ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Ydych chi eisoes yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol? Neu ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau gofal iechyd ymhellach? Efallai eich bod yn newydd i faes Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Gydag amrywiaeth o raglenni yn ein clwstwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe welwch fod gennym gwrs sy’n addas i chi.  

Mae ein rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig amrywiaeth o raglenni a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gael effaith gadarnhaol fel gweithwyr cysylltiedig yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, p’un ai a oes gennych ddiddordeb mewn bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’n ymchwilydd yn y sector.

Mae ein rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried y rôl bwysig y mae cymdeithas yn ei chwarae yn y sector yn y modd yr ydym yn gofalu am grwpiau amrywiol o bobl. Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu priod feysydd, a chanddynt blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddatblygu eich hyder a meithrin eich hunan-barch fel y gallwch fynd ymlaen i ddarparu gofal effeithiol yn y sector. Mae ein rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’u cynllunio i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth a’ch hyder flwyddyn ar ôl blwyddyn a rhoi’r hyblygrwydd i chi symud ymlaen wrth i’ch diddordebau ddatblygu.

Nid yn unig y byddwch yn graddio â chymhwyster ond gyda’r hyder hefyd i ymgymryd â’r byd gwaith wrth i ni eich herio’n academaidd i ddatblygu i fod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gorau posibl.

Pam astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS?

01
Dysgwch gan staff cefnogol, sy’n cynnig anogaeth ac yn ymarferwyr profiadol yn y sector.
02
Mae ein rhaglenni yn eich galluogi i ddatblygu’n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol.
03
Dulliau addysgu, dysgu a gofalu amlbwrpas ar draws ein rhaglenni.

Spotlights

Aelod o staff yn dangos diagram pry cop i ddosbarth

Cyfleusterau

Ystafelloedd dosbarth modern yw mannau cysegredig y rhaglenni hyn, sydd â thechnoleg glyweledol ac sydd wedi’u dylunio i hyrwyddo dysgu gweithredol, gyda digonedd o le ar gyfer cydweithio mewn grwpiau ac addysgu’n rhyngweithiol. 

Mae mynediad i lyfrgelloedd ar bob campws yn creu canolfannau ymchwil a dysgu. Gyda mynediad i gasgliadau helaeth o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data i’ch cefnogi yn eich gweithgareddau academaidd. Mae ein llyfrgelloedd, sy’n cynnwys ardaloedd eistedd cyfforddus, yn fannau delfrydol ar gyfer astudio a chydweithio. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.