol a labordai diagnosteg peiriannau’n ategu eich dysgu damcaniaethol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel systemau gyriant amgen, systemau siasis modurol, a dadansoddi straen a pheirianneg gyda chymorth cyfrifiadur (CAE). Byddwch hefyd yn ymchwilio i thermodynameg a hylosgi, gan wella eich dealltwriaeth o dechnolegau cynaliadwy. Bydd sesiynau ymarferol gyda dynamomedrau siasi a chyfleusterau gweithgynhyrchu yn datblygu eich sgiliau peirianneg ymhellach.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo mewn meysydd fel deunyddiau modurol a chynaliadwyedd. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr fydd yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio’ch dysgu ar gyfer cymwysiadau modurol go iawn. Rhoddir pwyslais ar agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod o gyfleoedd cyflogaeth.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Astudiaethau Achos
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.
Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
-
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.
Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn cwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Mahle Powertrain, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro fel AMG Mercedes, Williams F1 a Force India.