ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Peirianneg Fecanyddol (Mynediad Uniongyrchol i Lefel 6) (Rhan amser) (BEng Anrh)

Abertawe
2 Flynedd Rhan amser
112 o Bwyntiau UCAS

Nod y rhaglen Peirianneg Fecanyddol yw dysgu hanfodion gwyddor peirianneg fecanyddol i chi, a’i defnydd mewn dylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianneg. Defnyddir peirianneg fecanyddol ym mhob maes diwydiannol lle caiff peiriannau eu defnyddio neu eu dylunio ac mae’r galw am beirianwyr sydd wedi cael addysg dda’n parhau’n uwch na’r cyflenwad.

Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg a bydd yn eich galluogi i ennill amrywiaeth o sgiliau sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

Yn un o raddedigion y rhaglen hon, byddwch yn ceisio sicrhau atebion cynaliadwy i broblemau a bydd gennych strategaethau ar gyfer bod yn greadigol ac yn arloesol a goresgyn anawsterau trwy ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ffiseg, mecaneg, gwyddor deunyddiau, trosglwyddo gwres a thermodynameg, mewn modd hyblyg, wrth astudio system fecanyddol. Bydd pwyslais ar ddatrys problemau trwy gymhwyso sgiliau rhifiadol, cyfrifiannol, dadansoddol a thechnegol, gan ddefnyddio offer priodol.

Bydd y rhaglen hon hefyd yn meithrin eich agwedd broffesiynol a’ch gallu i weithio yn rhan o dîm wrth gynyddu eich effeithiolrwydd fel cyfathrebwr sy’n gallu arfer cyfrifoldeb a dulliau rheoli cadarn.

Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu yn rhai sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau a dderbyniwyd o 2015 hyd at, a chan gynnwys, 2023: BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (3 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15964), BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (4 Blynedd Rhan Amser; cyf EngC 15964).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cewch astudio ar ein campws o’r radd flaenaf ger y Glannau yn Abertawe (SA1) sydd werth £300m.
02
Prosiectau allgyrsiol fel 'Peirianwyr heb Ffiniau' a 'Her Dylunio Peirianneg IMechE'.
03
1af Yng Nghymru a’r 20 uchaf yn y DU Peirianneg Fecanyddol - The Guardian University Guide 2024
04
Mynediad 24 awr i CAD y campws a chyfleusterau meddalwedd eraill.
05
Mae 98.4% o’n graddedigion o’r llynedd mewn gwaith neu addysg lawn amser.
06
Carfannau a grwpiau addysgu bach.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bwriad y rhaglen BEng Peirianneg Fecanyddol yw dysgu hanfodion gwyddor peirianneg fecanyddol i fyfyrwyr, a’i defnydd mewn dylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianneg. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu.

Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill casgliad o sgiliau a fydd yn berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Dyma enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol: Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.

Mae gweithgynhyrchu yn y DU yn cynnig gyrfaoedd sy’n talu’n dda i raddedigion peirianneg a gwyddoniaeth. Er gwaethaf hyn, mae llawer o ffynonellau’n dogfennu’r prinder peirianwyr ym maes diwydiant y DU, sy’n golygu bod gan raddedigion o’r cyrsiau hyn lawer o opsiynau ar gael iddynt.

Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (3 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15964) a BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol gyda blwyddyn mewn diwydiant (4 Blynedd Llawn Amser; cyf EngC 15965) wedi’u hachredu yn rhai sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng).

Mae’n well gan rai cyflogwyr recriwtio o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Gorfodol 

Prosesau a Deunyddiau Uwch

(20 credydau)

Mecaneg Thermohylifau Uwch

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifol neu dechnegol, i gynnwys gradd B neu uwch mewn Mathemateg neu Ffiseg. Mae gradd C mewn TGAU Mathemateg hefyd yn ofynnol. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Gellir ystyried profiad diwydiannol perthnasol hefyd wrth benderfynu cymhwysedd ar gyfer gofynion mynediad.

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn cymryd eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o’ch gallu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Hoffwn roi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Mae gan fyfyrwyr ar y math hwn o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw manteisio ar y diddordeb hwnnw fel bod y myfyrwyr yn mwynhau dysgu ac yn gwerthfawrogi’r buddion y gall gradd mewn peirianneg eu hychwanegu er mwyn atgyfnerthu eu meysydd diddordeb.

    Bydd yr asesiadau ar gyfer y rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd modylau megis y prosiect grŵp a’r prosiect Mawr hefyd yn cynnwys cyflwyniadau lle cewch gyfle i arddangos eich gwaith.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyrwyr

    Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau myfyrwyr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol am weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, ac mae’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sy’n ddewisol. Mae myfyrwyr sy’n dewis dilyn interniaethau/lleoliadau gwaith fel arfer yn cael eu hariannu gan y brifysgol (hyd at £1000) i dalu am gostau teithio a byw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o raglenni a gynigir gan yr ysgol wedi dod o hyd i waith mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y rolau canlynol: peiriannydd gweithgynhyrchu, peiriannydd dylunio, peiriannydd cynnal a chadw a pheiriannydd prosiect. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu gyrfaoedd, ac mae llawer ohonynt bellach mewn swyddi peirianneg neu reoli uwch yn eu sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o uwch beirianwyr, arweinwyr adran a rheolwyr adrannol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu mawr fel Ford a Tata.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau