ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Dysgu o Bell) (BEng Anrh)

Dysgu o Bell
4 blynedd
Lefel 3

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae maes peirianneg gweithgynhyrchu wedi esblygu’n sylweddol, gan ddod yn fwy cymhleth oherwydd y cynnydd mewn defnyddiau newydd a phrosesau uwch. Gyda’r angen cynyddol i reoli cadwyni cyflenwi integredig a rhwydweithiau byd-eang, mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ffynnu yn yr amgylchedd deinamig hwn.

Mae’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn cynnig sylfaen gynhwysfawr mewn peirianneg fecanyddol, gan ganolbwyntio ar sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth hon i dechnolegau a defnyddiau gweithgynhyrchu. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio technegau dylunio a gweithgynhyrchu Ã¢ chymorth cyfrifiadur cyfoes, ochr yn ochr ag offer rhifiadol hanfodol. Mae’r cyfuniad hwn o theori a chymhwysiad ymarferol yn eich paratoi ar gyfer yr heriau sy’n wynebu tirwedd peirianneg yr oes sydd ohoni.

Un o elfennau allweddol y rhaglen hon yw dysgu creu mantais gystadleuol drwy gynllunio a strategaeth weithgynhyrchu effeithiol. Byddwch yn astudio sut i weithredu mesurau rheoli ansawdd a phrosesau gweithgynhyrchu dylunio  sy’n cynhyrchu cynhyrchion sy’n bodloni manylebau manwl gywir. Drwy ddeall y berthynas rhwng rheoli prosiectau a gweithgynhyrchu, byddwch yn datblygu ymagwedd systematig at fynd i’r afael â phrosiectau, gan eich galluogi i droi cysyniadau cymhleth yn ganlyniadau diriaethol.

Yn ogystal â sgiliau technegol, mae’r cwrs yn pwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o risg, yn ymwybodol o gost, ac yn ymwybodol o werth. Byddwch yn dysgu am gyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r diwydiant mecanyddol a gweithgynhyrchu. Mae’r ddealltwriaeth gyfannol hon o’ch cyfrifoldebau proffesiynol yn hanfodol mewn byd lle mae cymhlethdod gweithgynhyrchu yn aml yn plethu ag ystyriaethau byd-eang.

Nodweddir tirwedd peirianneg weithgynhyrchu fodern gan  farchnad sy’n newid yn gyflym, gan herio argraffiadau traddodiadol o’r sector. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i addasu i’r newidiadau hyn, gan sicrhau eich bod yn barod i fodloni gofynion y dyfodol.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen BEng (Anrh) achrededig yn llwyddiannus, byddwch wedi cyflawni’r gofynion academaidd angenrheidiol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig yn rhannol. Ar ben hynny, bydd angen i chi ymgymryd â dysgu ychwanegol i fodloni’r safonau a amlinellir gan Safonau’r DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Nid yn unig mae’r llwybr hwn yn eich paratoi’n syth ar gyfer cyfleoedd yn y maes ond hefyd mae’n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol hirdymor.


Trwy waith prosiect, fe gewch brofiad ymarferol, gan wella’ch sgiliau peirianneg wrth wneud cyfraniadau sylweddol i’r maes. Bydd y wybodaeth a’r profiad a gewch yn eich grymuso i chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol gweithgynhyrchu, lle mae arloesedd a chyfrifoldeb yn mynd law yn llaw.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn pwysleisio cymhwysiad ymarferol, meddwl beirniadol a chydweithio. Trwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ragori ym maes peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn yn egwyddorion peirianneg fecanyddol, mathemateg, a gwyddor defnyddiau. Byddwch hefyd yn dysgu dylunio drwy gymorth cyfrifiadur (CAD) a hanfodion prosesau gweithgynhyrchu, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau uwch mewn cymwysiadau peirianneg a datrys problemau.

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg 1

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth ddyfnach a’r defnydd o ddynameg, thermodynameg, a dadansoddi straen. Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglennu peirianneg ac offeryniaeth, wrth edrych yn ogystal ar drin defnyddiau swmp a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch i ehangu eich sgiliau technegol.

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Rheoli Arloesedd a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Dynameg

(20 credydau)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Thermohylifau a Rheolaeth

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo mewn meysydd megis peirianneg offer ac asedau, dulliau cyfrifiannu, a rheoli prosiectau. Byddwch yn ymgymryd ag aseiniad ymchwil mawr dan arweiniad prosiect, gan gymhwyso’r holl sgiliau a ddysgwyd gennych i ddatrys problemau peirianneg cymhleth, wrth ystyried hefyd eich cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, ac amgylcheddol.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosesau a Deunyddiau Uwch

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Mecaneg Thermohylifau Uwch

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

    Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol yw Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau