ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cyfleusterau

Cyfleusterau

Mae ein rhaglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi’u cynllunio i roi addysg gynhwysfawr i fyfyrwyr, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf, gyda thechnoleg arloesol ac amgylcheddau dysgu rhyngweithiol, ac mae hynny’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu paratoi’n drylwyr ar gyfer bodloni gofynion y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Yn PCYDDS, rydym yn blaenoriaethu profiad y myfyriwr, ac mae yma gymuned gefnogol a chynhwysol lle gall myfyrwyr ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. 

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys

Mae gan fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol campws Caerfyrddin fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau gwych sydd wedi’u teilwra i gyfoethogi eu profiad dysgu. Mae dosbarthiadau addysgu bach a mannau addysgu pwrpasol yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn bersonol, ac mae argaeledd ystafell drochi yn hwyluso dysgu rhyngweithiol. Mae myfyrwyr yn elwa o ystod o offer TG i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil ac astudio, ac mae mannau addysgu awyr agored yn cynnig amgylcheddau dysgu hyblyg. Yn ogystal, maent yn derbyn cymorth gwerthfawr gan gymheiriaid, gan feithrin cymuned academaidd gydweithredol a chefnogol.

students outside dewi building carmarthen

Ystafelloedd trochi

Mae ein hystafelloedd trochi yn amgylcheddau dynamig a rhyngweithiol sy’n chwyldroi’r profiad astudio. Mae’r lleoliadau blaengar hyn yn defnyddio’r technolegau diweddaraf, fel realiti rhithwir a thafluniadau 360-gradd, i greu amgylcheddau realistig sy’n gwella dysgu a dealltwriaeth. Gall ein myfyrwyr drin a thrafod cysyniadau cymhleth mewn ffyrdd ymarferol, gallan nhw gydweithio â chyfoedion yn haws, a dysgu o brofiad mewn ffordd sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl mewn ystafell ddosbarth arferol. Trwy ymgolli yn yr amgylcheddau dyfeisgar yma bydd myfyrwyr yn cael gwell dealltwriaeth o’u pwnc.

Immersive room

Ystafelloedd Dosbarth Bach

Business and Management students

Addysgu Pwrpasol 

Aelod o staff yn rhoi cyflwyniad i ddosbarth

Cymorth gan Gymheiriaid 

Gastro students in fforwm student spaces

Amrywiaeth o Offer TG ar Gael

student using loan laptops

Addysgu sy’n Berthnasol i’r Diwydiant

Rydym yn canolbwyntio ar dechnegau dysgu arloesol er mwyn arfogi ein myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r sgiliau y byddan nhw eu hangen yn y diwydiant. Mae ein dull yn integreiddio’r defnydd o dechnolegau efelychu uwch, astudiaethau achos o’r byd go iawn, a phrofiadau ymarferol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ddofn o heriau a deinameg y maes. Trwy ein partneriaethau, gallwn roi cyfleoedd i fyfyrwyr fynd ar leoliadau gwaith ac i weithio ar brosiectau sy’n adlewyrchu arferion proffesiynol cyfoes, gan eu paratoi i ragori yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

A cohort of the Professional Practice Framework sitting around a table at a conference/ lecture
Oriel Gyfleusterau 

Campus Life

students at Carmarthen Campus

Bywyd ar gampws Caerfyrddin

Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.

four students on beach playing in shallow water

Bywyd Campws Abertawe

Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.