ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Hanes yr Henfyd (Llawn amser) (MA)

Caerfyrddin
2 Blynedd Llawn amser
Gradd anrhydedd 2:2 , neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS

Mae’r MA mewn Hanes yr Henfyd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd ag angerdd am y gorffennol, gan gynnig cyfle i blymio’n ddyfnach i hanes Gwlad Groeg yr Henfyd, hanes Rhufeinig, a meysydd diddorol eraill. 

Mae’r cwrs ôl-raddedig hwn yn berffaith os ydych chi am ehangu eich gwybodaeth am yr henfyd ac archwilio cymhlethdodau’r cymdeithasau hyn yn fanylach.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn astudio ffigurau allweddol mewn hanes, megis Alecsander Fawr ac Iŵl Cesar, tra hefyd yn dysgu am fywydau bob dydd pobl gyffredin yn yr oesoedd a fu. Mae’r modylau’n ymdrin â phynciau fel rhyfela a’r economi yn Hanes yr Henfyd, gan eich helpu i ddeall sut y gweithredodd y cymdeithasau hyn, o’u strategaethau milwrol i’w systemau masnach.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil arbenigol. Byddwch yn ymgysylltu â thestunau hynafol trwy astudiaethau Gwlad Groeg yr Henfyd ac astudiaethau Lladin, tra hefyd yn archwilio sgiliau technegol astudio llawysgrifau ac arysgrifau hynafol. Drwy fireinio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn Hanes yr Henfyd, byddwch yn barod iawn ar gyfer ymchwil academaidd neu yrfa mewn gwahanol feysydd.

Mae ein rhaglen meistr yn mynd y tu hwnt i ddarlithoedd yn unig. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sy’n cynnwys dulliau addysgu arloesol, gan sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol a dealltwriaeth gadarn o’r deunydd. Byddwch yn archwilio hanes gwahanol ranbarthau, gan gynnwys hanes y Dwyrain Agos a chymdeithasau Affro-Ewrasiaidd. Mae’r cwrs hefyd yn edrych ar sut y dylanwadodd yr henfyd, gan gynnwys yr Ymerodraeth Rufeinig, ar yr hyn a wyddom fel gwareiddiad clasurol heddiw.

Gyda ffocws cryf ar sgiliau theori ac ymarferol, mae’r MA Hanes yr Henfyd hwn  yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n frwdfrydig am ddeall y gorffennol a chymhwyso’r wybodaeth honno i ymchwil fodern neu waith proffesiynol.

Rydym yn cynnig dulliau astudio hyblyg ac mae’r cwrs hwn ar gael naill ai’n llawn amser ar y campws neu drwy ddysgu o bell.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2 , neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein MA Hanes yr Henfyd yn darparu ymagwedd ddeinamig, myfyriwr-ganolog at ddysgu. Rydym yn cyfuno dulliau traddodiadol gyda thechnegau arloesol, gan annog meddwl annibynnol, dadansoddi beirniadol a sgiliau ymarferol.

Gydag ystod eang o fodiwlau diddorol i ddewis ohonynt, byddwch yn archwilio hanes cyfoethog cymdeithasau Groegaidd a Rhufeinig yr Henfyd, yn astudio ffigurau dylanwadol ac yn ymchwilio i agweddau ar fywyd bob dydd hynafol ar draws cymdeithasau’r Ymerodraeth Rufeinig, y Dwyrain Agos, ac Affro-Ewrasia. 

Ein nod yw eich arfogi â’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer ymchwil academaidd neu yrfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â hynafiaeth.

Sylwer: gallai modylau redeg ar system bob yn ail flwyddyn A/B. Gwiriwch pa fodylau sy’n rhedeg ar gyfer eich blwyddyn mynediad dewisol. 

Gorfodol 

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Dewisol

Hanes a Diwylliant yr Henfyd Diweddar

(30 credydau)

Celf a Chynrychiolaeth yn y Hen Ddwyrain Agos

(30 credydau)

Agweddau ar Grefydd a Chwlt Groegaidd a Rhufeinig

(30 credydau)

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Grym a Diwylliant yn y Dwyrain Helenistaidd

(30 credydau)

Rhufain a Chefnfor India: Y Byd Clasurol mewn Cyd-destun Byd-eang

(30 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Llwybrau mynediad amgen  

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

     Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Mae ein gradd MA Hanes yr Henfyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. 

    Yn ogystal â thraethodau traddodiadol, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau â€” llafar a PowerPoint — creu crynodebau, papurau cynhadledd mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir.

    Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae’r myfyriwr yn cael ei asesu ar bwnc o’i ddewis ei hun mewn perthynas â phob modiwl, ac mewn ymgynghoriad â’r tiwtor perthnasol bob tro. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu trwy draethodau hir, ond asesir rhai modiwlau trwy ddulliau amgen, megis cyflwyniadau ar ffurf cynhadledd.

  •    Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Ein nod yw eich arfogi â’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer ymchwil academaidd neu yrfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â hynafiaeth.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau