Cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd wedi’u lleoli ar gampws bywiog glannau Abertawe gan gynnig ystod eang o offer maes a labordy, sy’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr. Defnyddiwn ardal naturiol hardd Abertawe a thu hwnt yn labordai byw i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol y byd go iawn trwy ddysgu rhyngddisgyblaethol a chymhwysol. Ochr yn ochr â chyfleusterau arbenigol, caiff myfyrwyr fynediad i lyfrgell gynhwysfawr a digonedd o fannau astudio.
Our Facilities Include
Mae ein cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd yn cynnwys:
Dau Labordy â Meddalwedd Arbenigol: Yn cynnwys Proteus VSM, meddalwedd ddylunio Easy PC, MATLAB, ANSYS HFSS, MPLAB, crynhoydd CCS PIC C, Factory IO, Siemens TIA, Virtual Instrument gan LJ Create, a chipio drwy Pico-Scope.
Offer Arbenigol: gan gynnwys osgilosgopau digidol, osgilosgopau ar gyfrifiaduron (Pico-Scope), cyflenwadau pŵer allbwn triphlyg, cynhyrchwyr signalau gydag uwch swyddogaethau modyliad, rhaglenwyr micro-reoli PIC, ‘breadboard’ a chyfleusterau sodro. Storfeydd cydrannau helaeth, Siemens S1200 PLCs a HMIs.
Mae gan bob gorsaf yn ein cyfleuster addysgu electroneg osgilosgop digidol, generadur signalau, cyflenwad pŵer aml-allbwn, a rhyngwyneb rhaglennu micro-reoli er mwyn caniatáu i’n myfyrwyr ymgymryd ag ymarferion ymarferol i ategu’r hyn a ddysgir mewn dosbarthiadau.
Ynghyd â meddalwedd efelychu a dylunio o safon diwydiant, mae ein cyfleusterau yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr gael profiad ymarferol o ddylunio, profi ac ymdrin â diffygion mewn cylchedau electronig, gan eu paratoi am heriau yn y byd go iawn ym maes peirianneg drydanol ac electronig.
Drwy arbrofi dan arweiniad a dysgu seiliedig ar brosiectau, gall myfyrwyr archwilio cysyniadau megis dadansoddi tonffurfiau, prototeipio cylchedau, a rhaglennu systemau mewnblanedig, gan feithrin dealltwriaeth fanwl o egwyddorion damcaniaethol a’u cymwysiadau ymarferol. Ein nod yw meithrin amgylchedd dysgu sy’n meithrin arloesi ac yn grymuso myfyrwyr i ddod yn ddatryswyr problemau medrus ac yn arloeswyr ym maes deinamig electroneg.
Ein lleoliad fel Adnodd Dysgu
Mae ein rhaglenni’n elwa o’n lleoliad ac yn ei ddefnyddio fel Adnodd Dysgu, gan wneud defnydd o’r amgylchedd naturiol hardd o’n cwmpas, gan gynnwys:
-
Traeth Abertawe: Gyda’i system twyni trefol datblygedig, sy’n cael ei fonitro ar hyn o bryd fel labordy byw
-
Bryn Cilfai: ac ailgyflwyno rhywogaethau brodorol.
-
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Lle bydd myfyrwyr yn gwirfoddoli i helpu i fonitro tir mawn ac ailgyflwyno bele’r coed.
-
Cwm Ivy: Gyda’i ecosystemau morfa heli.
-
Abertawe a’r ardaloedd cyfagos: a’i llu o safleoedd technoleg adnewyddadwy.
-
Lleoliad ein campysau: mae Caerfyrddin a Llambed yn amgylcheddau dysgu estynedig ar gyfer ein rhaglenni, gan annog myfyrwyr i feddwl am reolaeth ymarferol a chadwraeth y lleoliadau hyn.
Cyfleusterau Cyfrifiadura
Mae ein rhaglenni hefyd yn elwa o gyfleusterau addysgu a chyfrifiadurol o’r radd flaenaf a chanddynt ystod eang o danysgrifiadau data digidol (fel labordai Planet a gwasanaethau Digimap) a ddefnyddir ar gyfer GIS, synhwyro o bell, sesiynau ymarferol dosbarthiadau a phrosiectau traethawd hir.
Offer Geometrig
Mae ein hadran ehangach hefyd yn cynnal offer geomatig o’r radd flaenaf, gan gynnwys sganwyr laser daearol, gorsafoedd cyflawn, a cherbydau awyr heb griw a chanddynt amrywiaeth o offer synhwyro (gan gynnwys sganiwr Zenmuse L2 Lidar a sganwyr amlsbectrol eglur iawn).
Adnoddau Trawsadrannol:
Yn ogystal â’n cyfleusterau arbenigol, mae gennym gysylltiadau agos gydag adrannau eraill, sy’n rhoi i ni fynediad at Sbectrosgopeg Raman, sbectrosgopeg isgoch Fourier-transform (FTIR), offer argraffu 3D uwch, ystafelloedd trochi rhyngweithiol, ac amrywiaeth o offer adeiladu a realiti rhithwir.
Labordy Ynni
Mae ein Pecyn Ynni yn cynnwys:
-
Pecyn cell tanwydd a gynhyrchir gan yr hydrogen wedi’i seilio ar dechnoleg solar
-
Model tyrbin gwynt
-
Profi panel solar
Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.