Yr Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros yr amgylchedd, dyma’r adeg i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn y maes. Mae lefelau cyflogaeth yn uchel ac mae cyfleoedd i gael gyrfaoedd hir.
Cewch ddatblygu’r sgiliau a gwybodaeth i’ch galluogi i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac i fanteisio ar gyfleoedd. Dysgwch a defnyddiwch y wyddoniaeth.
Ar y rhaglenni hyn, byddwch yn gwneud astudiaethau ymarferol ar dripiau maes, lle cewch ddefnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r cyfleoedd i wneud gwaith ymchwil ymarferol yn cynnwys mynediad at dir hen fwynglawdd yn y Farteg, sy’n ‘labordy agored’ ar gyfer astudio ailsefydliad bioamrywiaeth ar domenni glo, Prosiect Adfer Mawndiroedd Castell-nedd Port Talbot, a phrosiect plannu a monitro coed Bannau Brycheiniog.
Gyda ffocws ar reolaeth, cadwraeth a pheirianneg amgylcheddol, bydd ein cwrs yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi sy’n berthnasol i wahanol ddiwydiannau. Byddwch yn datblygu galluoedd datrys problemau ac yn annog newid ymddygiad cynaliadwy. Cewch brofiad gwerthfawr drwy wirfoddoli ac ymgysylltu â phrosiectau.
Bydd ein tîm addysgu ymroddedig, ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr, a’n cydweithrediadau â’r diwydiant yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth rhagorol. Mae ein graddedigion wedi cael swyddi gydag awdurdodau lleol, ym meysydd cynllunio ecolegol, rheoli gwastraff, a mwy. Mae’r pwyslais rydym ni’n ei roi ar gymhwyso theori yn ein harfer yn eich paratoi ar gyfer swydd rheolwr o fewn y maes amgylcheddol.
Dyma bwnc enfawr sy’n cwmpasu llawer o’n pryderon mawrion, megis dod o hyd i ynni, costau byw, tyfu bwyd a gwastraff plastig, i enwi ond rhai. O ganlyniad, mae ein graddedigion wedi mynd i weithio mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Gallech ddewis canolbwyntio ar faterion daearyddol, fel erydu arfordirol er enghraifft, neu fynd i ystyried gwastraff a ffasiwn moesegol. Efallai y byddwch yn dewis gweithio ym maes polisi a llywodraethu economaidd.
Dyma’r adeg i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd ym maes yr amgylchedd. Sbardunwch y newidiadau y mae ein planed eu hangen, a dechreuwch ar yrfa werth chweil mewn gwaith amgylcheddol. Ymunwch â ni, a chael effaith hirhoedlog ar ein byd.
Pam astudio Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd yn PCYDDS?
Spotlights
Straeon Myfyrwyr
“Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang iawn o bynciau, ac rwyf wedi’u mwynhau ac elwa ohonynt yn fawr. Ar yr un pryd, gallwch ffocysu’n rhwydd ar eich diddordebau penodol ar gyfer aseiniadau, gan ddefnyddio gwahanol lensys i archwilio eich diddordebau trwy gydol y cwrs. Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan yn ymarferol, ac mae’r holl ddarlithwyr yn gefnogol iawn.” - Rowan Jack Moses, Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd (BSc)
Cyfleusterau
Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnwys labordai amgylcheddol ac adnoddau ar gyfer gwaith maes, bydd gennych fynediad i brofiadau dysgu ymarferol. Mae ein hamgylchoedd hardd, o benrhyn eithriadol Gŵyr i’r Bannau Brycheiniog syfrdanol, yn cynnig y gefnlen berffaith ar gyfer dysgu ac archwilio.