ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Gweithrediadau a Gweithgynhyrchu Uwch (Rhan amser) (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd, rhan amser
112 UCAS

Mae’r Radd-brentisiaeth Gweithgynhyrchu a Gweithrediadau Uwch (BEng Anrh) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig llwybr ymarferol a hyblyg i’r rhai sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector gweithgynhyrchu. Mae’r rhaglen ran-amser hon yn ddelfrydol ar gyfer darpar weithwyr proffesiynol a gweithwyr profiadol sy’n ceisio dyfnhau eu harbenigedd ym maes  peirianneg gweithgynhyrchu a gweithgynhyrchu uwch.

Wedi’i gynllunio i gydbwyso astudiaeth academaidd â defnyddiau yn y byd go iawn, mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i ennill profiad diwydiannol gwerthfawr  heb amharu ar eich cyflogaeth. Gydag amserlen hyblyg, gallwch ddatblygu sgiliau proffesiynol newydd  ac ehangu eich gwybodaeth wrth barhau yn eich rôl bresennol.

Mae’r rhaglen yn ffocysu ar adeiladu sylfaen gadarn mewn egwyddorion peirianneg, archwilio tueddiadau blaengar mewn gweithgynhyrchu uwch, a chymhwyso’r rhain i sefyllfaoedd byd go iawn. Byddwch yn ymdrin â meysydd allweddol fel awtomeiddio, systemau rheoli ac arferion cynaliadwyedd, gan sicrhau eich bod yn barod i fynd i’r afael â heriau diwydiant sy’n datblygu’n gyflym.

P’un a ydych chi’n dechrau yn y sector gweithgynhyrchu neu’n dymuno ffurfioli’ch sgiliau presennol gyda gradd gydnabyddedig, mae’r brentisiaeth hon yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi ragori. Mae’r cyfuniad o hyfforddiant ymarferol a dysgu academaidd yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a gwaith arloesol ym maes peirianneg gweithgynhyrchu.

Mae’r rhaglen hon hefyd yn gyfle gwerthfawr i ennill cymhwyster uchel ei barch wrth ennill profiad uniongyrchol yn y gweithle. Trwy uno dysgu ymarferol â mewnwelediadau damcaniaethol, mae’n cefnogi eich datblygiad gyrfaol ac yn sicrhau eich bod yn barod i fodloni gofynion gweithgynhyrchu modern.

Mae’r Radd-brentisiaeth Gweithgynhyrchu a Gweithrediadau Uwch yn darparu ymagwedd flaengar at ddatblygiad proffesiynol, sy’n ei gwneud yn ddewis delfrydol i unrhyw un sy’n dymuno tyfu o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
4 blynedd, rhan amser
Gofynion mynediad:
112 UCAS

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn cyfuno systemau dylunio peirianneg, awtomeiddio a gweithgynhyrchu â modylau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gwella prosesau a rheoli ansawdd. Byddwch yn ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol trwy brosiectau a lleoliadau sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Pynciau a Chredydau Modylau

Blwyddyn Un
Adeiladwch sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg, gan gynnwys mathemateg, prosesu defnyddiau, a gwella ansawdd.

Blwyddyn Dau
Dysgwch am ddylunio prosiectau a chynaliadwyedd wrth wella eich gwybodaeth am systemau rheoli drwy gymwysiadau ymarferol.

Blwyddyn Tri
Byddwch yn archwilio methodolegau Six Sigma, dylunio gweithgynhyrchu uwch, a systemau awtomeiddio.

Blwyddyn 4
Byddwch yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth ac arloesi trwy brosiect ymchwil mawr ac astudiaethau technegol uwch.

Gorfodol 

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Gweithrediadau a Pherfformiad Peiriannau

(20 credydau)

Ansawdd a Gwella Busnes

(20 credydau)

Pas Cydran
Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Craidd

Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Prosiect Diwydiannol Grŵp

(40 credydau)

Gorfodol

Dylunio Prosiect

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Craidd

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Gorfodol 
Rheoli ac Awtomeiddio

(20 credydau)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu

(20 credydau)

Pas Cydran
Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Craidd
Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Gorfodol 
Technoleg Rheoli

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mathemateg Safon Uwch (Lefel A) a phwnc gwyddoniaeth addas, Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg neu flwyddyn sylfaen mewn peirianneg yw’r gofynion traddodiadol. 

    Byddwn yn ystyried ystod o gymwysterau neu brofiadau amgen. Rhoddir mynediad uniongyrchol i lefel 5 i fyfyrwyr sy’n meddu ar HNC, HND neu’r cyfwerth. 

    Ystyrir pob cais a phrofiad gwaith proffesiynol fesul unigolyn. Hoffem hefyd weld eich bod yn frwdfrydig ac â chymhelliant i wneud y cwrs a bod gennych y potensial i elwa o astudiaethau rhan amser, sy’n gallu cefnogi datblygiad eich gyrfa.

  • Addysgir myfyrwyr trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y cwrs i ddatrys problem beirianneg ddilys o’r gweithle.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau