ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Astudiaethau Canoloesol (Llawn amser) (MRes)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r MRes mewn Astudiaethau Canoloesol yn radd ymchwil uwch a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sydd ag angerdd am y cyfnod Canoloesol. Mae’r rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio’r Oesoedd Canol drwy bynciau megis Hanes, Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Celtaidd ac Archaeoleg. Drwy gyfuno elfennau a addysgir ag ymchwil annibynnol, mae’r radd hon yn darparu’r sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaeth academaidd bellach neu yrfa sy’n gofyn am sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf.

Mae myfyrwyr yn elwa o draddodiad hirsefydlog y Brifysgol o addysgu ac ymchwil mewn Astudiaethau Canoloesol, gyda mynediad at academyddion blaenllaw a phrosiectau uchel eu proffil fel ‘Ystrad Fflur’ a ‘Cymru’r Mynchlogydd’. Mae’r cwrs yn defnyddio arbenigedd ac adnoddau unigryw, yn enwedig Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen, sy’n gartref i dros 35,000 darn o waith printiedig, 8 llawysgrif ganoloesol, bron i 100 llawysgrif ôl-ganoloesol, a 69 incwnabwla. Mae’r casgliadau hyn yn darparu adnodd cyfoethog ar gyfer ymchwil gwreiddiol ac archwilio ysgolheigaidd.

Mae’r rhaglen MRes wedi’i chynllunio i ddatblygu arbenigedd ymchwil uwch. Mae traean o’r cwrs yn cynnwys modylau a addysgir, sy’n ymdrin â phynciau allweddol mewn Astudiaethau Canoloesol ochr yn ochr â hyfforddiant dulliau ymchwil hanfodol. Mae’r ddwy ran o dair sy’n weddill yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil annibynnol, a ddatblygir mewn cydweithrediad â goruchwyliwr profiadol. Mae’r strwythur hwn yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio eu diddordebau deallusol yn drylwyr wrth ennill profiad ymarferol mewn dylunio, cynnal a chyflwyno ymchwil.

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl yn feirniadol, datrys problemau, rheoli prosiectau a chyfathrebu effeithiol. Mae’r sgiliau hyn nid yn unig yn hanfodol ar gyfer gyrfaoedd academaidd ond hefyd yn werthfawr mewn sectorau sy’n gofyn am fewnwelediad ymchwil a dadansoddol, gan gynnwys addysg, treftadaeth, cyhoeddi a pholisi cyhoeddus.

Mae’r MRes mewn Astudiaethau Canoloesol yn arbennig o addas ar gyfer graddedigion sy’n awyddus i arbenigo yn y cyfnod Canoloesol wrth baratoi ar gyfer dilyniant posibl i astudio PhD. Mae’n cynnig strwythur dysgu hyblyg, gydag opsiynau rhan-amser a dysgu o bell ar gael, gan ganiatáu i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau o amgylch ymrwymiadau eraill. Gydag arweiniad arbenigol a mynediad at adnoddau rhagorol, mae myfyrwyr yn dod yn rhan o gymuned ymchwil fywiog, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud cyfraniadau ystyrlon i’w maes.

P’un a ydynt yn anelu at yrfa yn y byd academaidd, treftadaeth, neu faes arall sy’n canolbwyntio ar ymchwil, mae’r MRes yma mewn Astudiaethau Canoloesol yn darparu’r sylfaen ar gyfer llwyddiant, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwilio’n ddwfn i’r gorffennol wrth ddatblygu arbenigedd ar gyfer y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysgu arbenigol gan staff arbenigol sy’n weithgar ym maes ymchwil ac adnoddau eithriadol yn naliadau arbenigol Llyfrgell Roderic Bowen
02
Dosbarthiadau bychain yn seiliedig ar seminarau
03
Opsiwn i’w chwblhau’n llawn amser neu’n rhan-amser

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Wrth wraidd y MRes mewn Astudiaethau Canoloesol mae ymrwymiad i addysgu a arweinir gan ymchwil, meithrin chwilfrydedd deallusol ac ysgolheictod annibynnol. Mae’r rhaglen yn cyfuno seminarau dan arweiniad arbenigwyr, goruchwyliaeth unigol, a phrofiad ymarferol gyda ffynonellau gwreiddiol. P’un a ydych yn astudio ar y campws yn Llambed neu drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh), mae myfyrwyr yn ymwneud â chymuned ymchwil gydweithredol a chefnogol.

Blwyddyn 1

Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol ac yn archwilio ystod amrywiol o themâu canoloesol. Mae’r modwl gorfodol, Pobloedd y Gorffennol, Cymdeithasau’r Presennol: Dulliau a Sgiliau Ymchwil, yn darparu hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil hanesyddol, astudiaethau llawysgrif, ac ymagweddau damcaniaethol. Mae modylau dewisol yn caniatáu i fyfyrwyr deilwra eu hastudiaethau, gan gwmpasu pynciau megis llenyddiaeth Geltaidd, hanes y mynachlogydd, menywod yn y canoloesoedd, dyniaethau digidol, a chaffael iaith Lladin. Mae’r cwrs yn annog archwilio rhyngddisgyblaethol, gan ddarparu sylfaen gref ar gyfer ymchwil annibynnol.

Blwyddyn 2

Mae’r ail flwyddyn wedi’i neilltuo i’r traethawd ymchwil MRes (Astudiaethau Canoloesol), prosiect ymchwil sylweddol 30,000 o eiriau a gyflawnir gydag arweiniad gan oruchwyliwr profiadol. Mae’r traethawd hir hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gynnal ymchwil gwreiddiol mewn maes o’u dewis, gan ymgysylltu’n feirniadol â ffynonellau gwreiddiol a dadleuon academaidd. Mae natur annibynnol y flwyddyn hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a rheoli prosiectau lefel uchel, gan eu paratoi ar gyfer astudiaethau doethurol neu yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar ymchwil.
 

Gorfodol

Pobl y Gorffennol, Cymdeithasau Heddiw: Dulliau a Sgiliau Ymchwil
Traethawd Hir Mhres (Astudiaethau Canoloesol)

Dewisol

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau'r Mabinogi

(30 credydau)

Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o'r Rhanbarthau Celtaidd

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Ffaith neu ffuglen? Llenyddiaeth a Hanes
Hanes a Haneswyr
Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Thomas Becket
Mynachlogydd a'r Byd: Astudiaethau Hanes Sistersaidd yr Oesoedd Canol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, ymarferion ieithyddol, asesiadau llafar ac un traethawd hir 30,000 o eiriau.

  • Tua £300 ar gyfer deunydd darllen. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae meysydd cyflogaeth yn cynnwys:

    • Amgueddfeydd
    • Archifau
    • Y sector dreftadaeth
    • Llenorion Proffesiynol
    • Marchnata

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau